Go brin, debygwn i, y byddai ysbeilwyr o'r Alban a'r Almaen wedi cyrraedd mor bell â Maes Garmon, a hynny mor fuan ar ôl i'r Rhufeiniaid adael.
Daethent i Brydain nid i ymladd yr ysbeilwyr ond i nerthu eglwys fechan Prydain yn erbyn gau athrawiaeth Pelagiws.
Ar y dde ymhen hanner milltir saif fferm y Dderw lle'r ymosododd Plant Mat, yr ysbeilwyr adnabyddus o Dregaron, ar ryw ffarnwr ar ei ffordd i'r Sesiwn Fawr, a'i ladd.