Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysbrydiaeth

ysbrydiaeth

Amser a ballai i ddisgrifio, llai fyth ddadansoddi, y llenyddiaeth a gynhyrchwyd o dan ysbrydiaeth yr eglwysi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ar ôl diolch am allu i'w fwyta, clywaf ef yn dweud, "Er i mi dreulio bron i hanner can mlynedd ar y môr fy hoff sŵn yw si awel ysgafn dros barc o geirch aeddfed." Credaf fod gwên radlon yr "hen Grynwr" ar y bocs ceirch yn ysbrydiaeth iddo hefyd.

Trwy'r llyfr ardderchog hwn y mae Dr Gwynfor Evans wedi rhoi ysbrydiaeth newydd i heddychwyr yn ogystal â gwahoddiad i'r rhai nad ydynt heddychwyr ail-ystyried eu hegwyddorion.

Rydw i'n mynd i'r Tarw Coch am beint neu ddau, i gael ysbrydiaeth.

Pe baech chi neu fi, neu'r Archdderwydd a Gorsedd y Beirdd gyda'i gilydd, yn gweld bwthyn uncorn a chwt mochyn ynghlwm wrth ei dalcen, ni chaem fyth mo'r fath Niagara o ysbrydiaeth a'n galluogai i'w ddisgrifio'n charming cottage with scope for a sideline in productive enterprise readily accessible outbuildings.

Gormod fyddai hawlio i bob un o awduron plant sir Aberteifi ddechrau ar ei waith oherwydd ysbrydiaeth Plas y Cilgwyn.

Meddai Mam "Nabod dy Dad, mae wedi rhoi siwt eto i ryw gymeriad anffortunus fu'n disgwyl amdano wrth gatiau'r Doc yn un o borthladdoedd De Cymru." (Hynny ar ôl i hwnnw ddarllen colofn Movements of Local Vessels yn y Western Mail.) Byddai wrth ei fodd yn teithio gyda ni yn y Mini bach, y wlad, fel y môr, yn ysbrydiaeth iddo.