Maen nhw'n gobeithio y bydd pobol ifanc yn gofyn am help drwy yrru neges i jo@samaritans.org cyn y bydd hi'n rhy hwyr.
Y fam yn y cerbyd gyda'r rhai lleiaf, y tad yn gyrru un wagen, Iago yn gyrru y llall, a David Rhys y brawd hynaf yn gyrru y drol, a'r ddwy chwaer hynaf, Mary ac Elisabeth ar gefn ceffyl ar yn ail i yrru y gwartheg ar ceffylau.
'Roedd Mr Roberts,Daufryn, yn fosyn arni, a chredai'n siwr y buasai'n medru cael bachiad imi fel decboi.Addawodd yrru teligram o Gaerdydd pe bai'n llwyddiannus.
Campiodd y gwynt i chwythu'n ffyrnicach o'r de-orllewin, a sylwodd y rheini o bobl brofiadol ar y bwrdd fod y llong yn gorfod newid ei chwrs i yrru yn wyneb y gwynt.
Wrth yrru adref dechreuai ail-bendroni am y posibilrwydd o 'gyfarfod eto a rhywun annwyl.' Gwyddai nad gŵr atyniadol mohono ef yng ngolwg neb.
Mae rhyw gynllwyn anymwybodol i yrru i'r ymylon weithgareddau diwylliannol nad ydynt yn deillio o'r canolfannau pwysig dylanwadol hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Eritrea fod ymosodiad ar Zalambessa, tua 100 cilomedr i'r dde o brif-ddinas Eritrea, Asmara, wedi cael ei yrru'n ôl ddydd Mawrth.
Yn Epynt Without People disgrifia'r distawrwydd syfrdan wrth i'r swyddog yrru i ffwrdd.
Mae arna i ofn gynddeiriog iddi hi setlo acw am 'i hoes." Tra oedd fy nghyfaill Williams yn gorffen y bara-llaeth, ac wedyn yn ysmygu wrth y tân, ceisiasom feddwl am ryw gynllun i yrru Anti Lw ar symud.
Pan ddaw'r glaw eto i yrru i lawr drwy'r bwlch, neu pan ddaw'r niwl drachefn i or-doi'r arlwy o brydferthwch sydd o'm cwmpas heddiw, fe'm hyrddir unwaith eto i bwll o iselder ac anobaith.
Fel y saif y Gyfraith ar hyn o bryd, nid oes reidrwydd ar yrrwr i gario'i frwydded yrru yn ei boced.
Serch hynny, gellir cynhyrchu goleuni gwyrdd o'r laser hwn drwy yrru'r goleuni is-goch drwy grisialau arbennig sy'n medru haneru'r donfedd.
Caiff ei yrru gan ei ddicter diorffwys i'w sarhau'n gyson, amau cymhelliad pob gair a lefara a'i thrin yn is na baw sawdl, er mwyn gosod prawf ar ei ffyddlondeb iddo ac er mwyn dangos iddi nad yw ef wedi colli dim o'i allu fel marchog ymladdgar llwyddiannus.
Beth am yrru gair a chopi i Llafar Gwlad.
Cofiwch yrru pwt i'r papur.
Yn nes ymlaen bu'r porthmyn yn croesi Epynt wrth yrru gwartheg o Geredigion, Sir Gâr a Phenfro.
Meddyliwch am yrru o Fachynlleth i Ddolgellau, a rhes o garafanau yn ymlusgo o'n blaenau, yn cadw'n glos at ei gilydd heb adael lle i neb basio.
Daeth Sera i ddeall mai dim ond tlodi af truenus a fedrau yrru pobl i ymadael â'r ynys euddwydiol honno i geisio bywyd newydd ym Mhrydain.
Rhaid meddwl am gynllun i yrru Aled i'r coleg." "Ai ai, Snowt.
Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.
Hefyd mi gewch yrru eich plant i Ysgolion Urmyceg yn fengach mewn rhai ardaloedd ac ymuno (os mai merch yda chi) efo Sect 'Glasiad y Dydd'.
A gobeithio y byddaf innau wedi medru cael gwared ag o leiaf olwyn yrru un o'r bwsiau deulawr 'na erbyn hynny!
Roedd clywed y gair yn ddigon i yrru iasau o ofn ar hyd meingefn Dei.
Mae 'na gyfarfodydd ū ond sut fedri di fynd iddyn nhw a dy olwg yn rhy sâl i yrru yn y nos?" "Mae hynny'n ddigon gwir." "Fydd rhywun yn galw yma weithia?" "Anaml iawn.
Gwrthodai ffermwyr ddefnyddio ffyn ysgawen i yrru eu gwartheg a phe curid plentyn â ffon o'r fath ni fyddai'n tyfu'n iawn wedyn.
Y mae'r distawrwydd di-sūn yn gwasgu ar y carcharor nes ei yrru i weiddi a llefain.
Ysgrifennai Mam ddwy a thair gwaith yr wythnos gan yrru parseli o gacennau a darnau o gig moch cartre iddo.
Mae wrth ei fodd yn ei blannu ei hun 'wrth olwyn fawr felyn' car newydd Lleifior a'i yrru hyd 'heol fawr Henberth, â llygaid ambell un tlotach na phlant Lleifior yn syllu'n eiddigus ar ei ôl'.
Cychwyn o Villa Vasto am un o'r gloch yn y prynhawn, a chael fy nghludo gan Americanwr cymwynasgar bob cam i'r Autostrada;~ Yn ystod yr ymgom fer rhyngom, dywedodd ei bod yn gwbl ddealledig na châi neb o'r milwyr Americanaidd, oedd wedi bod yn ymladd yn Ewrop, ei yrru i faes y gad yn y Dwyrain Pell.~erdded am bedair milltir o Torre Annunzato hyd o fewn dwy filltir i'r mynydd.
Erbyn hyn cawsai Mr Williams air gan y met yn dweud y byddai lle imi, ac addawodd yntau yrru teligram o'r Barri wedi iddo fynd yn ol.
Pan ddôi'r bore, yr oedd yn llawen ganddo weled y goleuni cyntaf yn treiddio trwy farrau'r ffenestr gan yrru ar ffo yr holl ysbrydion dialgar a gosod y muriau yn ôl yn eu lle.
Fel y gwyr y rhan fwyaf, pethau tebyg i flew yw silia a fflagela, yn nodweddiadol yn symudol gan weithredu i yrru'r organeb drwy'r dwr neu i yrru'r dwr heibio i'r organeb, ac maent ers amser maith wedi denu sylw biolegwyr.
Cyn bo hir fe ddaeth estroniaid fel William, Richmael Crompton i dreio rhoi ei gardia i Nedw a'i yrru o i ebargofiant, ond yr oedd hwnnw yn ormod o rwdlyn ac yn rhy hoff o wneud pethau gwirion i ddi-sodli Nedw byth.
Yallon oedd enw'r coitsmon, a fo oedd i yrru.
Mi fedrwch gael grant gan y Cyngor Addysg i yrru Aled i'r coleg.
Bydd Huw Jones yn galw am gefnogi Cyfle a Broadcast Training Wales, gan sicrhau fod y cyfuniad o arian preifat ac arian cyhoeddus sy'n cynnal y sefydliadau hyn yn cael ei weld fel ffordd gwbl effeithiol a phriodol o yrru'r diwydiant yn ei flaen i'r dyfodol.
Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol llewyrchus yng Nghwm-garw yn nghyfnod Owen Williams 'i'r diben o gadw ieuenctid o'r dafarn, ac i yrru awydd arnynt am ddysg a gwybodaeth'.
Gwirfoddolodd rhai dynion lleol i yrru, ac o'r diwedd 'roedd trenau'n gallu mynd drwodd, gan gynnwys y Fishguard Express a'r Irish Mail.
(Dyn â golwg byr, byr ganddo oedd Ifan, yn gwisgo sbectol gwydrau-gwaelod-pot-jam ac un a gonsgriptiwyd i'r gwaith oherwydd bod rhai â golwg hwy ganddyn nhw wedi'u galw i'r fyddin i yrru cerbydau rhyfel.
Felly wedi croesi o Dover i Calais ar y cwch, gan gyrraedd yno tua hanner awr wedi wyth y nos, 'roeddem am yrru trwy'r nos.
Gan nad oedd ganddo ef na Mary drwydded yrru, cytunodd Fred i yrru'r cerbyd drostynt a phrynodd Ali fen Bedford at y gwaith.
'Fe allet ti yrru i fyny yma bob bore.'
"Cei yrru neges ar y radio i longau eraill i ddweud am yr helynt," atebodd ei gapten.
Cymryd eu tro i yrru fyddai'r ddau gan eu bod yn hoff o alw heibio ffynnon y fuwch goch ar waelod y pentre i olchi llwch y glo o'u cegau!
ac mae'n debyg i'r sioc o gael 'i yrru o 'ma fod yn ddigon iddo fe.
Fel y cofiwch, pan geir deuddeg pwynt, gellir atal trwydded yrru am gyfnod hyd at chwe mis.
Roedd pob parsel yn uchafswm y pwysau y caniateid ei yrru drwy'r post.
Wrth imi ei gychwyn adref i fyny'r lôn, ymdrawodd i'm meddwl yn sydyn y gallsai Huw Huws fod yn gynhorthwy i yrru Anti Lw ymaith.
'Falle y bydd e'n hwyrach os gallwn ni yrru adre o'ch tŷ chi yng ngole'r lleuad.
Roedd mudiad Fatah wedi galw am yrru milwyr Israel o'r Lan Orllewinol a Llain Gaza.
Ond wedi cyrraedd pen y bryn, disgynnai'r trên yn ôl deddf disgyrchiant, gyda'r unrhyw yrrwr yn cadw'i law ar y brêc A myfi a ystyriais ynof fy hun pa fodd y defnyddiai'r trên ddau rym i'w yrru, trydan a disgyrchiant, bob un ohonynt yn ei gyfeiriad ei hun.
Roedd swn cyson y chwib yn cyflym yrru'r ast yn wallgo, a meddai Roci wrth y crwt bywiog.
Yn wir, tybir ei fod yn gweithredu i adfer y corff i'w gyflwr normal pan fo rhyw ddylanwad yn tueddu i'w yrru ar gyfeiliorn.
Yr oedd rhyw ddeinameg yn ei yrru ef bellach, rhyw rym annaturiol.
Rydw i wedi derbyn dau yr un pryd, gwaetha'r modd.' Wrth sylwi ar ei hwyneb ychwanegodd yn gyflym, 'Dim byd gwaeth na mater bach o yrru'n ddiofal.
ellis owen yn troi 'r gornel am stryd y capel a 'r mans mans noson seiat, meddai seth harris yn gwta, a thewi pan aeth griff tomos ati i holi gethin ynghylch beth a ddigwyddodd, ble 'r oedden nhw 'n chwarae, beth oedden nhw 'n chwarae, sut fachgen oedd ffred, ai tal ynteu byr, tew yntau tenau, ac ymlaen ac ymlaen tra canolbwyntiai williams ar yrru cyn gyflymed ag y gallai.
"Y mae angen dynion ifanc da fel ti i yrru'r Spitfires." Awyren newydd sbon oedd hon.
Fel arfer, fi ydy'r un sy'n rhuthro'n orffwyll o Oxfam i Mencap ac yn ôl i Achu'o y Plant (mae angen Achub Rhieni adeg y 'Dolig, heb sôn am blant) yn chwilio am gerdyn rhad i'w yrru at Glenda a Bryn a gofiodd amdanom eleni er i ni eu croesi oddi ar y rhestr ers tair blynedd bellach.
Roedd gan y ddau drwydded yrru, a mi aethon i lawr yn y diwedd i Andalusia, i Granada rwy'n meddwl, ac aros yno mewn gwesty bychan.
Rhaid fod si'r peiriannau wedi ei yrru i gysgu oblegid ni chofiai ddim am weddill y daith, ond cofiodd iddo neidio'n sydyn yn ei sedd wrth glywed llais yn ei ymyl.
"Mi fydd yn well i chi yrru teligram iddi heddiw.
Cyn pen eiliad, roedd Medrawd yn carlamu ymaith i ddu%wch y nos, fel pe bai grym ellyllon yn ei yrru.
Mi fydd hi'n bosib iddyn nhw yrru neges e-bost i'r grwp.
Ac y mae gennyf gof sicr am gangers lein-gangen Aberteifi yn cerdded ar hyd y lein â morthwyl hirgoes yn eu llaw i yrru'r allweddau disberod yn eu holau.