'Cynnwys meddyliau, croesawu ysbrydoedd, ymwthio, saethu, perchi ystlumod, ymlid gwynt, porthi cnawd, turio am oferedd', ac elfen drosiadol gref iddynt yn ogystal.
Byth er y dydd hwnnw y bu'n dyst anfodlon i foddi Betsan, mynnai'r hen wreigan ymwthio i'w ymwybyddiaeth, yn enwedig pan dueddai i'w gysuro ei hun fod popeth yn llaw Duw.
Yna yng ngwanwyn bob blwyddyn daw miloedd ar filoedd i ymwthio i fyny afonydd Ewrop.
Nid aethai neb i'r drafferth i ymwthio drwy'r drain a'r danadl poethion i fynd ar ei gyfyl.
Oes yn ymrasio yw hon, oes yn ymwthio, ymheidio, ymlafnio, ymfileinio ac ymfyddino.
O safbwynt adeiladu a throsglwyddo ystadau yr oedd y gyfraith Seisnig yn amlwg yn fwy manteisiol na'r gyfraith Gymreig, ac o'r cychwyn cyntaf gwelir rhai Cymry nid yn unig yn ymwthio i rai o'r bwrdeistrefi ond hefyd yn mynnu'r hawl i ddal eu tiroedd a'u trosglwyddo yn ôl cyfraith Lloegr.
Nid oedd fy fferau i yn ymwthio dros ymylon fy esgidiau bach i fel rhai Emli Preis, na fy nwyfron i'n hongian mor llac, na'm bol i mor dynn chwaith o dan fy sgert i.
Rhedai iasau i lawr asgwrn cefn Jean Marcel wrth iddo ymwthio drwyddynt ar ôl y ferch.
Arfordir rhyfeddol o brydferth - rhes o gilfachau'n ymwthio i ystlys y tir sych, a'r ffordd yn ymdroelli gannoedd o droedfeddi uwchlaw iddynt.
Meddiannodd ei swyddfa unwaith (er ei fod yn sefyll yn y drws) drwy ymwthio rhwng ei goesau.
Tra roeddwn i'n newid, fe ddaeth Negro i mewn, a rhwbio yn fy nghoesau i, a dechrau canu grwndi fel yr oedd o'n ymwthio'n gorff yn erbyn fy nghrothau i.
Cariai'r tad fwndel o ddillad carpiog, a phâr o goesau tenau a wellingtons yn ymwthio allan ohono.