Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ymyrraeth

ymyrraeth

Sam oedd "Handi-man" y swyddfa, yn glanhau'r lle (fwy neu lai), yn mynd ar negesau, ac - yn bennaf dim - yn gofalu nad oedd yr un ymwelydd yn ymyrraeth a mi pan oedd arnaf eisiau llonydd i ysgrifennu.

Bid siŵr y mae ymyrraeth Llywodraeth â bywyd cymdeithasol yn y Wladwriaeth Les yn cyrraedd ymhellach nag a ddychmygwyd yn y ganrif ddiwethaf.

Dros blwc o amser câi Gwenhwyfar bleser o'r ymyrraeth nes iddo gyrraedd hyd at fôn ei gwallt.

Fe roddodd Siôn Pyrs enghraifft o ymyrraeth drwy gyfeirio at gynhyrchiad.

Siomedig oedd ymateb Ysgrifennydd y Cynulliad i'n argymhellion (ystyriai arweiniad o'r canol fel ymyrraeth ym musnes yr awdurdod addysg lleol) er y cawsom addewid y byddai'n eu trafod gyda swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd ag addewid o gyfarfodydd pellach yn y dyfodol.

Nid Bryncir oedd yr unig le a welodd fflam y diwygiad yn cael ei chynnau gan ymyrraeth annisgwyl llanc ifanc mewn oedfa.

Dewiswyd safle mewn dwr dwfn (Swnt Blasket, Iwerddon) gan y byddai hyn yn lleihau effeithiau cerrynt ac ymyrraeth gan rai'n chwilio am ddarnau i'w cadw.

Dadleuodd Frank Smith, a sgrifennodd gofiant i Kay-Shuttleworth, fod y gorchymyn i'r Dirprwywyr i ymchwilio i 'foesau'r' Cymry yn dod o ymyrraeth rhywun anhysbys â'r cyfarwyddiadau gwreiddiol yr oedd Kay-Shuttleworth wedi eu paratoi yn ei fraslun.

Y mae rhywun yn cydymdeimlo â'r Tywysog William pan yw ef a'i dad a'i daid a'i nain yn erfyn am lonydd iddo fyw ei fywyd heb ymyrraeth newyddiadurwyr a thynwyr lluniau.

Mi fydd yn powlio crio 'gei di weld.' 'Dwi inna isio crio, ond 'mod i yn methu 'te.' Rhyfel Annibyniaeth America ac ymyrraeth y Ffrancwyr a alwodd y Capten Timothy Edwards yn ôl i'r môr, a hynny wedi tair blynedd ar ddeg o fod yn llongwr tir sych.

Y mae safleoedd llongddrylliadau'n agored i ymyrraeth nid yn unig gan nofwyr anwybodus ond hefyd gan grwpiau'n chwilota am drysor.

Disgrifiwyd y broses hon gan Diole\, a bwysleisiodd fod llongddrylliad yn y cyflwr hwn yn fregus iawn ac y gall ymyrraeth ag unrhyw ran o'r safle arwain at broses o fraenu pellach.

Y cam nesaf yn yr ymyrraeth yw côd switsio sef newid talpiau o'r iaith, neu'r iaith yn gyfan gwbl, i'r iaith ddominyddol.

Roedd - - yn awyddus i nodi fod ymyrraeth annerbyniol gan reolwyr ariannol y Sianel ar y pwnc o gyflogau.

Dan y ddeddf hon gall Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Fasnach roi gorchymyn i ddiogelu safle rhag unrhyw ymyrraeth gan bobl nad oes hawl ganddynt.

Yn ystod arlywyddiaeth Pero/ n yn y pedwardegau a'r pumdegau cynnar, daeth hyn yn gyfystyr ag ymyrraeth yn yr economi gan y wladwriaeth.

Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.

Unwaith eto, dyma ymyrraeth giang gwrywaidd diarth o'r tu allan yng ngweithgaredd y gymuned ddosbarth gweithiol hon yn drysu cynlluniau'r bobl.

Weithiau, mae'n naturiol fod cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a thechnegwyr ifainc yn bryderus rhag i lais profiad droi'n ymyrraeth neu hyd yn oed arwain i bylu'r fflam o dân yn eu boliau.

Gwylltiai hefyd pan gyhoeddid dedfryd megis 'Marwolaeth drwy ddamwain' neu 'Marwolaeth drwy ymyrraeth Duw' ar ddiwedd cwest i farwolaeth glo%wr, ac yntau'n gwybod o'r gorau mai esgeulustod y meistri oedd yn bennaf cyfrifol am y drychineb.