Ac egwyddor gyntaf ceidwadaeth yw ymwrthod â phob chwyldroad, cadw llinyn bywyd cymdeithas yn gyfan a didor, parchu yn fwy na dim arall mewn bywyd draddodiadau'r genedl.
Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.
Ochr yn ochr â hynny dechreuwyd ymwrthod â'r ddysgeidiaeth glasurol Gristionogol am effeithiau trychinebus pechod ar y bersonoliaeth ddynol.
Ni fedrodd yr Esgob Morgan ymwrthod â'r demtasiwn o adael i rai geiriau derfynu yn null iaith lafar ei gyfnod, dull sathredig a thafodieithol.
Yr egwyddorion sy'n galluogi'r siaradwr i gynhyrchu ac adnabod olyniadu derbyniol, h.y., gramadegol, ac ymwrthod â'r rhai annerbyniol yw busnes gramadeg.
Dihangodd Gwenfrewi rhag crafangau Caradog, ond torrodd Caradog ei phen ymaith â'i gleddyf, oherwydd iddi ymwrthod ag ef.
Edrycher ar y penderfyniad pasiffistaidd yn gyntaf, penderfyniad yn datgan fod y Blaid yn ymwrthod â dulliau milwrol ar gyfer ennill Ymreolaeth, a hefyd yn rhan o bolisi'r Gymru Rydd.
Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!
Canodd yn ddiriaethol glir, gan ymwrthod â'r demtasiwn o droi ei fugail yn weinidog.
Hyd yma, maent wedi ymwrthod rhag pob ymdrech gan FA Cymru i'w dwyn i mewn i'r gorlan Gymreig.
Yr Athro WJ Gruffydd oedd hwnnw: yntau wedi dod allan yn Bleidiwr amlwg yn sgil ei wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio, ac wedi'i gynhyrfu cymaint gan y prawf yn Llundain nes cyhoeddi y byddai Cymru mwyach yn cyfrif pob Sais yn elyn; galwodd ar Gymru oll i foicotio coroni'r brenin Siôr Vl, ond nid oedd hyd yn oed fro enedigol Gruffydd ei hun yn aeddfed i ymwrthod a the parti'r dathlu pan ddaeth yr adeg.
A llwyr ymwrthod a wnâi nifer sylweddol o'r plant - tua deuparth y disgyblion.
Yr oedd y deddfau hynny'n rhoi'r un breiniau i bobl Cymru â phobl Loegr, ond ar yr amod eu bod yn ymwrthod â'r Gymraeg.
Nid ymwrthod yn ymwybodol a'r diwylliant Lladinaidd er mwyn hybu'r diwylliant brodorol a wnaed.
Mae fel petai'n casa/ u anwadalwch y tir-neb syniadol sy'n ymwrthod â barn bendant.
A chan fod y gallu imperialaidd wedi diogelu'r holl swyddi enillfawr i'r sawl a oedd yn barod i ymwrthod â'r Gymraeg a siarad Saesneg, yr oedd wedi sicrhau'r union amodau oedd yn gwneud y Gymraeg yn ddiwerth - o leiaf, yn ddiwerth i'r sawl a fynnai swydd uchel ei chyflog a mawr ei dylanwad yn y gymdeithas.
I'r ddeuddyn hynny y cyfrennid iddynt ddawn Duw y rhoddwyd yn llawn y fraint o fwynhau ' oes winwydd mewn gras union'.Er cryfed ydoedd yr elfen dylwythol ac er mor anodd ydoedd ymwrthod ag awdurdod y tad dehonglid yr ystad briodasol yn bartneriaeth Gristnogol, a phywsleisid yr angen am undod o fewn y briodas honno a allai adlewyrchu undod y wladwriaeth dan y Goron.
Yr oedd ar raglen y Gynhadledd gynnig oddi wrth un o ganghennau'r Gogledd, yn galw am ymwrthod â pholisi economaidd tybiedig y Blaid, a mabwysiadu polisi pendant sosialaidd; yr oedd y cynnig yn faith iawn, gan ei fod yn manylu'n llawn am yr hyn a olygid.
Yn y lle cyntaf, fel y cawn weld maes o law, ceir yn y ddwy ymwrthod digon chwyrn a phendant a'r hyn a aeth o'r blaen.
Bu'r bardd yn un o golofnau'r achos dirwestol yn nyffryn Aman am flynyddoedd lawer, a bu'n areithio o blaid llwyr ymwrthod â diodydd meddwol ganwaith, er iddo yntau ar ei addefiad ei hun fod yn gaeth i'r arfer ar un adeg.
Argyhoeddwyd ef gan ddadansoddiad Murry fod ymwrthod ag uniongrededd yn rhagarweiniad anhepgor i ffydd lwyrach a chywirach.
Mae Rheol VI yn mynnu fod aelodau'r seiadau i ymwrthod â "gwylmabsantau, dawnsiau, chwareyddiaethau, gloddesta, cyfeddach, di%otta, a'r cyffelyb".
Cyn diwedd streic y Cambrian, penderfynasai Undeb y Morwyr ymwrthod â gwaith o fis Gorffennaf ymlaen, nes bod perchnogion y llongau yn cydnabod yr undeb ac yn talu cyflogau mwy rhesymol.
O'm rhan fy hun, er credu ohonof ddyfod yr adeg i ramantiaeth hithau ddatblygu yn glasuraeth newydd, megis yr aeddfedodd dyneiddiaeth y Dadeni yn glasuraeth, eto ni welaf i y gellir ymwrthod ag egwyddor hanfodol rhamantiaeth.
Yr oedd Lloegr wedi ymwrthod ag awdurdod Pab Rhufain.
Roedd yna fath o eglwys gynulliedig o siaradwyr Cymraeg na allent, hyd yn oed pe dymunent, ymwrthod yn llwyr a chynhesrwydd y profiadau a'r cofion a oedd yn gyffredin iddynt.
Wrth ailadrodd y gair 'pechod' yn ei 'Lythyr' yr oedd Saunders Lewis yn dangos yn glir ei fod yn ymwrthod â rhyw foesoldeb cysetlyd, arwynebol, ond yn Žedu yng ngrym moesol llenyddiaeth yn ystyr ehangaf a dyfnaf y gair 'moesol': h.y., yn gwrthod llenyddiaeth foeswersol, ond yn derbyn llenyddiaeth yr oedd ei harwyddocâd sylfaenol yn foesol.
Ac yr oedd hi'n anos byth i'r bardd ymwrthod a'r drefn, oherwydd fod gwerthoedd Anghydffurfiaeth Gristnogol wedi eu gweu mor glos i mewn i batrwm Cymreictod a gwerthoedd hwnnw, nes peri ei bod yn amhosibl bron ymryddhau oddi wrth y naill, heb ar yr un ergyd danseilio'r llall.