Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymylon

ymylon

Er fod ganddo gysylltiad â'r dref, ni chynhwyswyd Paul Davies, a theimlai ei hun yn un o bobl yr ymylon.

Profodd y pum niwrnod canlynol yn llawn difyrrwch hyd yr ymylon, a hwythau'n mwynhau nofio, sgi%o dros y dŵr, hwylio, chwarae tennis a marchogaeth ceffylau.

Yna, ar ymylon y pentref, mae cytiau gwiail y gwehilion.

Wedi misoedd o baratoi llanwyd y capel i'r ymylon a chafwyd hwyl ysgubol arni.

Ymysg y coedydd cochion a melyn yma, ar ymylon y goedwig ac yng nghysgod y coed mae yna ddwy goeden fach, na feiddiwch eu cyffwrdd.

Mae rhyw gynllwyn anymwybodol i yrru i'r ymylon weithgareddau diwylliannol nad ydynt yn deillio o'r canolfannau pwysig dylanwadol hyn.

Maen nhw'n llawn i'r ymylon o fwydydd a danteithion ar gyfer milwyr y gelyn.

Mae nifer y cymunedau lle mae'r mwyafrif yn teimlo eu bod ar ymylon cymdeithas, o bosib, yn fwy yn 2000 nag oedden nhw yn 1945.

Nid oedd fy fferau i yn ymwthio dros ymylon fy esgidiau bach i fel rhai Emli Preis, na fy nwyfron i'n hongian mor llac, na'm bol i mor dynn chwaith o dan fy sgert i.

Mae'r 'rhodenni' yr ymylon y retina, h.y.

Roedd gan Dafydd William storws enfawr yn llawn i'r ymylon o lyfrau, a'r rheini'n blith drafflith ar draws ei gilydd ac yn llwch trostynt.

Roedd yn llawn i'r ymylon o bobl ddaeth yno'n unswydd i werthfawrogi dawnsio gwerin.

Ar ymylon y frwydr rhwng y ddau gawr hyn y mae Culhwch ac Olwen.

Felly, pederfynwyd edrych ar y Deufalf, Lima hians, lle mae gan ymylon y fantell nifer o dentaclau hir.

Archwiliais wynebau allanol llabedau mewnol ymylon mantell yn y microsgop electron sganio gan obeithio gweld derbynyddion synhwyro eraill.

Caf esgus i loetran yn hamddenol yn hytrach na bustachu tua'r copa pan ddof ffordd hyn ganol haf i chwilota am blanhigion yng nghysgod y creigiau, wrth ffrydiau neu ar ymylon y pyllau mawn.

Mae ymylon mantell yn arbennig nid yn unig am fod ganddynt nifer o dentaclau hir ond hefyd am fod llabed fewnol ymyl y fantell yn helaeth iawn.

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn galw'r fath dirlun yn un hollol undonog ac anniddorol, ond o dan yr wyneb, ac o gwmpas yr ymylon cawn stori hollol wahanol.

Gwir fod yn y nofel 'blant adfyd' yn ogystal a 'phlant y breintiau mawr', ond ar yr ymylon y maent.

Serch hynny, at ei gilydd, argraff o dref fudr, brysur, chwyslyd, afler, drofannol a gefais, gyda'r Taj Mahal ac ati ar yr ymylon yn rhywle.

Llifa tua'r de ar draws wyneb tonnog dwyrain Môn, ond pan gyrhaedda Landegfan mae'n dilyn llwybr llawer mwy serth, ac o ganlyniad, i'r de o Felin Cadnant, mae'r afon yn dilyn llwybr dyfnant sydd ag ymylon serth iawn iddo.

Heddiw mae gweddillion ymylon y ceudwll hwnnw i'w gweld mewn hanner cylch o glogwyni sy'n codi'n serth dros fil o droedfeddi o'r môr.

Eithr fe lanwai'r bwced â llaeth hyd at yr ymylon - pe buasech mor ddifeddwl â pheidio â'i wacau bob hyn a hyn.