Roedd yna ieithoedd eraill i'w clywed yn y ffilmiau ond roedd hi'n amhosibl mynd i weld popeth, hyd yn oed i'r ffilm byff mwyaf ymroddedig a symudol.
Nes i mi, oedd yn dod o gwm diwydiannol yn y de sylweddoli fod tymor wyn bach yn galw am ofal a bugeilio ymroddedig, ac wedi'r wyna, oedden, roedden nhw nôl yn eu seddau.
Ac yr oedd ganddo gludydd arfau ymroddedig yn y pen porthor, Capten Jones.
Gellir priodoli llwyddiant y sianel i gorff o gyflwynwyr ymroddedig a hyblyg ynghyd âr cyfleoedd gwych a gynigir ganddi ar gyfer dyfeisgarwch a chreadigrwydd.
Eto i gyd y mae yn Llŷn niferoedd o deuluoedd ymroddedig a'u plant yn Gymry glan gloyw, a bydd y plant rheini yn siarad Cymraeg hyd ganol a diwedd y ganrif nesaf, oherwydd y mae yn Llŷn hefyd gyniwair mewn Clybiau Ffermwyr, mewn Adrannau o'r Urdd, mewn Cyfarfod Plant ambell i gapel, mewn tafarn Gymraeg Gymreig, mewn Eisteddfod a Sioe a Chyrddau Pregethu a rasus motos.
Gobeithiwn y byddwch yn datblygu'n athrawon ymroddedig a brwdfrydig a fydd yn ceisio hybu dysgu gwyddoniaeth fel profiad sydd yn cyfoethogi'r unigolyn ac fel pwnc sydd o bwys yn ein bywyd beunyddiol ac yn berthnasol iddo.
Un dirion a chydwybodol ac ymroddedig oedd fy mam.
Y rheswm pennaf am hyn yw fod yr actorion a'r cynhyrchwyr yn ymroddedig ac wedi mynnu meistroli, orau y gallent, grefft a disgyblaeth y llwyfan.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd hi'n aelod ymroddedig yn 'Central'.
Crynhoir hynny'n ddeheuig iawn mewn un cwpled lly cyfeirir at y noddwr ymroddedig yn ei swydd yn geidwad tŷ yn yr olyniaeth deuluol a weithredai 'â mawredd a chymeriad'.
Ond ni fyddai perfformiad o'r fath safon yn bosib heb lafur ymroddedig ymlaen llaw gan yr athrawon eraill, a chymorth y mamau dawnus oedd wedi addurno'r llwyfan a'r neuadd yn gelfydd a gwneud llawer o'r gwisgoedd tlysion.
Mae BAFTA Cymru yn ymroddedig i ddod â phobl o bob rhan o'r diwydiant cyfryngau at ei gilydd i drafod, rhwydweitho ac ymchwilio pynciau perthnasol a chyfoes a chynorthwyo i wella safonau drwy hyfforddiant, gweithdai a dangosiadau.
Y mae'r profion medrusrwydd wedi bod yn bwysig ac yn addysgiadol i lu mawr o fechgyn a genethod y Sir ac y mae dyled y mudiad i hyfforddwyr ymroddedig yn fawr.
Dydw i ddim yn meddwl fod y ffaith fy mod i'n Gristion ymroddedig yn effeithio ar fy marn i achos mae'n rhaid sylweddoli mai un co/ g mewn peiriant ydw i.