Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ynot

ynot

Gwnaed Ynot Benn yn aelod o Anrhydeddus Urdd y Llwynogod pan aeth y ganolfan ar dan ddwywaith nes bod rhaid atgyweirio ac ail-adeiladu go helaeth.

Yr ydwyt yn ein deffro ni i ymhyfrydu yn dy foliant, oblegid Ti a'n creodd ni i Ti dy Hun, ac anniddig yw ein calon nes gorffwyso ynot Ti.

O gasineb tuag at ei wraig ac o ddiffyg cwsg wrth ei hochr collodd Ynot Benn bwysau, gwelwodd ac ymgrebachodd, a heliai ei draed bob dydd i westyau a chlybiau lle cai gwmni a chydymdeimlad.

Lle'r oedd Arabrab, a oedd yn wraig normal ei harchwaeth, er gwaethaf ei hanfanteision, mor hoff o wynwyn a'r Brenin a'i deulu, doedd dda gan Ynot wnionyn o fath yn y byd, mewn llymed nac mewn llwy, mewn cawl nag mewn caws nac, mewn diod na dim.

Ac y mae'n debyg mai felly y buasai wedi parhau onibai am Ynot Bennaeth.

Mae Maelgwn Magl yn cydio ynot ac ar ôl i'r wraig adrodd yr hyn y cred a ddigwyddodd, gorymdeithia'r holl bentrefwyr a thithau yn ôl i dŷ'r pennaeth.

I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.

Fe ddywedai gwybodusion y llys wrthych na fu'rioed fawr o gariad rhwng y Brenin Affos ac Ynot.

Pe cai Ynot Benn ei ffordd dyna derfyn am byth ar wynwyn.

Roedd Dik Siw wedi cael ambell ffafr gan Ynot Benn, oblegid adeiladydd a chontractor ydoedd Dik.

Cododd y ffrae fywaf dychrynllyd rhwng Eproth ac Ynot (dau hen elyn, debyg iawn) a rhwng Nosliw'r Gweinidog Bwyd a Chynhaliaeth, a Thaeh, y Canghellor.

Gwyddai Ynot Benn a Dik Siw yn dda y byddai'n ben ar wynwyn yn N'Og unwaith y ceid gwared a'r Lotments.

Efallai y buasai'r llys wedi derbyn cynllun Ynot Benn ar dir economaidd.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, mynnai Arabrab fod Ynot yn cysgu gyda hi bob nos, a rhaid oedd iddo yntau ufuddhau er bod ei hystafell wely a phob peth ynddi, a phawb ond Ynot ei hun yn drewi o wynwyn.

Yn wir, nid aeth neb erioed mor gyflym trwy raddau Urdd y Llwynogod nag Ynot, a hynny pan oedd Cela Trams yn llywydd a Dik Siw yn olynydd iddo.

Mae'r lle a'r bobl yn ddyfnach ynot nag yr wyt yn sylweddoli.

Doedd Ynot yn neb mewn gwirionedd, ond rywfodd fe lwyddodd i briodi Arabrab, chwaer Navid y Frenhines - am ei harian, medden' hw, o achos roedd hi'n hyll fel pechod.

Duw, dere â'th saint o dan y ne' O eitha'r dwyrain bell i'r de, I fod yn dlawd, i fod yn un, Yn ddedwydd ynot Ti dy Hun.

'Byddet ti ddim wedi dweud hynna ddeuddeng mis yn ôl, rhag ofn iddi roi clowten i ti am ddweud y fath beth am ei hannwyl gariad.' 'Dw i ddim yn deall beth welodd hi ynot ti erioed.'

Yn yr hen amser buasai'n hawdd: ymlid Ynot Benn a Di Siw a Cela Trams a'u bath allan o'r deyrnas.

Ond dihangfa oedd hyn oll i Ynot; allan y nos neu beidio, adre'n hwyr neu beidio, rhaid oedd dychwelyd bob nos i gysgu hefo Arabrab, neu o leiaf i orwedd yn effro tra chwythai a chwyrnai ei hanadl wnionllyd drosto.

Fedrai Ynot Benn ddim aros y dydd pan welai Affos y Brenin yn gosod carreg sylfaen y Casino Newydd a'r ddau fwldoser mwya'n y byd o bobtu iddo, yng nghanol y Lotments.

Dyna ti wedi dangos bod plwc ynot ti.

Er bod y Brenin Affos yn gwrthwynebu fflatiau yn ddiweddar (Pwy a allai dyfu wynwyn mewn fflat?) caniataodd Ynot i gynlluniau fynd trwodd am floc o fflatiau yn union ar gyfer tŷ helaeth Eproth, y Gweinidog Cerdd a Dawns.

Yn fuan wedyn cafodd Dik Siw y contract i adeiladu Canolfan Chwaraeon helaeth ar bwys y stesion Dan, a chil-dwrn go dda i Ynot am dynnu llinynnau.

Ond wedyn, buasai Ynot a'i gyfeillion yn siŵr o feddwl am ryw ffordd arall, rhyw adeilad arall i'w godi, a gellid mentro y byddai'n adeilad a apeliai i rai adrannau o'r bobl.

Cyn hir aeth yn helynt rhwng Ynot Benn a'i wraig, a gwyddai pawb mai ar Ynot roedd y bai am fod yn gas ganddo wynwyn.