Dywedir bod un ardal yng ngogledd Ethiopia wedi cael rhai o'r cawodydd trymaf erioed yn dilyn ymweliad gan newyddiadurwyr o Norwy.
Bydd yr hen dwb golchi sy'n nghefn y ty yn cael ei sbyddu am bryfaid genwair bach rhai rwyf wedi eu casglu'n ofalus drwy'r haf - a dyna fi'n barod am ymweliad â'r Ddyfrdwy i drotio am lasgangen yn ystod y tri mis hwn!
Wedi'r ymweliad yma, mae mwy o ddiddordeb nag erioed yn cael ei ddangos gan Gymru yn Nicaragua, ac mae cynlluniau ar droed i gael uned yn yr Eisteddfod.
Bu'r ymweliad â Chaerdydd yn sicr yn ysbrydoliaeth.Yn ôl y Ouest France, beth bynnag.
Petai'n byw i fod yn gant ni fyddai'n anghofio'r ymweliad hwnnw.
Yn wahanol iawn i atgofion sur Syr Anthony Meyer yn ei lyfr sbeitlyd 'Stand Up And Be Counted' mae fy atgofion i am yr ymweliad hwn yn un hapus iawn.
Cofiai ymweliad cyntaf Del â'r Neuadd Wen - ei hunig ymweliad fel y digwyddodd.
Yr oedd dau o blant eraill ar yr aelwyd erbyn y Nadolig nesaf a ddaw i'm cof, ac fel pob bore Nadolig lle mae plant bydd helynt a stŵr a llanastr yn dilyn ymweliad Siôn Corn.
Diolchais i Dduw am y ddau brofiad anghyffredin a gawswn, gan wybod na fyddai "ond unwaith prin i'w dyfod hwy." Daeth trydydd ymweliad gan golomen wen mewn breuddwyd neu weledigaeth.
Cof gennyf o deithio droeon i Sir Fôn yn ystod y pedwardegau i wylio adar, ac uchafbwynt ymweliad berfedd gaeaf fyddai taro heibio Cors Cefni i gael golwg ar y Gwyddau Dalcenwen fyddai'n treulio rhan o'r gaeaf yno.
Gwrthwynebir yr ymweliad am sawl rheswm.
Gwerthfawrogir eu presenodeb gan blant y Gateway ac mae'r ymweliad bob amser yn rhoi boddhad a phleser i bobl ifanc Penuel.
Bu'r Cyngerdd Prom yn Neuadd Dewi Sant yn goron ar yr ymweliad.
Cof plentyn yn unig oedd ganddi amdano a'r cof hwnnw'n ddelwedd o ryw Siôn Corn, un a ddeuai ag anrhegion iddi, ac a arhosai am gyn lleied o amser nes gwneud pob ymweliad yn ŵyl.
(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.
Croeso, Dewi a Mair: Yr oedd yn braf gweld Mr Dewi Williams (Dewi six) o Gaerdydd a'i chwaer Mair ar ymweliad a'r teulu ym Mraichmelyn.
Tan heddiw, pan ddychwelais ar ôl ymweliad bythgofiadwy â Phrâg, a chael y papurau newydd yn llawn o'r hyn a oedd wedi digwydd yn yr Almaen dros y Sulgwyn, a ffacs ar fy nesg, yn gofyn a oeddwn yn dal yn awyddus i sgrifennu'r erthygl.
Cynigiwyd i fi ymweliad arall, i Johannesburg a Durban y tro hwn.
Hefyd fe'n paratôi ni at ymweliad boneddiges o Fangor.
I raddau helaeth, er hynny, roedd ymweliad Mrs Chalker, a'r holl ymdrechion a wnaed ar ran y Cwrdiaid am rai misoedd y llynedd yn dystiolaeth fwy amlwg nag a brofais i erioed o rym y wasg.
Arweiniai'r ymweliad hwn ni at ei hanes fel gwas bach (page boy) yn Llwyngwair gyda'r Boweniaid a'r atgofion am ymweliadau'r teuluoedd o'r Cilgwyn a Stradmore a'r dillad hardd a wisgent wrth y bwrdd cinio lle'r oedd disgwyl iddo weini yn gwrtais.
Daeth y tair wythnos i ben gydag ymweliad â Phorth Madryn - profiad swreal.
Tybed beth a ddywedai'r tadau gynt pe deuent ar ymweliad eto â'r henfro?
Bu'r Frenhines ei hun yma yn 1955 a phe bai aelod o'r staff wedi meiddio beirniadu'r ymweliad fe fyddai wedi colli ei swydd yn y fan ar lle.
Ar ôl yr ymchwydd yna, lle'r oedd yn amlwg yn drwm dan ddylanwad y pulpud, mae ei adroddaidau o ymweliad ag un o feysydd yr ymladd yn llawer nes at newyddiaduraeth fodern .
Ar ôl bwyta a thipyn o fân siarad teuluol, arweiniodd Gruff at bwrpas ei ymweliad.
Ma' hi yn cymryd amser maith i drefnu rhywbeth fel ymweliad arweinydd yn iawn, a bu gwaith caled yn mynd ymlaen.
Cafwyd cychwyn diddorol i'r ymweliad.
ymweliad a'r siop drin gwallt, tocyn record neu dusw o flodau.
Yn y Gymdeithas Gymraeg yr oedd ffilm yn cael ei dangos o ymweliad Côr Gyfynys a Phatagonia -- a gwelais amryw o gylch Stiniog ar y ffilm.
Un o aelodau seneddol ifanc y wlad a oedd wedi trefnu'r ymweliad.
CYD Aeth nifer o aelodau Cangen Maesteg o Gyngor y Dysgwyr ar ymweliad â Chae'r Delyn, Saint Hilari, Meithrinfa Carys a Patrick Whelan lle cawsant gyngor ar sut i drin planhigion.
Ac mae paratoadau ar y gweill ers blynyddoedd ar gyfer ymweliad gan y Pab.
Petai'r ymweliad wedi dwyn ffrwyth byddai diben sôn wrtho.
Canlyniad yr ymweliad yw'r lluniau a welir ar y tudalennau nesaf, sy'n ddetholiad o gasgliad llawer mwy.
PIERCE yn ystod ymweliad diweddar.
Dro arall y canfu+m i'r rhyfeddod prin yn ffurf oenig annhymig oedd achlysur ymweliad cerbydaid ohonom â Dolwar Fach, ym mlwyddyn dathlu daucanmlwyddiant geni Ann Griffiths, llynedd blwyddyn y gwres diddiwedd.
Cyn dyfodiad y peiriannau sydd â rhan mor amlwg heddiw yng ngweithgarwch y ffarm, ymweliad brysiog yn unig a wneid â'r ffair a gynhelid yn fisol.
Ymweliad diddorol dros ben.
Os nad oedd arweinwyr y bobl yn gwybod beth oedd yn digwydd, doedd fawr o obaith gan newyddiadurwr ar ymweliad brys.
Yr oedd Margot ar ymweliad a'i chynefin yn ardal Llanelli yn gynharch eleni ac wedi iddi ddychwelyd adref enillodd cerdd a gyfansoddodd yn sôn am ei thristwch yn gadael Cymru Gwpan Raphael Jones mewn cystadleuaeth flynyddol gan y gymdeithas Gymraeg yn Wellington.
Byddai'n rhywbeth i dynnu fy meddwl oddi ar ymweliad Idwal a Harriet, a chawn droi ymysg pethau Gwyn.
Un dydd, hanner ffordd trwy'r ymweliad, sefyll am ychydig funudau ar y briffordd lydan sydd, yn y pen draw, yn sgubo trwy ogledd y cyfandir o Berlin i Helsinki.
Dyma ymweliad cyntaf Owen ac Eurgain Jones â Chymru a ni chawsant eu siomi roedd yr haul yn gwenu ym Mhenybont a phopeth 'mor wyrdd'.
Gwadu'r cyhuddiadau mae Mr Morgan sy ar ymweliad swyddogol â Lyon yn Ffrainc.
Ar fy unig ymweliad i ag America yr oedd fy ffrindiau yno yn awyddus iawn imi beidio â hedfan i ddinas Efrog Newydd.
Onid oedd y Times ei hun ar ôl ymweliad â'r Albert Hall wedi bendithio llên a chân y Cymry am ei bod yn amlwg fod y Gymraeg yn ildio'n flynyddol ' ...' .
Fel y mae'n digwydd, dim ond ychydig yn llai nodedig fu 1998/99: ymweliad Cyngor Gweinidogion Ewrop â Chaerdydd, ymddiswyddiad Ron Davies AS o'r cabinet, y gystadleuaeth am arweinyddiaeth ei blaid, penderfyniad y BBC i wneud buddsoddiad enfawr ym maes newyddion a materion cyfoes yng Nghymru mewn ymateb i'r Cynulliad Cenedlaethol newydd, BBC Cymru yn lansio ei wasanaeth digidol cyntaf - BBC CHOICE Wales - y gwasanaeth cyntaf gan BBC Cymru i fod ar gael drwy'r DG.
Un o'r profiadau mwya' ysgytwol i mi oedd ymweliad â Cheung Euk, sef y `killing fields' enwocaf ar gyrion Phnom Penh.
Nid yn unig y mae senedd y wlad honno wedi penderfynu yn ddemocrataidd nad yw hi eisiau i Tyson ddod yno i ymladd ond y mae gweinyddiad y wlad yn cytuno a'r papurau newydd yno yn groch yn erbyn yr ymweliad oherwydd mai barn trwch y boblogaeth, hyd y gallwn gasglu, yw na ddylai gael dod yno.
'Wel, a be ydi dy farn di am yr Ap?' gofynnodd Emrys, wedi i Dan adrodd hanes ei ymweliad â'r swyddfa.
Ar ol ymweliad y Saeson yuppiaidd sydd a mwy o ddiddordeb yn y planhigion yn y cyntedd a'r darnau o art deco, daw'n fwyfwy amlwg na fydd y Rex yn ailagor.
(Y mae enghreifftiau eraill o hyn yn digwydd, megis y frech goch yn creu epidemig farwol ymysg pobl ynysoedd Môr y De yn dilyn ymweliad Capten Cook, neu siffilis ymysg morwyr Capten Cook yn dilyn eu hymweliad hwy â'r ynysoedd.
Doedd ei ymweliad â'r Unol Daleithiau ddim yn eithriad ac yntau'n teithio o gymuned Gymraeg yng nghwmni rhyw Gymro neu'i gilydd i weld arwyddion cynnydd neu olion Rhyfel Cartref.
Gyda phawb sy'n dod ar y penwythnos yn aros yng ngwesty pedair seren Jury's ynghanol Caerdydd bydd amser rhydd yn cael ei neilltuo ar gyfer mymryn o siopa Nadolig yn y brifddinas yn ystod yr ymweliad.
Ymweliad â Chymru Yn ddiweddar daeth yr Athro Alun Joseph ag un ar hugain o fyfyrwyr o brifysgol Gwelph, Canada ar ymweliad â Chymru.
Cinio yn y bae ac wedyn ymweliad â Stadiwm y Mileniwm.
Cyn yr ymweliad, yr oedd y ddwy haint yn gymharol ddibwys ymysg y poblogaethau a oedd wedi arfer â hwy, sef y morwyr â'r frech goch a'r ynyswyr â siffilis, ond bod yr effaith ar y boblogaeth newydd yn farwol.)
ac ymweliad y Tywysog Charles â Weatherfield.
Yn ystod ymweliad diweddar a Chanada sylwais fod hwn yn gwestiwn a oedd yn cael ei wyntyllu o ddifrif.
Yr ymweliad brenhinol o bwys gafwyd yn Aberystwyth ddiwethaf oedd yn 1969 pan ddaeth ddaeth Charles i'r Brifysgol lle gwnaeth ymdrech llai na llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.
Llwydda'r gwenyn gwryw i beillio'r blodyn yn ystod ei ymweliad.
Fe'm trawyd yn rhyfedd ar fy ymweliad cyntaf ag Ysgol Haf o'r Blaid fod pobl yn tybio mai plaid wleidyddol oedd y cyfrwng priodol ar gyfer gweithredu uniongyrchiol, pa un a oedd y weithred honno yn un y gellid ei chyfiawnhau ai peidio.
Bu 1998/99 yn flwyddyn arall o ddigwyddiadau nodedig - ymddiswyddiad Ron Davies a'r gystadleuaeth ddilynol am arweinyddiaeth ei blaid, ymweliad yr Uwch-gynhadledd â Chymru, lansio BBC CHOICE Wales a'n cynlluniau ein hunain ar gyfer datganoli.
Y cyfarfod nesaf fydd ymweliad â Thesco yn Nhrefforest.
Wedi'r ymweliad a'i thŷ breuddwydiasai'i bod hi'n ymddiddori ynddo ac y gallai hynny fod o fudd iddo.
Uchafbwynt yr ymweliad yma oedd gweld y Brifysgol wedi ei hagor a chyrsiau yn cael eu cynnig mewn coedwigaeth a bioleg y môr.
Yr oedd canghennau dwy siop lyfrau fawr Toronto - Chapters ac Indigo - yn rhai a wnaeth argraff ddofn arnaf yn ystod ymweliad diweddar - fel y gwnaeth siopau tebyg yn yr Unol Daleithiau.
TRIP YR YSGOL SUL: Fyddai Butlins ddim run fath heb ymweliad blynyddol Ysgol Sul Bethesda.
Roedd crwydro Belffast fel ffotograffydd ar ymweliad yn hytrach nag fel brodor yn ei alluogi i edrych ar y sefyllfa gyda gwrthrychedd newydd.
Y llun gyda'r mwyaf rhyfeddol a welais i mewn papur newydd yn ddiweddar ydoedd un o Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn reslo braich gyda merch ifanc o'r enw Yulia Beganova yn ystod rhyw ymweliad gwleidyddol neui gilydd.
Cysylltwch â ni ar 029 2032 2238 i drefnu ymweliad gan un o'n cynrychiolwyr.
Os edrychwch o'ch cwmpas yn ystod eich ymweliad a ni fe welwch fod yr iaith yn dal yn fyw ac yn iach ac mae'r optimistiaid yn ein plith yn credu fod y Gymraeg, efallai, wedi peidio ag edwino.
Dyna beth oedd ymweliad bythgofiadwy!
Cafwyd noswaith ddifyr a rhoddwyd croeso hefyd i Mr Cledwyn Jones mab Mr a Mrs Haydn Jones, Cil-y-Garth o Galgari, Canada oedd ar ymweliad a'i dad, sydd yn wael yn ysbyty Minffordd.
Sut bynnag, aeth digon o amser heibio i weld fod ymweliad byr Wil Twmpath wedi dylanwadu'n fawr ar fywyd yn N'Ogiaid, achos cyn gynted ag y profodd y Brenin Affos y wynwyn aethant yn ffefryn mawr ym mhlith bwydydd y llys, ac yr oedd Affos a'i wraig Navid, a Namotto eu merch yn ddigon poblogaidd i ddechrau'r ffasiwn trwy'r holl deyrnas.
Mae Cell Gogled Cerdigion wedi bod yn ystyried pa fath o wrthwynebiad ellid ei ddangos i 'r ymweliad brenhinol.
Cawsai ei danio gan ymweliad Sadhu Sundar Singh i gymryd y cam yma.
Ar yr ail ymweliad cefais annerch y Cyngor ar ei wahoddiad.
I'r sawl sy'n gaeth i'w tai, darperir gwasanaeth pwrpasol ar eu cyfer hwythau hefyd, gydag ymweliad misol i'w cartref gan staff arbenigol.
Yn dilyn ymweliad personol ag ardal Rhosllannerchrugog, daeth Vaughan Johnson i'r casgliad bod cysylltiad rhwng amgylchiadau byw gwael a chyfathrach rywiol y tu allan i briodas.
Swyddog pwysig yn ein henwad ni ydoedd, ar ymweliad â rhyw lety plant amddifad yn ardal y Bermo ac yn cynnal cyfarfod yn y capel i hyrwyddo'r gwaith hwnnw.
Y bwriad y flwyddyn nesaf yw anfon dirprwyaeth o ieuenctid o Gymru ac mae rhai eisoes wedi rhoi eu henwau ar gyfer ymweliad '97.
Pawb wrthi yn eiddgar awyddus yn paratoi ar gyfer ymweliad Ei Mawrhydi Elizabeth Windsor ar Fai 31ain.