Ond ofnaf y buaswn i, yn y cyflwr hwnnw, wedi herio Goliath i ymryson yn ei ddull ei hun a'i wahodd i alw Og, Brenin Basan ato, i'w helpu.
Ar adeg felly byddai pob ymryson yn peidio rhyngddynt a rhyw ddeialog ymenyddol ddi-eiriau yn digwydd o fewn cylch y tawelwch.
Peidiwch â chamsynied, chwaith; nid gornest yn null y Barbariaid oedd hi, eithr ymryson ffyrnig gyda hyrddio, rycio a thaclo tanbaid.
Y rhai gyrfaid, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am yr 'adloniant' hwn - bychod yn ymryson am gymar.
Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.
Praw digon digamsyniol o fri unrhyw noddwr ac o fywiogrwydd llenyddol ei drigfan yw fod beirdd wedi ymryson am le o dan ei gronglwyd.
Loes i mi oedd cael fy nhaflu i ymryson ag ef yn y mater hwn.
Mor gras yw'r cywair yn y cwpled cyntaf, gyda'r canoli sylw ar y gair 'ymryson' (meddylier am gynodiadau tyrfus y gair) ac ar y tri ansoddair grymus 'ynfyd', 'chwerw' a 'blin'.
Nid ymryson rhwng dau ŵr cyffredin yw'r ymryson rhwng Llwyd a Manawydan, ond defnyddia Manawydan ei alluoedd mewn ffordd hollol wahanol i'r hyn a welir gan Lwyd a chan Wydion.
Dal i ymateb i'r ornest a wneir yn y penodau sy'n dilyn, yn gyntaf trwy'r ymddiddan digrif rhwng yr Yswain a'r Person - er na chuddir pechodau y naill na'r llall, cyflwynir portreadau digon cydymdeimladol o'r ddau hyn - yna yn yr ymryson bywiog pan yw Gwen yn ceisio dysgu pader i'r Person.
Yn ol Hywel ystorm, ef oedd 'Llafn angau brau bro Gynffig.' Ymryson barddol, ond odid, a geir yn yr awdl uchod.
Fel y cwympodd gwerth cyflogau yn ystod y blynyddoedd dilynol, heb unrhyw leihad yn yr oriau gwaith, gwelid mwyfwy o ymryson a streicio ar lefel leol.
Y mae gwrthdaro o fewn byd natur yn ymhlyg yn y trawsnewidiad hwn, er enghraifft cynhelid ffug-ymladdfeydd yn portreadu'r ymryson rhwng Haf a Gaeaf.
Yn ei Salmau Cân yn ogystal ag yn ei gywyddau ymryson â William Cynwal ac eraill dengys Edmwnd Prys ei lwyr feistrolaeth ar Gymraeg clasurol yr hen feirdd.
Dduw mawr, lle mae trugaredd?" 'Roedd yn rhaid i mi wneud rhywbeth i'w dawelu, gan fod oriau o ymryson gyda dyn fel hwn yn mynd i fod yn feichus a diflas tu hwnt.
Yn yr Eisteddfod buom yn gwrando ar y ddarlith wyddonol, 'Newid Natur', ac Ymryson y Beirdd gyda De Ceredigion, Caerfyrddin a Chaernarfon yn cystadlu.
Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.