O hynny y treiddiai rhinwedd sydd bob amser yn ychwanegu'n anrhydeddus at ysblander, ac nid ystyrid bod gwreiddiau da a theulu cymeradwy ynddynt eu hunain yn ddigon oni ffynnai'r priodoleddau rhinweddol parhaol yr un pryd.
Ni allai ddod dros ysblander y dathlu.
Ar y cyfan teulu digon swil ydi teulu'r Pincod, fel pe baent ofn arddangos eu holl ysblander.
Sonia RT Jenkins yn y darn uchod am 'ysblander gweledigaeth proffwyd'.
Wedi'r cyfan, nid ei ansoddeiriau cymwys, er bod y rheini ganddo, nid saerni%aeth gymesur mewn ysgrif a phennod, yw gogoniant Owen Edwards, ond ei ddarluniau o ddarn o wlad; ei bortreadau o ddynion a gyfarfu; ei ddoniolwch direidus; ei hynawsedd a'i radlonrwydd; yr ychydig wermod weithiau pan wêl "wyneb coch rhyw Philistiad o Sais ariannog"; ei onestrwydd unplyg wrth gofio am Gymru yn yr Eidal neu Lydaw, a dewis ei moelni digelfyddyd crefyddus hi o flaen pob ysblander lliw a chyfoeth.
Am y clod hunanol a enillai Geraint mewn twrnameintiau y sonnir ar derfyn adran gyntaf y 'rhamant' ac wrth gyfeirio at ysblander ei lys yn yr ail adran, ond ar ddiwedd y chwedl y mae Geraint yn wir lywodraethwr ac yn rhannu'r clod â'i wraig.
Gellid dehongli eu mawreddd hwy mewn cyd- destun ehangach nag ysblander a rhwysg llysol a pholisiau cymen a derbyniol i'r bobl yn gyffredinol.
Mae'n wir na all emynau Elfed fyth gystadlu ag ysblander rhai o emynau Ann Griffiths, dyweder.
Y mae'r Athro Glanmor Williams yn cytuno â'r farn a fynegodd y diweddar R. T. Jenkins yn y Bywgraffiadur am de Gower, "Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf", ond y mae am ychwanegu fod Gower, yn ogystal â bod yn wr dysgedig, yn esgob cydwybodol.
Mae'r hen wragedd sy'n gofalu am yr eglwysi yn barod iawn bob amser i'ch tywys o gwmpas, ac ymhyfrydant yn ysblander yr amgueddfeydd crefyddol y maent yn eu gwarchod.
yna'r foment honno pan fydd y pysgodyn yn ei holl ysblander arian-lilog-las symudliw, ar garped cefndirol o eira efallai, gwn fod yma gyfoeth yn y profiad a gwerth yn y parsel!
Eiddot Ti ddirgelion y moleciwl ac ysblander cysawdau'r sêr.
Trueni nad oedd y system sain yn caniatau inni bod amser werthfawrogi ei holl ysblander.
Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.
Nid nepell o ysblander y farchnad y mae un o ardaloedd tlotaf y ddinas, lle mae degau o filoedd o bobl yn byw ar ben ei gilydd mewn cartrefi pridd.