Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymwelwyr

ymwelwyr

Ddydd Gwener, a hithau'n boeth, roedd y drysau a'r ffenestri ar agor ac mae'r brif fynedfa ar agor i ymwelwyr rhwng dau a chwech y prynhawn a rhwng saith ac wyth i dadau.

Canolfan ymwelwyr newydd sy'n cyflwyno hanes a diwylliant y Celtiaid, pobl y bu eu diwylliant yn dylanwadu ar hanes Ewrop ers 3000 o flynyddoedd.

Mae nifer o bobol busnes Trearddur yn dweud na fydd ymwelwyr yn gallu dod o hyd i'r lle heb y gair Bae ar ei gynffon.

Y mae cyfrinach llwyddiant ac enwogrwydd y cylchoedd glan môr hyn bellach ynghlwm wrth yr ymosodiadau cyson arnynt gan ymwelwyr o bob math rhwng Ebrill a Hydref bob blwyddyn.

Samwn yn cael eu rhwydo, dyrnaid o gychod yn cael eu hwylio a thipyn o ymwelwyr yn dod yno i synhwyro.

Mae'n hollol wir na wrthododd hithau roi croeso i bob math ar ymwelwyr, a i bod yn dal i wneud hynny, gan fod sylltau'r Portobello Road yn union yr un fath â rhai Knightsbridge pan gyrhaeddant goffrau'r gorfforaeth.

Agor chwareli Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog i ymwelwyr.

Y mae yn lle poblogaidd ymhlith ymwelwyr.

Deuai pobl o bob rhan o Gymru i edrych ar y Cloc Blodau rhyfeddol hwn, a dechreuodd rhai rhannau eraill o Gymru feddwl o ddifrif am gynllunio yr un fath o beth i ddenu ymwelwyr i'w hardaloedd nhw yn y dyfodol.

Fe'u huriai i ymwelwyr yn yr haf, ond ni yr hogiau lleol fynddai'n mynd a nhw ar y dwr ddechrau'r tymor ermwyn i'w coed chwyddo - eu 'stanshio' nhw ys dywedem.

Wedi i'r ymwelwyr gyflwyno anrheg ( blodau, potel o ddiod, llyfr, tegan ac ati) mae gwraig y ty yn rhoi iddyn nhw "glico tou coutaliou" (melys y llwy) sef darnau melys o ffrwyth ffres gyda sudd trostynt.

Enlli yw'r ynys swynol ger arfordir Gogledd Cymru sydd wedi bod yn hudo ymwelwyr ers miloedd o flynyddoedd.

Cynhyrchir catalog er mwyn hyrwyddo trefniadau sioe o ran y swyddogion, yn ogystal a rhoi gwybodaeth am y cystadleuwyr i ymwelwyr.

Hefyd ymysg yr ymwelwyr byddai arweinydd yr wrthblaid, oedd hefyd yn Llywydd Skol Uhel ar Vro(Sefydliad Diwylliannol Llydaw, rhywbeth tebyg i Gyngor Celfyddydau Cymru).

Yn wyneb y fath ansicrwydd ynghylch y dyfodol nid yw'n syndod fod rhai o'r eglwysi hynny sy wedi goroesi yn Rwsia yn dechrau denu addolwyr unwaith yn rhagor, yn ogystal ag ymwelwyr, er na ŵyr trwch y bobl fawr ddim am y ffydd Gristnogol.

Gan fod y lon wedi ei gwahardd i drafnidiaeth anamaethyddol, ychydig o ymwelwyr sy'n treiddio i Val da Camp ar ochr ddeheuol Bwlch Bernina.

Gwrandawant ar naratif huawdl a hir-wyntog y stori%wr oedrannus sy'n medru darllen tynged ei ymwelwyr ym mherfedd ceiliog.

Fe orffennodd y gyfres brawf rhwng Lloegr a Phacistan yn gyfartal, un yr un, ar ôl i'r ymwelwyr ennill gêm hynod yn Old Trafford.

Serch hynny, roedd hi'n ddiwrnod eitha diddorol gyda dau o fatwyr yr ymwelwyr yn sgorio dros hanner cant a bowlwyr Morgannwg yn dodir bêl yn y man iawn.

Yno 'roedd ymwelwyr fel gwenyn yn potio o gwmpas y dŵr, yn addasu'r camerâu'n ffwndrus i gasglu atgofion am yr ewyn gwyn yn disgyn ddawnsio'n swnllyd i'r ffrewyll.

Er gwaethaf hyn i gyd, roedd Mengistu yn llwyddo i roi'r argraff i ymwelwyr tramor ei fod yn foi iawn.

Ymwelwyr Daeth dwy wraig o Rwsia i Benybont ym mis Mehefin.

Rhwydodd Jason Bowen wedi o leia 12 pas gan yr ymwelwyr - Leo Fortune-West yn rhoi'r bas ola iddo.

Os bydd llwy yn syrthio i'r llawr, gallwn ddisgwyl ymwelwyr.

Nifer o ymwelwyr, yn enwedig myfyrwyr yn dod i'n croesawu gydag anrhegion.

Y mae cryn bryder yma ynglyn ag ymwelwyr o Brydain yn cyrraedd rhag ofn y bydd y clwy yn difetha'r economi.

Fe'i penodwyd yn un o'r ymwelwyr brenhinol i fwrw golwg tros yr Eglwys a sicrhau fod yr esgobaethau a'r plwyfi'n dilyn cyfarwyddiadau'r llywodraeth ac yn newid yr hen drefn babyddol.

Rhaid i ymwelwyr ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y rheolwyr neu staff waeth ym mha ffurf y cânt eu rhoi.

Mae nifer yr ymwelwyr i amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru wedi cynyddu 34% ers cyflwyno mynediad am ddim i blant a phensiynwyr.

Gwnaeth y ffaith fod Gwynn yn adnabod amryw o staff yr egin gwmni TV Breizh - neu Tele Breizh fel y'i gelwir - wedi gwneud tipyn o argraff ar yr ymwelwyr.

Wedi i'r ymwelwyr alwn gywir a gwahodd Lloegr i fatio gyntaf cyn pen fawr o dro yr oedd y wicedin syrthio.

Ni châi ymwelwyr na phapur newydd na llythyr na chyfeillachu â neb - a bwyd arbennig!

Yn Saesneg cyhoeddwn lyfrau hwyliog sy'n dysgu Cymraeg, llyfrau coginio, llyfrau i ymwelwyr a rhai gwleidyddol, diddorol.

Scunthorpe yw'r ymwelwyr ar Barc Ninian.

Roedd angen un rhediad oddi ar y belen olaf ond bowliodd Adrian Dale gapten yr ymwelwyr, Neil Smith, gyda'r belen honno.

Cymry, nid ymwelwyr o'r Cyfandir wedi newid eu gwisg, yw'r cymeriadau.

Fe allai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud, ergyd wych o ddeugain llath gan Sasha Opinel yn rhoi gôl i'r ymwelwyr ac yn brawychu ffyddloniaid Parc Ninian.

Yr oedd Steve Watkin yn anlwcus dros ben i fethu cipio wiced Ryan Driver yn ystod batiad yr ymwelwyr.

Yn gymysg â'r parch tuag at yr awdur, mae ymwybyddiaeth fod ei gysylltiad â'r ynys yn atyniad i ymwelwyr.

I'r fan honno roeddwn i'n anelu ar fwrdd hen sgwner anferth, yng nghwmni tua chant o ymwelwyr, i weld llosgfynydd sydd, er yn dal i ffrwtian, yn ddiogel i'w ddringo.

Canolfan ymwelwyr newydd syn cyflwyno hanes a diwylliant y Celtiaid, pobl y bu eu diwylliant yn dylanwadu ar hanes Ewrop ers 3000 o flynyddoedd.

Y chwaraewr a wynebodd y gosb honno dan law'r dyfarnwr, Meirion Joseph, oedd asgellwr Pen-y-bont, Doug Schick, am iddo droseddu yn erbyn Andy Hill, a hynny pan oedd yr ymwelwyr yn ennill o dri phwynt i ddim.

Aeth y 'fisitors' yn 'ymwelwyr', yn dwristiaid', yn anneddwyr, yn drigolion rhan-amser.

Roedd gan BBC Radio Cymru le amlwg ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gan gyflwyno wythnos o adloniant a gweithgareddau i'r ymwelwyr.

Mynd am dro i lan y môr, llawer o ymwelwyr yno.

Y mae'n amlwg nad yw pob newid er gwell, ond da o beth oedd nodi prisiau isel cerddoriaeth brintiedig a recordiau CD sydd, hyd yma, wedi osgoi'r fwyell faterol ac sy'n cynnig cyfle gwych i'r brodorion a'r ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau'r gelfyddyd am arian digon rhesymol yn y cyd-destun Ewropeaidd.

Sgoriodd yr ymwelwyr 224 am 4 (45.0 pelawd). Sgoriodd Morgannwg 228 am 4 (42.0 pelawd). 4 pwynt felly i Forgannwg.

camgymeriadau roddodd y gêm i'r ymwelwyr a rhaid dweud eu bod yn chwarae efo efo ar adegau.

b) Unwaith y mae'r holl staff/ymwelwyr wedi dod allan yn ddiogel o'r adeilad, mae'n rhaid hysbysu'r Heddlu a'r Frigad Dân ar unwaith yn y modd diogelaf agosaf.

Cawsom sgwrs gyda gŵr lleol oedd yn rhedeg trol a cheffyl ac yn cario ymwelwyr i fyny'r mynydd caregog oedd gerllaw.

Nid un o'r ymwelwyr yn dyheu am gipolwg o'r parti tu ôl i'r porth mawr, cywrain, gyda'r geiriau, Welsh Hills Works arno ond un o'r gwahoddedigion.

Ni chaiff cerbydau ei chroesi, a daw'r ymwelwyr yno'n llu ar eu ffordd o'r hen dref i fyny i'r castell ar ochr arall yr afon.

Murray Goodwin oedd arwr yr ymwelwyr - mae e wedi sgorio 148 heb fod mâs.

Gwelwyd nifer o ymwelwyr rhyfedd a threisgar hefyd yn glanio ar draethau Ynys Môn yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.

Dyw'r diwydiant ymwelwyr ddim o les mawr i'r rhan fwyaf o bobl gyffredin, fodd bynnag.

Fel pob pentref glan mor roedd yna ryw ddylanwad mawr oddi ar y Saeson, yr ymwelwyr, y bobl ddieithr - y "visitors".

Gwta awr a hanner y tu draw i frys soffistigedig Dubai mae Fujairah yn ardal boblogaidd gydag ymwelwyr o Ddubai ei hun ac - yn fwy aml y dyddiau yma - o dramor hefyd.

Mae'n brysur ar hyn o bryd gan fod y galwadau meddygol yn cynyddu pan fo ymwelwyr yn chwyddo maint y boblogaeth leol.

Mae'r Rwsiaid bellach yn ymwybodol iawn fod diffyg nwyddau yn y wlad o'i chymharu a gwledydd llewyrchus y gorllewin, ac o'r herwydd mae eu hagwedd tuag at ymwelwyr tramor yn atgoffa dyn weithiau o'r 'Cargo cults' ers talwm.

Mae tair rhan i Warchodfa o'r fath; y rhan addysgiadol sy'n arddangos adar dof i'r ymwelwyr, a'r rhan sy'n ymwneud â gwaith ymchwil, ac yn datblygu dulliau o fagu rhywogaethau prin a'u dychwelyd i'w cynefin gwyllt naturiol.

Bwrdd Cenedlaethol dros Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd - Mae Bwrdd Cenedlaethol Cymru yn ran o'r fframwaith reoliadol ar gyfer y proffesiynau nyrsio, bydwreigiaeth a gwasanaethau ymwelydd iechyd.