Yr oedd ein dillad mor amryliw a siaced fraith Joseph' gan amled y clytiau oedd arnynt....Ond yr oeddym yn 'wyn ein byd,' ac yn ddiarwybod i ni ein hunain, yn ystorio argraffiadau oeddynt i fid yn weledigaethau hynaws, prydferth, ymhen llawer o ddyddiau ac wedi i ni ymwasgaru ar hyd a lled y byd.
Ond pan ddaeth hi'n bryd noswylio, ac ar ôl i'r tyrfaoedd ymwasgaru, fe ddisgynnodd rhyw brudd-der dwys ar Idwal.