Safai, a'r crwt bach yn gorffwys ar ei chlun, i wylio Dai Mandri'n gweithio ar ddarn o haearn, heb yngan gair ac heb wenu, fel pe bai Hadad yn greadur ar wahân.
Apeliodd ar bawb i beidio ag yngan gair am y peth, ac yr oedd sail ei apêl yn un o'r datganiadau mwyaf annoeth a glywswn yn fy myw, sef na ddylem mewn unrhyw ffordd sôn am y daith nac am nifer y dynion oedd yn yr uned rhag ennyn drwgdybiaeth y Rwsiaid a pheri iddynt gredu ein bod yn danfon nifer luosog o filwyr i Rwmania.
Ond ni fentrodd yr un ohonynt yngan gair yn uchel hyd nes bod hyd y llwybr bach rhyngddynt a'r ffynnon.
Torri 'ngwallt i heb yngan gair, dim ond gwenu a chrechwenu'n y drych wrth ddefnyddio'r siswrn obeutu 'nghluste i, ac esgus holi'n ddifrifol pa liw oedd 'y ngwaed i; gwaed 'nigar' - fel tasa fe'n gweud 'gŵr bonheddig' neu 'Gymro' neu 'Sais'.
Bodlonwn yn hytrach ar edrych i fyny a mwynhau'r mawredd syfrdanol, heb yngan yr un gair, fel y gwnes i neithiwr.
Yna, arweinidod y cawr ef i'r lifft heb yngan yr un gair ac o hwnnw, gyda thraed Willie yn suddo yn y gwely plu o garped, i'w ystafell.