Ac mae ei thuedd i gyfeirio wrth fynd heibio at fyrdd o feirniaid llenyddol ac ysgolheigion eraill yn ymylu ar fod, ar adegau, yn hunan barodi o'i harddull ei hun.
Unai maen nhw'n rhy hawdd ac yn ymylu ar fod yn blentynnaidd eu hiaith a'u stori, neu maen nhw'n or- uchelgeisiol ac mae unrhyw fwynhad o'u darllen yn cael ei golli yn yr angen i chwilota mewn geiriadur bob yn ail gair.
Fe gefais fy magu ar aelwyd grefyddol, lle na chrybwyllwyd erioed y gair 'ofergoelion', eto wrth edrych yn ôl gwelaf fod fy mhlentyndod yn llawn o ddywediadau ac arferion oedd yn ymylu ar fod yn ofergoelus.
Trac offerynnol tua tri chwarter munud o hyd a geir yma, ac mae hi'n ymylu ar fod yn electroneg.
Na gwastraff ar amsar gwerthfawr, yn ymylu ar bechod oedd chwaraeon i'r hen bobol." A dyna ni'n dau yn ymroi i gyd-fwynhau orig o atgofion maboed cyn i Gruff orfod troi am adref.
Er i'r cyfnewid cyhuddiadau hyn ymylu ar ryfel preifat rhwng y golygyddion o dro i dro, gan dueddu gadael y darllenwyr mewn penbleth ar yr ymyl, cyfrannodd at y broses o godi ymwybyddiaeth ynglŷn â mater yr Eglwys Sefydledig.