Rhydd argraff gref iawn ei fod yn nabod y llenorion y mae'n eu trafod, yn eu gweld yn fyw yn eu cyd-destun cymdeithasol, ond hefyd yn ymuniaethu â hwy fel unigolion (e.e., wrth gyfeirio at Forgan Llwyd y gŵr swil, neu wrth ddweud yn ei erthygl ar 'Weledigaeth Angeu': 'Mae'n anodd heddiw ddarllen unrhyw awdur na wynebodd wallgofrwydd'.
Wrth ymuniaethu â'r meirwon trwy gyfrwng y symbol cyll Gŵr Glangors-fach y gallu i fyw fel dyn.
Eto i gyd, nid oedd hynny'n rhwystr i'r ferch gyffredin ymuniaethu â'r santes.
Yn union fel y cymerodd Duw ddyndod arno'i hun yng Nghrist, ni chyll dyn ei ddyndod wrth ymuniaethu â Duw trwy ffydd.
Trwy ymuniaethu â dyn a chymryd arnoi'i hun holl etifeddiaeth ei bechod a'i gondemniad, cyflawnodd Crist waredigaeth gostus a barodd ei gymodi â Duw.
'Rydym felly i fod i ymuniaethu a'r cymeriadau mewn rhyw empathi oesol hollgynhwysol.
Mae'n debyg ei bod wedi newid ei thaid yn nain yn y nofel oherwydd bod hen wragedd o'r math yna yn elfen o bwys yn ei chymdeithas (sylwer ar y pwyslais ar ei nain a'i hen fodryb yn Y Lon Wen), ac hefyd fel bod Jane Gruffydd yn gallu ymuniaethu a hi.
(Gweler erthygl Jane Cartwright yn y rhifyn hwn.) Ar y llaw arall, mae'n ddiddorol fod y bardd yn cyfarch Mair, fel petai'n ymuniaethu â hi yn ei galar am ei mab cyn agor Ei fedd yntau.