Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ys

ys

Ys gwn i...?'

Ys gwn i beth ddaeth ag ef i garchar Rhuthun?

Henaint, ys dywedodd rhywun, ni ddaw ei hunan.

Fe'u huriai i ymwelwyr yn yr haf, ond ni yr hogiau lleol fynddai'n mynd a nhw ar y dwr ddechrau'r tymor ermwyn i'w coed chwyddo - eu 'stanshio' nhw ys dywedem.

Ys gwn i sut groeso gawn i yng Nghymru petawn yn mynd at reolwr banc a gofyn iddo fy nghynorthwyo i werthu ticedi!

Yn ystod y dyddia' hynny 'roedd hi'n beryg' bywyd, onid oeddech wedi cael swydd yn rhywle, i chi gael eich galw i wasanaethu'ch 'gwlad a'ch cyntri', ys dywedai Jac Llainsibols ac erbyn i mi gyrraedd adre' yr oedd llythyr oddi wrth y Frenhines yn fy aros yn estyn croeso cynnes i mi ymddangos o'u blaena' nhw yn Wrecsam 'na!

O fwd moroedd Bermiwda, ys dywed Euros Bowen yn ei gerdd iddynt, mae'r leptocephalii yn esgor ac esgyn i wyneb y tonnau ac yn cychwyn ar drugaredd Llif y Gwlff.

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

A chyn bo hir yr oedd ef a'r tîm o'i gwmpas yn cynhyrchu 'amrywiaeth diddorol' (ys dywed Alun Evans) o raglenni o Fangor.

Rwan dechreuais feddwl: "Beth sydd yn hon ys gwn i?

Ys dywedodd Marti, 'Dyw annibyniaeth wleidyddol ddim yn bosibl heb annibyniaeth economaidd' - yr union beth sy'n amhosibl mewn gwlad fechan heb fawr o adnoddau naturiol cyfoethog.

Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.

Ond - ie ond - ys dywaid A.

Ys dywed Kenneth Morgan, "...(a dynnwyd o'r werin)'." I'r gweithwyr, bu capeli ymneilltuol am dair neu bedair cenhedlaeth yr hyn yw clybiau ein cyfnod ni iddynt.

Ond byddai John Evans yn tramwyo'r maes mor ddisylw â chwa o wynt, gan droi cžys yn erbyn cžys reolaidd, a rhywbeth didoledig yn ei ystum fel fel pe na allai gadw ei freudwydioon yn yr un cae ag ef ei hun.

Brwd alaw ei bêr delyn - ddistawodd, Ys tywyll ei fwthyn; Hyd erwau gloes drwy y glyn Aeth o ymaith a'i emyn.

Felly, i'r rhai ohonoch oedd yn absennol o'r oedfa, a hefyd yn wir i atgoffa'r rhai oedd yno, dyma adgynhyrchu'r hyn a ddywedwyd ganddi: "Ys gwn i faint ohonoch chi yn y gynulleidfa a gafodd eich derbyn oherwydd fod eich rhieni wedi eich gorfodi i wneud hynny, neu efallai nad oeddech wedi meddwl rhyw lawer am y peth, ac mai dilyn traddodiad oedd yn bwysig.

Roedd y lleuad yn llawn a'r wybren yn ddigwmwl wrth i'r llong adael y porthladd a thorri ei chŵ;ys drwy'r môr agored a oedd, trwy drugaredd, fel llyn hwyaid y noson honno.

Yn bendifaddau, os oedd, yn ol pob hanes, yn bell o fod yn alcoholic, roedd yn sicr yn workaholic, ys dywedir.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Clywais i fy hun, fwy nag unwaith, bobl yn cyfeirio ato fel 'y dewin Sam Jones.' Ys gwn i a oes arnom ni'r Cymry ryw angen seicolegol dwfn am fod o'r fath yn ein plith.

Ond waeth i ni heb ~ meddwl y gallwn iawn ddchongli'r pregethau hyrmy heddiw, oherwydd nid ydynt ar gad i ni: rywfodd, ys dywed Cynhafal Jones, pan gymerwyd y pregethwyr i ogoniant, fe gollwyd eu pregethau.~ Yr ychydig bregethau y gwelwyd yn dda eu cyhoeddi mewn print sy'n weddill.

Chwalodd ei deulu a chollodd ei gartref er ys llawer dydd, ac aeth yntau yn grwydryn o'i hen gymdogaeth, ond daliodd i ganu hyd y diwedd.