Look for definition of ymwybod in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
Yn ol un o ysgrifau Williams Parry, yr oedd WJ Gruffydd yn cael ei gyfrif yn 'ddi-Dduw.' Gwyddom hefyd fod bardd 'Ymadawiad Arthur' yn cyfeirio at fywyd yn ddiweddarach fel 'un ias ferr rhwng dwy nos faith.' Ac os clustfeiniwn ar eiriau bardd 'Yr Haf',cawn yng ngodidowgrwydd - yr awdl honno ei dagrau hefyd - sef dagrau pethau, yr ymwybod ag angau, ac a thymp a thempo amser.
Yn ôl Murry (a theg ychwanegu yn y fan hon nad yw bob amser yn glir ai aralleirio Keats ynteu datgan ei fam ei hun y mae) yr oedd cyswllt cyfrin rhwng y meddwl barddonol a'r ymwybod crefyddol.
Egwyddor greiddiol Dyma un o'r darnau gwybodaeth mwyaf gwerthfawr y gellid eu rhoi i unrhyw athro mewn hyfforddiant byth: sylfaen ymwybod â'r patrwm cynyddu cydgysylltiol.
Nid rhyw fath o sadistiaeth obsciwrantaidd oedd yn ysgogi'r hen frodyr ond ymwybod digon realistig a'r posibilrwydd y gellid camgymryd disgleirdeb meddwl am dduwioldeb calon.
Ar y llaw arall, wrth gwrs, dylid nodi fod yr anfodlonrwydd hwn yn arwydd o rywbeth amgen, sef yn ~wydd o ymdeimlad o arwahanrwydd, ymdeimlad a aeddfedodd yn fuan iawn mewn seiat a sasiwn yn ymwybod â hunaniaeth.
Nid hawlio y mae nad oes elfennau eraill sy'n cyfrannu tuag at yr ymdeimlad cenedlaethol ymhlith y Cymry, eithr yn hytrach mynn y diflannai yr ymdeimlad a'r ymwybod hwnnw gyda diflaniad yr iaith.
Y mae eglwysi sy'n ymwybod o'r newydd â dylanwadau'r Ysbryd Glân.
Trwy ddeffro cyd-ymdeimlad, cyd-ymdeimlad sy'n cysgu yn nyfnder yr ymwybod, ond sy'n ei fradychu ei hun hyd yn oed yn acen eu Saesneg, yn unig y medrir.
Bwydid yr ymwybod hwn gan gerddi proffwydol y beirdd brud, fel y'u gelwid, a addawai atgyfodiad gogoneddus i'r genedl a buddugoliaeth ar ei holl elynion.
Effaith colli'r ymwybod o bechod yw Moderniaeth Cristnogol, ac oblegid hynny y mae'n ffiaidd gen i.
Cyfeiriodd hefyd at y drychiolaethau o brifeirdd (primitive poets) neu'r 'cyntefigion Beirdd Ynys Prydain', nid amgen, Plennydd, Alawn a Gwron, sylfaenwyr dysg y Beirdd (yn ôl Iolo Morganwg), y drindod a fyddai'n symbylu'r Awen yn ymwybod y Beirdd a ddeuai i'r cylch.
Cyfnod oedd hwnnw pan oedd ymwybod â'r egwyddorion Cristionogol yn nodweddu mwyafrif llethol y boblogaeth.
Credai Saunders Lewis fod 'ymwybod o bechod' yn angenrheidiol i lenyddiaeth.
Gwr o dras uchelwrol oedd Henry Rowland ac y mae'r ewyllys yn ein helpu i werthfawrogi sawl agwedd ar fywyd ac ymwybod cymdeithasol gwr o'r fath.
Yn ei ysgrif "Y Syniad o Genedl" ymdrin â ffrâm a chynnwys: y ffrâm ydyw'r ymwybod â hanes.
Hynny yw, mae'r meddwl fel petai'n cael ei godi i ryw angerdd creadigol anarferol, a gall hyn gael ei adlewyrchu yn yr hyn y mae'r meddwl yn ymwybod ag ef neu yn y graddau y mae'n ymwybod ag ef yn goystal ag yn y ffordd y mae'n mynegi'r ymwybod hwnnw.
Ni ddaw llawer o'r bobl sy'n byw yma o hyd i'r ymwybod Celtaidd hwn ac nid ydynt yn chwilio amdano; yn hytrach y maent yn byw yma fel pobl ddieithr, yn arwynebol'.
Ymwybod ag argyfwng y gymdeithas sy'n hawlio gweithredu, yn fwy na damcaniaethu.
O'i hiawn ddefnyddio gellid olrhain twf yr ymwybod bonheddig o genhedlaeth i genhedlaeth.
Er cryfed yr ymlyniad wrth yr arglwydd, boed hwnnw'n frenin neu'n Dywysog Cymru neu'n ŵr mawr o Norman, anodd osgoi'r casgliad fod ymhlith y Cymry ymwybod cryf iawn hefyd â'u cenedligrwydd ac â'r ffaith eu bod bellach yn genedl orchfygedig a than orthrwm.
Rhaid cyffroi ynddynt, hyd yn oed y Cymry yng Ngwent a Morgannwg a gollodd eu Cymraeg ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth, yr ymwybod o'u gwahanrwydd, a defnyddio gair J R Jones, fel Cymry.
Ond os oedd yr ymwybod ar gael, paham na ddaeth yn fwy i'r amlwg?
Ond gwir arwyddocâd y penderfyniad hwnnw oedd ei fod yn dangos fel yr oedd y rhan fwyaf o aelodau'r Blaid yn ymwybod â'r traddodiad radicalaidd, er bod rhai o'r aelodau blaenllaw, wrth arllwys dwr brwnt eu hen ffydd ym mhleidiau Llundain, wedi arllwys y babi radicalaidd hefyd.
Bid a fo am hynny, gan fod Saesneg yn ei is-ymwybod, megis, y mae gan Eingl-Gymro reddf sy'n ei alluogi i'w feirniadu ei hun wrth sgrifennu yn yr iaith honno.