'Yn enw cenedl y Madriaid ac Ynyr y Fwyell o Ddunoding - I'r gad!' Daeth bonllef wyllt y tu ôl iddo, ac fel dwy don yn taro, dyma'r ddwy fyddin yn hyrddio yn erbyn ei gilydd.
Yn agos i fil o flynyddoedd yn ôl fe deithiodd Gwaethfoed, un o fân benaethiaid Ceredigion y ffordd hon ar ei ffordd adref o Went gyda Morfudd ferch Ynyr Ddu, ei wraig newydd feichiog.