Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ynom

ynom

Adeg honno roedd yna fudiad o'r enw yr Eingl Gymry, roedd cylchgrawn o'r enw 'Wales' ac roedd pobl yn dechrau sylweddoli eu bod nhw wedi colli rhywbeth, ac roedd yna rhyw duedd ynom ni er ein bod ni yn sgwennu yn Saesneg, i ni geisio dangos nad Saeson mohonom ni.

Y mae tuedd ynom ni'r cyfreithwyr i ddefnyddio'r Saesneg ar bob achlysur posibl: wele Gyngor Tref Pwllheli, rai wythnosau'n ôl, yn cystwyo dau gwmni o gyfreithwyr o dref nid nepell (a'r partneriaid yn y ddau gwmni yn Gymry Cymraeg þ un o'u plith yn Brifardd Coronog!) am iddynt anfon llythyrau uniaith Saesneg at y Cyngor Cymraeg hwnnw.

Ac fel sy'n gwbl briodol wrth reswm ar achlysur-on o'r fath, rhyw duedd sy' ynom ni, 'o fryniau Caer-salem' fel 'tai, i edrych yn ôl ar 'daith yr anialwch', ar ei 'throeon' a'i hofna'.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Datguddiodd y Major ei farn yn wyneb haul yn ystod ei ddarlith heddiw pan haerodd nad oedd dim diddordeb gan yr Eidalwyr ynom ac eithrio yn ein harian.

fe erys ynni'r cof yn rhyw fath o ystyfnigrwydd anneall ynom.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.