Mae'r gyfrol yma'n cynnwys Rysait Aros Adra felly os yr ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth i greu cwynion newydd, mi gewch sawl symptom gwreiddiol.
Hyd yn oed wrth droi'n ddiweddar at destunau'n nes adref yng Ngwent am ysbrydoliaeth, mae gweddillion chwareli mewn llefydd fel Clydach, heb fod ymhell o'r Fenni, wedi galluogi Bert Isaac i barhau â'r thema.
Bid a fo am hynny, mae'r gair Cymraeg 'awen' yn nes o ran ei ystyr i ysbrydoliaeth nag ydyw dychymyg, ac onid wyf yn camgymryd, 'roedd Waldo'n ffyddlon i ryw gynneddf yn ei natur wrth ddewis y gair hwn, ac wrth wneud, 'roedd yn gallu cadw'r hyn a oedd yn werthfawr yn ystyr y gair 'Imagination' i Blake heb gael ei lluddias gan rai o ragdybiaethau'r meddwl diweddar am y dychymyg.
Yng Nghymru yr oedd Dafydd ap Gwilym wedi dod i'r amlwg fel bardd sech a bardd natur mwyaf llenyddiaeth Gymraeg ac wedi dod yn bwnc ymchwil i ysgolheigion yn ogystal ag yn un o ffynonellau ysbrydoliaeth y Rhamantiaid, beirdd 'Y Nos, Y Niwl, a'r Ynys', chwedl Mr Alun Llywelyn-Williams.
Yna bydd y rhanbarth a gollodd gwyaf yn ennill camera fideo, felly mae hynny'n ysgogiad iddyn nhw!' Wel, mae sgwrsio gyda'r holl ferched, o Fôn i Fynwy, wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi.
Bu'r ymweliad â Chaerdydd yn sicr yn ysbrydoliaeth.Yn ôl y Ouest France, beth bynnag.
Yr ysbrydoliaeth i nifer o'r ifainc oedd heddwch a chariad, breuddwydion a oedd yn aml wedi eu hysbrydoli gan gyffuriau.
Gweddi: Rho ddygnwch a dyfalbarhad i ni, ein Duw, a rho ysbrydoliaeth gobaith.
Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.
Yn gymorth ac yn ysbrydoliaeth cyfamserol fel diweddglo'r Epistol at yr Hebreaid: 'Oherwydd y mae ef wedi dweud, Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.
Disgrifiad ydynt o darddle'r 'tân pob awen a gano', hynny ydyw, o ysbrydoliaeth, a'u natur haniaethol bellach yn rhinwedd ac nid yn fai.
Yr ysbrydoliaeth yn amlwg yn treiglo dros ffiniau'r mudiad.
'Dydi ysbrydoliaeth ddim yn un o 'nghryfdera i,' sylwodd Paul yn hwyliog.
Wilson Evans mewn sgwrs â'r Cymro mai o'i gefndir fel "colier" y daeth yr ysbrydoliaeth am y nofelau:
Dafydd a Branwen a phob ddi-smygwr arall sydd wedi bod yn agos at swyddfa'r Gymdeithas am ddioddef fy mwg; Owain am y sylwadau hollol diwerth; Grant am deutha fi sut i gyhoeddi blincin' peth i ddechrau; pawb sy 'di cyfrannu a chefnogi; pawb sy 'di rhoi cysylltiadau i'r Tafod Trydanaidd ar eu tudalennau Gwe nhw; pawb sy 'di ymweld â'r Wefan hon; pawb sy 'di cynorthwyo a chefnogi Cymdeithas yr Iaith rhywsut rhywbryd -- diolch am eich ysbrydoliaeth a'ch gwaith. Cas-berson y Mis
Iddo ef, llefydd i'w gadael ar drugaredd natur ydynt, i ddirywio yn eu hamser eu hunain; ac mae'n arwyddocaol mai Dorothea ddadfeiliedig oedd yr ysbrydoliaeth fawr am flynyddoedd, yn hytrach na'r chwareli a drowyd yn atyniadau twristaidd ym Mlaenau Ffestiniog.
Yr oedd yr awdl rymus hon yn sugno maeth ac ysbrydoliaeth o'r gorffennol, i'n hatgyfnerthu ar gyfer y blynyddoedd tywyll o'n blaenau.
Gobeithiwn y bydd yr argraffiad newydd hwn yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o Gymry i weithio dros eu cenedl a'u hiaith, a gobeithiwn y bydd yn rhoi hwb i eraill ail-afael yn y frwydr.
Adroddodd papur newydd mai cynllun ffrog Versace drawiadol a wisgwyd gan Miss Hurley yw'r ysbrydoliaeth y tu ôl i gynllun lliwgar ar fysus yr ardal.
Mae ei broffesiynoldeb a'i awdurdod wedi bod yn ysbrydoliaeth i bob darlledwr, ac rydym yn falch y bydd yn parhau i gyfrannu'n rheolaidd i'r orsaf.
Credem yng Nghymdeithas yr Iaith mai'r deyrnged orau a allem dalu er cof am Saunders Lewis oedd cyhoeddi argraffiad newydd o'i ddarlith Tynged yr Iaith, a ysbrydolodd sefydlu'r Gymdeithas, ac sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i'w haelodau byth er hynny.
Beverley Lennon Parhaodd Bev, y rhaglen nos Sadwrn i ddysgwyr, yn llwyddiant ysgubol, gyda Beverley Lennon ei hun yn ysbrydoliaeth enfawr i'r gwrandawyr.
Petae ti'n gofyn pa un llinell sy'n mynd trwy fy meddwl i ar adegau anodd, yna Steve fyddai ar y blaen efo'r geiriau 'tyrd allan i ddawnsio'n y glaw a chodi dau fys ar y byd'. Mae Steve yn dynn wrth sodlau Waldo pan ddaw hi at ysbrydoliaeth.
Ar ran yr eglwys cyflwynodd y Parchedig Huw John Hughes ddeheulaw'r gymdeithas iddynt ac roedd ei eiriau o anogaeth a chyngor yn ysbrydoliaeth i'r gynulleidfa yn ogystal a'r bobl ieuainc.
Ond os na fydd hynny'n gweithio chwaith, yna fydd gen i ddim dewis ond eistedd yma wrth y bwrdd efo'r sgript o'm mlaen i a thrio ei wneud o felly.' Ac mae'n anodd dychmygu unrhyw artist yn methu â chael ysbrydoliaeth yng nghegin glyd y bwthyn Hans Christian Andersen-aidd hwn, gyda'r gath yn canu grwndi'n ddedwydd ar y silff ffenestr.
Meddai un ohonynt, 'Mae gobaith y bobl yma yn wyneb anawsterau fil yn ysbrydoliaeth inni.