Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymweld

ymweld

un o'u dyletswyddau cyntaf yno oedd ymweld â'r barwn humboldt yn potsdam, er mwyn ei wahodd i lywyddu'r gynhadledd.

Roedd Ysgol Uwchradd Che Guevara y bÉm i'n ymweld â hi yn un o'r escuelas del campo, ysgolion y wlad, ond plant o'r ddinas oedd y rhan fwyaf o'r disgyblion.

Ar ôl ymweld â hi gyntaf yn y chwedegau, pan oedd rhywfaint o weithio yno, bu yn ôl lawer gwaith ar ôl iddi gau, gan seilio cyfres gyfan o luniau arni.

Ac yntau, bellach, wedi gwneud enw iddo'i hun yn Ewrop mae'n destun syndod iddo gytuno i ymweld o gwbl a thref mor ddiarffordd a'r Gaiman i ganu gyda chôr o amaturiaid.

Doedd neb yn mynd i ymweld ag ef.

Fe ddylen nhw, o bawb, wybod pa mor ofnadwy o annheg yw hi i ymweld ag anwiredd plant ar eu tadau.

am yr ail sadwrn yn olynol bydd wrecsam yn teithio i swydd efrog gan ymweld a huddersfield town tîm sy'n ei chael hi'n go anodd i sgorio gartref.

Cofiaf ymweld â Chlwb Ro-wen am y tro cyntaf.

Ond eto, ni ddaeth neb i ymweld ag ef.

Adroddai fy nhad amdano yn ymweld a chymydog adeg y Nadolig.

Ac yn ei blaen yr aeth â'i brwydr, gan ymweld yn gyson â Lewis, a'i gael yn anobeithio ac yn fwyfwy chwerw.

Cyn gadael Addis i ymweld ag Arsi, roedden ni wedi cael gorchymyn i ddychwelyd i'r brifddinas cyn iddi dywyllu.

Serch hynny, nid yw'r sioeau amaethyddol yr ydych yn ymweld a hwy yn ystod yr haf yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer y bridiau Cymreig yn unig.

Y dydd y bu+m i yno roedd yno filoedd o blant ysgol - y mae ymweld â Wawel yn rhan fwy neu lai gorfodol o yrfa bob disgybl cyn cyrraedd pymtheg oed.

Mae nifer o'r adar sy'n ymweld â'r llecyn cadwraeth yn adar y goedwig ac maen nhw'n tueddu i barhau i fwydo ar yr un lefelau ag y bydden nhw'n ei wneud yn y goedwig.

Mae Elin yn ymweld â chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg siop y pentref.

Ar y ffordd bydd y cerddwyr hefyd yn ymweld a chanolfannau Vodafone (Newbury, 12-1pm Mercher) a BT Cellnet (Slough 4.30pm).

Cawn nifer o'r bechgyn yn ymweld â mi o bryd i'w gilydd, ac un diwrnod galwodd y Capten i'm gweld.

Mae'n wybyddus i lawer sut y bu i William ymadael â'r Methodistiaid yn Llansannan yn sgil penderfyniad yr henaduriaid i ddiarddel ei gyfaill Joseph Davies am ei fod wedi cerdded adref ar fore Sul i ymweld â'i wraig ar ei gwely angau, fel y tybiai ef ar y pryd.

Bu Catherine Pierce yn ymweld â Thyddyn Bach rai troeon yn ystod y gwanwyn, ac yn aros yno am bythefnos.

A phrun bynnag, meddai, petai o'n dechrau poeni am bob tþ gwag roedd o'n ymweld â nhw byddai ar ei ben yn y seilam.

Unwaith, ac yntau'n ymweld ag un o ffermydd yr ardal, dywedodd gwraig y fferm wrtho ei bod eisoes wedi talu i'w dad.

Bu Alison Quinn hefyd yn ymweld â Mexico a Montserrat i recordio rhaglenni oedd yn edrych ar y gwaith elusennol a wneir gan Gymry ym mhob cwr o'r byd yn For Love Not Money, tra y teithiodd y gohebydd materion cymdeithasol, Gail Foley, i Chernobyl gyda grwp o blant o'r ardal yn dychwelyd adref ar ôl gwyliau yng Nghymru, i weld sut y mae trychineb 1986 yn parhau i effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Ar y daith i Lundain mae aelodau'r Gymdeithas wedi bod yn ymweld â nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt â phen y daith, gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.

Ffordd ddrud o gyrraedd ychydig o bobol fyddai hi, meddai John Ellis o Theatr Clwyd, wrth i Gyngor Ffilm Cymru lansio dogfen Cine/ mobile i Gymru ac fe fydd "fel llong ofod yn ymweld o dro i dro%, meddai David Gillam o Valleys Arts Marketing.

Yn ogystal â hyn bydd arddangosfa symudol yn ymweld â threfi a phentrefi penodol yn mhob cyngor cymuned a thref yn ystod y cyfnod ynghyd â phamffled yn egluro pwrpas a swyddogaeth y cynllun lleol ynghyd â hysbysu'r cyhoedd o'r arddangosfa yn cael ei ddosbarthu i bob cartref yn y Dosbarth.

Oni all yr Wyl Gerdd Dant ymweld a lleoedd o'r fath, yna man a

Yn y Gaiman fe gês i'r profiad o ymweld â chymdeithas dynion Y Bwthyn.

Heddiw mae'n arferiad cyffredin gan rai i ymweld â'r farchnad unwaith neu ddwy yr wythnos.

Heb son am yr hen wreigan ymarferol honno sy'n defnyddio tai bach y Rex pan yw'n ymweld a'r ardal bob yn ail wythnos.

Deuai'r rheolwr i'r gwaith bob dydd, gan ymweld â'r gwahanol adrannau yn eu tro.

Cais llawn - tŷ unllawr amaethyddol a modurdy Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

Dywedodd Alun Michael iddo ymweld âr ysbyty ddwywaith yn ddiweddar - yn ceisio cywain pleidleisiau i Lafur, mae'n debyg - ond ddim digon i gadw Helen Mary draw.

Ac wedi iddo gyrraedd y gwaelod, efe a gyfododd ar ei draed ac a ystyriodd ynddo'i hun pa un a ddylai efe ymweld â swyddfa perchen yr adeilad i erfyn arno ddiswyddo'r wraig dlawd.

Rydw i wedi dod I Oz i ymweld a hen ffrind yn ysgol gyfun Ystalyfera.

Cawsom gwpanaid o de a chyfle i ymweld a'r crochendy a'r ganolfan grefftau coed yn Sarn.

Dangosodd optimistiaeth a gorhyder ffôl, wedyn, trwy fynnu, yn groes i bob cyngor doeth, ymweld â Dallas, lle 'roedd y trigolion yn ei gasa/ u?

Yng ngwir draddodiad roc a rôl fe gawn hanes y grwp yn ymweld a thy un o drigolion gwylltaf Caernarfon ac yn colli eu pennau mewn mwy nag un ystyr , gymaint âu bod yn...colli eu brên a theimlo fel ceffyl pren.

Felly pan ddaeth y gwahoddiad i ymweld â brodyr a chwiorydd o Gristnogion yn Tsiecoslofacia, mae'n rhaid dweud i rhyw fflam o ysbryd anturus godi yn fy nghalon.

Wedi cyrraedd y ddinas, rydw i a'r criw ffilmio yn penderfynu ymweld â'r ty bwyta Milano, sy'n cynnig dewis da o fwyd ac sy'n boblogaidd gyda gweithwyr cymorth.

Bydd rheolwr gofal cartref neu weithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi.

Hedfan dros y byd, ymweld â gwledydd gwahanol a thynnu lluniau.

Y Pab yn ymweld â Phrydain.

Cynigiwyd fod y swyddogion rhanbarth ynghyd â Meira Roberts yn ymweld â Changen Bontnewydd yn y dyfodol agos.

Gyda chymorth cyfryngwyr (mediums) megis Y Prifardd Elwyn Roberts a Winni Marshall, treuliodd ef flynyddoedd lawer yn ymweld â thai ac yn cynorthwyo pobl a boenid gan bresenoldeb ysbrydion.

Yn rhinwedd ei swydd aruchel fe aeth i ymweld a ffatri ym Moscow un tro, medden nhw, ond fe'i synnwyd ac fe'i siomwyd yn arw oherwydd fod y gweithlu mor ddiystyriol ohono.

Yn wir, 'roeddwn yn y coleg diwinyddol yn Llandaf cyn magu digon o ddiddordeb i fynd i wrando ar Fritz Kreisler a oedd yn ymweld a Chaerdydd ar y pryd; ac nid tan fy nyddiau yn gurad yn Y Waun, Sir Ddinbych, y dechreuais wrando o ddifrif ar symffoniau a phedwarawdau Beethoven, Mozart a Schubert.

Aeth bron awr heibio heb yr un arwydd bod neb am ymweld â'r ffynnon.

Dywedodd Meira Roberts ei bod hi ar gael yn rhinwedd ei swydd i ymweld â changhennau yn rhad - i ddangos sleidiau a hysbysebu'r Mudiad.

Eu henwcynnes a chyfeillgar hwy arno oedd 'the lad', a daliodd i ymweld a'r eglwys am flynyddoedd hir wedyn.

Ceisiwch hefyd gael cyfle i ymweld a rhai o'r sioeau carafan, yn enwedig y brif sioe fly- nyddol a gynhelir yn Earl's Court Llundain bob Hydref.

Pan ddeuai'r ferch draw i ymweld ag ef, gwelai Sian ei fod yn awr byth a hefyd a'i fryd wedi'i ennill gan y diddordeb annifyr hwn.

Cefais gyfle yn y saith degau i ymweld a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gyda'r g^wr (OE Roberts) pan oedd ef ar fin cyhoeddi hanes bywyd y Dr John Dee.

Nid oedd y Dirprwywyr yn cyfyngu eu hymweliadau i leoedd diwydiannol; byddent yn ymweld â phob sir, gan adrodd gyda'r un trylwyredd ar ysgolion mewn ardaloedd gwledig a'r cymunedau yr oeddynt yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae modd ymweld a'r eglwysi hynafol sy'n llechu oddi mewn i waliau'r Kremlin ei hun, ac yno gwelir lluniau hardd yn addurno'r muriau.

Roedd e'n arfer bod yn fasnachwr yn Hargeisa, ac mae e newydd ymweld â'r ddinas - o leiaf, yr hyn sydd ar ôl ohoni.

Ar ôl ymweld â mynwentydd yr ardal, chwilio cofrestri'r plwyfi cyfagos a holi rhai o ddisgynyddion y teulu yn nyffryn Aman a'r cylch, cesglais dipyn o wybodaeth am y Wythi%en Fawr, gan feddwl croniclo'r hanes mewn rhyw fodd neu'i gilydd pan ddeuai gwell hamdden yn y dyfodol.

Cais llawn - addasu ac ymestyn adeiladau allanol i ddarparu llety ar gyfer oedolion gyda salwch meddwl Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

Gair i gall: mae angen gofyn caniatâd y perchennog cyn ymweld â chaeau Tan y Bwlch.

'Doedd Peter ddim yn awyddus i dri gorllewinwr gael eu gweld gyda'u gilydd yn ymweld â'r Cristnogion, heb wybod mwy am y sefyllfa.

Ond yma mae'r meirw yn eu 'parlyrau perl', a'r marwol arbennig hwn, yn holl addewid ei ddisgleirdeb, ynghladd mewn erw anghyffredin iawn na ddichon i'r byw byth ymweld â hi.

Cymdeithas Hanes Trefnwyd gwibdaith i aelodau'r Gymdeithas Hanes, Maesteg i LanbedrpontSteffan i ymweld â'r Coleg.

Ar ôl treulio deuddydd yn ymweld â chanolfannau bwydo Mogadishu, lle'r oedd rhywfaint o drefn - a gobaith - wedi'u hadfer, fe ddes i'r casgliad mai cyfleu cymhlethdod newyn yr o'n i am geisio'i wneud.

Dafydd a Branwen a phob ddi-smygwr arall sydd wedi bod yn agos at swyddfa'r Gymdeithas am ddioddef fy mwg; Owain am y sylwadau hollol diwerth; Grant am deutha fi sut i gyhoeddi blincin' peth i ddechrau; pawb sy 'di cyfrannu a chefnogi; pawb sy 'di rhoi cysylltiadau i'r Tafod Trydanaidd ar eu tudalennau Gwe nhw; pawb sy 'di ymweld â'r Wefan hon; pawb sy 'di cynorthwyo a chefnogi Cymdeithas yr Iaith rhywsut rhywbryd -- diolch am eich ysbrydoliaeth a'ch gwaith. Cas-berson y Mis

Mae amrywiaeth o drychfilod yn ymweld â'r rhain gan gynnwys gwenyn a gle%ynnod byw.

Mi wnes yn saff o 'mhethe am weddill ein harhosiad yn Llunden drwy baratoi rhestr o'r manne i ymweld â nhw.

Un noson ym mis Gorffennaf roedd Debbie a'i brawd Darren yn ymweld â'u mam-gu, Mrs Mary Regan, a oedd yn saith deg pedwar mlwydd oed.

Dyna felly a gaed yn y ddrama - dilyn hynt a helynt dwy chwaer oedd wedi troi eu cefnau ar ei gilydd ers deng mlynedd ac yn dychwelyd i ymweld â'u mam oedd yn dioddef o afiechyd.

Ar y daith i Lundain fe fydd aelodau'r Gymdeithas yn ymweld a nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt a phen y daith gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.

Bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith sy'n cerdded o'r Cynulliad yn Caerdydd at y Senedd yn Llundain yn ymweld â phencadlys Orange heddiw ar y ffordd, yn Almodsbury, i'r gogledd o Fryste.

Cais adeilad rhestredig - addasu ac ymestyn adeiladau allanol i ddarparu llety ar gyfer oedolion gyda salwch meddwl Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

Mae Menna Elfyn wedi teithio dros y byd yn darllen ei gwaith i gynulleidfaoedd; mae'r llefydd anghysbell y mae hi wedi ymweld â hwy a'r bobl y mae hi wedi eu cyfarfod yn ychwanegu at ei gwaith.

Ar waethaf protestiadau'r wraig, llwyddaf, ar bob gwyliau, i ymweld â'r ffermydd lleol.

Wedi inni fod yn gweithio yn y chwarel am ryw bythefnos, cawsom orchymyn i ymweld â meddyg am archwiliad, ond nid ein meddyg ein hunain.

Cofiwch am y penwythnos o ddathlu llawen yn Aberystwyth wrth i'w Mawrhydi ymweld â'r dref -- penwythnos Twll Tîn i'r Cwîn, a gynhelir yn y Cwps.

Yn bersonol, gallaf gyfrif ar un llaw yr adegau y bu+m yn ei syrjeri, fel y tro hwnnw y bu'n trin archoll gwifren bigog rhag gwenwyno'r gwaed A'r tro arall cyn imi ymweld â chyfandir Asia, pan warchododd fi rhag polio a malaria, heb anghofio'r pigiadau llymion hynny rhag y tetanus a'r teiffoid.

Plwyfol, yn ystyr orau'r gair, yw'r newyddion a geir ynddynt ond yn aml y maent yn ffenestr i'r byd i'r graddau eu bod yn cynnwys adroddiadau gan drigolion lleol, neu am drigolion lleol sydd wedi ymweld a rhannau dieithr o'r byd, neu sy'n byw dramor.

Gyda llaw, dydio ddim yn fwriad gen i ymweld a Sir Fôn yn y dyfodol agos.

Yn ôl Iolo Morganwg, cafodd ei rybuddio ganddynt y byddent yn ymweld â'i gartref yn Nhrefflemin a mynd trwy ei bapurau.

Mae David Beckham yn ymweld ag arbenigwr heddiw, i benderfynu a oes angen llawdriniaeth ar ei benglin.

Ac ar ddydd Dimitri gallwch fod yn ymweld a thua deg o deuluoedd.

Y math o gemau fyddai'n cael ei chwarae ar nos Wener fyddai'r rheini lle mae'r tîm sy'n ymweld â'r Cae Râs ddim yn dod â llawer o gefnogwyr gyda nhw.

Yn y llaw-fer yma, dynoda'r llythyren gyntaf y pentref cyntaf i ymweld ag ef, yr ail lythyren yr ail bentref, ac yn y blaen.

Ceisiwch wneud byrddau adar a llestri i ddal bwyd a dŵr i'r adar a chofnodwch y nifer a'r rhywogaethau sy'n ymweld â'r safle, gan nodi yn ogystal y - Dyddiad - Amser - Tywydd - Beth wnaeth yr aderyn ei fwyta?

Mewn un awdurdod, yr Athro/ awes B/Fro sydd yn gyfrifol am ymweld ag ysgolion yr hwyrddyfodiaid yn ystod y dyddiau pan na fydd y disgyblion yn y ganolfan, er mwyn sicrhau dilyniant i'r gwaith.

Oedd, roedd Stuart wedi dysgu lle'r oedd 'i le fe fel creadur du 'i groen, a chael 'i atgoffa ohono bob tro'r âi i fyd yn gwynion tu fas i ardal y docie, neu pan ddâi rhywun o'r tu fas i lawr i'r clinig plant neu i ymweld ag Ysgol Mount Stuart.

Yn benodol, fe stopiais fynd ar deithiau, ymweld ag amgueddfeydd, neu fynd i ddigwyddiadau mawr cyhoeddus.

Os ydych yn ymweld â'r ardal cymerwch gipolwg ar Yma ac Acw.

tro nesaf y byddwch yn ymweld a chanolfan arddio, edrychwch ar y gwahanol fathau o gemegau sy'n cael eu harddangos.

Gallwch hefyd ymweld â'n colofn wythnosol yn BBC Cymru'r Byd am y newyddion diweddaraf o'r blaned bop.

Bydd Caerlyr yn ymweld â'r 'House of Pain' - Heol Sardis - i chwarae yn erbyn Pontypridd heno.

Yn eu tro cant eu bwyta gan greaduriaid eraill sy'n byw yno neu'n dod i ymweld o dro i dro.

Os byddwch yn ymweld â Chaeredin ar gyfer y gêm fawr cyn bo hir piciwch i'r goedlan fechan sydd i'w gofio yng ngerddi Prncess Street.

Yno roedden ni'n dysgu sut i ddysgu eraill, sut i ymweld â'r claf, sut i bregethu, sut i wrando; yr holl grefftau roedd eu hangen ar offeiriad, a'r cwbwlan yr un teitl â 'Pastoralia'.

Yna, un dydd, tra oedd hi'n ymweld â'i mam yn y pentre' nesa', fe aeth y milwyr â'i gŵr.

Daw Eli ato a'r newydd fod y darpar brynwyr ar fin ymweld a'r sinema a daw Mona draw i'r helpu i lanhau'r hen adeilad yn y gobaith y bydd gwaith ar gael iddi.

Yn yr un modd credid gynt na ddylai mam a oedd newydd roi genedigaeth i blentyn fynd i ymweld â phobl heb yn gyntaf fynd i le o addoliad.

Treuliwyd wythnos ar arfordir yr Atlantig, lle buont yn ymweld â chymunedau diarffordd iawn.

Roedd Parti Ponty, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, ym mis Mehefin yn arwydd uchelgeisiol o hyn: dathliad diwrnod cyfan o'r iaith Gymraeg gyda miloedd o bobl yn ymweld â'r parc, a BBC Radio Cymru yn darlledu mwy na 14 awr o raglenni gan gynnwys grwpiau amlwg megis Eden a Gwacamoli.

Er na ellir rhoi llawer o goel ar hynny, mae'n werth crybwyll bod yr hanesydd Rhys Amheurug o'r Cotrel yn son am feirdd Rhys ap Tewdwr yn ymweld a llys Iestun ap Gwrgant ym Morgannwg - dywed mai hyn fu dechrau'r ymrafael rhwng y ddau dywysog; mewn un copi'r hanes, dywedir mai beirdd Morgannwg a aethai lys Rhys, ac fe'u disgrfir hwy'n ei foli mewn cerdd.