Drwy'r glaw, daeth dau ddyn yn cario calabash, sef llestr wedi'i wneud o ffrwyth coeden, a dodwyd hi ynghanol yr ystafell.
Mae pob mudiad yn gwerthfawrogi eu hen wynebau ynghanol llanw a thrai yr aelodaeth gyffredinol a tydi Cymdeithas yr Iaith yn ddim gwahanol i hynny.
Cododd y brenin ei law ac ynghanol twrw'r dŵr gwaeddodd: Dowch ar fy ôl i rwan a gwyliwch rhag llithro ar y cerrig." Fel stori o lyfr yn yr ysgol, diflannodd o dan y pistyll dŵr.
Cafodd Llew ei ddal ynghanol ffrwgwd mawr a ddatblygodd rhwng Gina a'i gwr, Rod.
Bwytewch y bacwn rwan, hogiau: os rhedwn ni allan o fwyd cawn fwyta'r cogydd." Ynghanol y chwerthin, llithrais i mewn i gael gair â'r bachgen oedd yn paratoi'r bwyd, roeddwn yn gweld posibilrwydd o ' tribal feud' yn mynd ymlaen tra byddem yno.
Mae'r gwres tanbaid ynghanol y ddaear yn gwthio creigiau tawdd tuag at yr wyneb.
Ar ben hynny roedd wedi gorfod talu llawer rhagor nag yr oedd wedi ei ragweld i was am wneud gwaith y tyddyn yn ei absenoldeb a bu colledion oherwydd nad oedd, ynghanol ei brysurdeb fel Ysgrifennydd Cyffredinol, wedi medru rhoi'r sylw dyledus i'w gartref.
Ynghanol bwrlwm a chyffro mudiad protest y myfyrwyr y dechreuodd gyrfa lenyddol Peter Schneider.
Roedd yn anodd ei ffeindio, oherwydd roedd y swyddfa ar bedwerydd llawr adeilad-ar-ei-hanner, ynghanol nifer o adeiladau mawr eraill ar-eu-hanner.
Ychydig i lawr y dyffryn oddi wrth Hedd y Mynydd yr oedd ffermdy ynghanol y coed.
Mae croeso iddi hi fyw yn ôl patrwm Ledi Gysta os ydi'n dewis hynny, ond mae disgwyl i mi siopwr ynghanol gwlad, drefnu 'mywyd ar yr un llinella â rhyw sprigyn o Syr hefo mwy o bres neg o synnwyr, yn afresymol.
Ac y mae'n fwy gwahanol fyth erbyn heddiw ynghanol yr anghenfilod o beiriannau diweddau yma sy'n medru symud yn eu nerth eu hunain a hyd yn oed heb olwynion o danynt, dim ond stribedi dur yn ymgreinio fel lindys trwy greigiau a mwd a mawn a chors.
Yn ystod y gaeaf oer diwethaf gawsom ni oedd hi, ac yn ystod rhyw bythefnos neilltuol o oer, roeddwn i, ac amryw byd o rai eraill gallwn feddwl, wedi dod o hyd i gornel gynnes mewn tafarn diraen ynghanol y ddinas lle ceid bob amser cinio danllwyth o dân ar lawr.
Roedd yr Indiaid yn ddiolchgar i gael mynd ati hi i droi allan mwy o flawd ynghanol yr holl wres ofnadwy.
Ond bum hefyd ar ei gopa ynghanol mwynder haf a pherarogl y grug a blodau'r uchelfeydd.
Bu Dr Gwynfor Evans ei hunan ynghanol y prysurdeb yn ystod yr hanner canrif diwethaf.
.~ Ynghanol y gêm taflwyd dwy botel tuag ataf o'r dorf ac wrth i mi eu pigoo'r llawr i'w cymryd at yr heddlu rhedodd un o ddyruon camera y papure~ newydd tuag ataf i dynnu llun.
Ynghanol ei ddigalondid, awgrymodd ei wraig y dylai roi cynnig ar lunio nofel.
Ynghanol yr helynt hon y cyflawnodd Morgan waith mawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Hen Destament (ac eithrio'r Salmau) a'r Apocryffa o'r newydd i'r Gymraeg, a diwygio cyfieithiadau William Salesbury o'r Salmau a'r Testament Newydd - fel y clywsoch yn gynharach fore heddiw, fe gafodd Salesbury beth help gyda'r Testament Newydd gan Richard Davies a Thomas Huet.
Yn fab i Ioan Arfon, ac wedi'i fagu ynghanol canolfan ddiwylliannol ferw yn nhref Caernarfon, cafodd y fraint ar ran un cystadleuydd o herio'r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfreithiol (ac ennill).
Wedi cael lle i adael y car, dyma sylweddoli ein bod newydd osgoi cael ein dal ynghanol gorymdaith filwrol, gyda thanciau, yn arwain o'r barrics i ganol y dref.
Ac mi rydan ni ynghanol y cyfnod hwnnw jyst cyn i'r dydd oleuo lle mae pob dim afreal yn edrych yn gwbl real a rhesymol.
Tra 'roeddwn ynghanol y sgarmes efo'r gwyniedyn mawr yn y Pwll Defaid, 'roedd Jim wedi mynd i brofedigaethau mawr ym Mhwll y Bont.
Mae yma gerddi gwefreiddiol ynghanol casgliad cymysg iawn o ran naws.
Cafodd y fraint o dderbyn Mr Alun Garner yno, a mi 'roedd wedi dotio cael cartref mor Gymreig ynghanol y paith.
Yr ydym yn gadael rhigolau plaid am ein bod o'r farn mai mater tyngedfennol o bwys mawr yw sicrhau hunan lywodraeth ar fyrder" Dyna osod y pwnc yn ei le, ynghanol cymeradwyaeth frwdfrydig.
Ynghanol y sgwâr mae'r Sukiennice, y neuadd arwerthu anferth sy'n gartref i werthwyr nwyddau di-rif sy'n cystadlu am sylw'r miloedd o dwristiaid sy'n tyrru yno bob haf.
Ynghanol y berw yr wythnos diwethaf ynglyn â dysgu Saesneg, dywedodd un o ladmeryddion y llywodraeth frawddeg arwyddocaol.
Peth ofnadwy yw bod yn anwaraidd, yntê, ond wrth gwrs mae tylwyth y Buganda yn adnabyddus am ei ddulliau modern ynghanol cyfandir heb ei lwyr wareiddio.
Nid yw amser yn golygu dim ynghanol Affrica.
Pan fydd eich plant chi, ynghanol y ganrif nesa, yn galw eu plant nhw yn Rocet a Shuttle a phethau cyffelyb fe fyddwch chi'n meddwl am mam.
Yn ôl ynghanol y saithdege oedd hi, adeg pan oedd y probleme gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon wedi cynyddu'n arw ac roedd tim pêl-droed Lloegr eisoes wedi gwrthod mynd allan i chwarae yn Belfast am resyme diogelwch.
Gyda phawb sy'n dod ar y penwythnos yn aros yng ngwesty pedair seren Jury's ynghanol Caerdydd bydd amser rhydd yn cael ei neilltuo ar gyfer mymryn o siopa Nadolig yn y brifddinas yn ystod yr ymweliad.
Aderyn y gweundiroedd agored ydyw, gyda'r iâr yn dodwy rhwng tri a saith þy glaswyn mewn nyth llac ei adeiladwaith, ynghanol y grun.
Rhif un, Greenhill, Pontycymer, ynghanol cymoedd Morgannwg.
Go drapia na wnes ymholiadau manwl wrth y boi bach 'na mewn cyfnas oren oedd yn llafarganu ac yn ysgwyd clychau ynghanol y stryd fawr ddoe, neu ofyn i'r cwpwl ifanc yna geisiodd werthu cylchgrawn wrth y drws a oedd modd prynu cit dathlu'r Nadolig Amgen trwy'r post?
Yn y parc bychan prydferth ynghanol y ddinas, roedd cerrig bedd unwaith eto - talpiau o farmor gloyw i gofio'r pedwar a fu farw yn ystod eu hymrafael hwythau.
Hanes y myfyriwr, Lenz, sydd yma, dyn ifanc a oedd wedi bod yn weithgar ynghanol cynnwrf y chwedegau ond sydd, ar ôl cael ei siomi pan ddaeth y cyfan i ben, yn teimlo'n gynyddol ynysig.
Mae meddwl am gael eich lladd, nid ar y lein ffrynt, ynghanol môr o gyhoeddusrwydd, ond yn y dirgel, heb dystion, yn hunllef.
Yn yr adran ar addysg Maredudd pwysleisir unwaith eto ragluniaeth Duw yn dapraru'n hael ar ei gyfer ynghanol holl genfigen ei garennydd.
Ac eto, ynghanol y sŵn, mae yntau'n cofio am y slasan oedd yn sefyll wrth y bar neu yn eistedd gyferbyn ag o yn y Clwb.
Fe ddrylliwyd y llong, nid gan storm, ond ynghanol gormod o draffig morwrol.
Ar ôl cyfnod o iselder penderfynodd mai'r ffordd orau i ddelio gyda'r sefyllfa oedd trwy fod yn ôl ynghanol y pentre a phrynodd siâr yn y siop gyda Denzil.
Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.
Roedd popeth mor llo/ eAg o gyflym fel y gallwn bron iawn ddweud nad own i yn hollol ymwybodol o'r hyn oedd yn mynd ymlaen, ond ynghanol y rhialtwch sgoAodd Mickey Thomas, Ian Walsh, Leighton James a David Giles, oedd yn.
Yr oedd bwrdd crwn ynghanol yr ystafell, o bren tywyll, bron yn ddu, a'r traed yn gorffen mewn siap palf llew.
Tegla Davies iddo ef ei hun, fel pawb o'i gyfnod, gael ei ddal ynghanol y dadrithiad.
Roeddwn i ynghanol ynman, yn adnabod neb, ond fyddai hi'n waeth petawn i'n gwybod pam ges i fy restio!
Y mae un ohonynt, sef Eglwys Arch y Cyfamod, yn amlwg iawn ynghanol môr o flociau fflatiau salw a hyd yn oed ei siâp - yn llythrennol, arch enfawr - yn symbol o arwahanrwydd ffydd mewn cymdeithas seciwlar ac i bob pwrpas, dotalitariadd.
amseru sydd yn ddigon ansicr i ddechrau ac yna heb fod yn amseru o gwbl - nid ynghanol yr wythnos ond 'y berw'!
Aeth â ni am ychydig o filltiroedd trwy goedwig dew nes inni ddod at wastadedd eang ynghanol y jyngl; yno safai Anghor Wat yn ei holl ogoniant wedi'i amgylchynu â llyn; yn y dþr gwelem ychen gwyllt yn nofio'n urddasol fel y gwelem ychen lawer gwaith o'r blaen yng ngwledydd De Ddwyrain Asia yn nofio yn unrhyw ddwr y caent afael arno.
Yno, dim ond rhyw set ffilm o fynydd a wahanai ogledd a de, ac eisoes ynghanol y bore ysgubai afalansau cyson gannoedd o drodfeddi i lawr y pared gogleddol at lasier Porchabella.
Roedd ganddi ddiddordeb mawr ynof i - am fy mod i'n dod o'r Gorllewin ac yn newyddiadurwraig ynghanol criw o ddynion.
Roedd un yn briod ag Iddew ac yn byw ar un o'r kibbutz; roedd y llall yn briod â Phalestiniad ac yn byw ym Methlehem ynghanol yr helynt ar y Lan Orllewinol.
Ynghanol hyn i gyd llwyddodd Llew i ailbriodi yn 1997 gyda Rachel Price a thorrodd ei galon yn 1998 pan benderfynodd Rachel nad oedd y briodas yn gweithio.
Yn 1987 y daeth Mrs Mac i ardal Cwmderi ac yn syth 'roedd ynghanol ffrwgwd gyda Dic Deryn ar ôl iddo ddechrau busnes sgipiau mewn cystadleuaeth â hi.
Sefyll ynghanol un o'r tai a gadael i'r llygaid arfer â'r tywyllwch.