Ac y mae gan waith yr Arglwydd ei drwm a'i ysgafn, ac os oes llwyfannau y mae cyfle i bobl orffwyso wrth y gwaith arnynt, wele maent hwy wedi eu meddiannu eisoes gan rai o gyffelyb fryd.
Ni châi diwydiannau ysgafn a glanach ddatblygu yma rhag ofn y denent ei gweithwyr oddi wrth y diwydiannau glo, dur, haearn, alcam ac ati.
Mi fyddai yna stori ysgafn yn y Cymru'r Plant weithiau, ond prin y byddai hi byth yn ddigon digri i'w hail- adrodd ar y ffordd adre o'r ysgol neu wrth aros iddi stopio bwrw glaw ar bnawn Sadwrn.
Mae'r bobl ar fin y dŵr ar draeth tywod, tu fewn i ffrâm o greigiau serth ac awyr, yn cael eu cyfleu â phalet ysgafn, syml lle mae shiapiau'r lliwiau wedi eu cyfosod i greu delwedd.
ond nid oedd ganddynt unrhyw ddiddordeb yn ei ddyfais ; efallai mai'r rheswm am hyn oedd y ffaith fod y fersiynau cynnar yn anodd i'w rhedeg yn gyson, oherwydd y gwneuthuriad ysgafn a oedd yn angenrheidiol er mwyn cael gweithrediad cyflym.
Roedd hi'n dechrau pluo eira'n ysgafn wrth i Monsieur Le Maire ddechrau ar un arall o'i areithiau ar sgwâr y dref.
Enillodd ffilm ar John Cale y Rhaglen Gerddoriaeth Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, a Satellite City gafodd y Wobr Adloniant Ysgafn Orau ar yr un achlysur.
Syllodd Jean Marcel yn hir ar y miloedd o blu eira yn disgyn yn ysgafn ar bennau ei gydwladwyr, ac atgasedd tuag at y Maer yn cynyddu yn ei galon wrth iddo wrando'i eiriau.
Megis yn achos gwyddoniaeth, nid un fiwsig sydd, ond amryw fathau arni: y clasurol a'r ysgafn, yr offerynnol a'r lleisiol, cerddoriaeth gyfoes a cherddoriaeth gynnar, gan gynnwys caneuon ac alawon gwerin ac yn y blaen.
ysgafn droedia y feinir wridog a'i hysten odro yn ei llaw, ar hyd llenyrch meillionawg y dyffryn'.
Haeddai sylw ysgafn atebiad ysgafn bob amser, ac yr oedd rhywbeth cyffrous-beryglus mewn chwarae deufel lafar gyda gwrthwynebydd mor finiog a chwim ei feddwl â Hywel Vaughan.
Dyfynnaf hi â mawr ddile/ it, canys rhydd i mi'r cyfle i grybwyll y ffaith mai 'Beddargraff Twrnai' yw testun yr Englyn Ysgafn yn Eisteddfod Bro Madog y flwyddyn nesaf, ac mai'r Prifardd Dic Jones fydd yn beirniadau.
Ar ôl diolch am allu i'w fwyta, clywaf ef yn dweud, "Er i mi dreulio bron i hanner can mlynedd ar y môr fy hoff sŵn yw si awel ysgafn dros barc o geirch aeddfed." Credaf fod gwên radlon yr "hen Grynwr" ar y bocs ceirch yn ysbrydiaeth iddo hefyd.
Llyfrau durchafol ac addysgiadol oedd ganddi, dim byd ysgafn a salw.
Cwtogwch neu'n well byth, peidiwch ag ychwanegu siwgr at eich te neu'ch coffi a dewiswch ddiodydd ysgafn 'di-siwgr'.
Erbyn hyn roedd yr anifail wedi closio ato ac yn ei rwbio'i hun yn ysgafn yn erbyn braich y morwr.
Gwenodd ei daid wrth iddo redeg ei fysedd yn ysgafn hyd clawr y llyfr.
'Rhyw ddiwrnod, Sioned,' meddai Lleucu ar ei draws, 'mae hwn yn mynd i weld gwerth ei dad ac yn mynd i ddifaru 'i fod o wedi'i gymryd o mor ysgafn.' "Dydw i ddim,' protestiodd Rhodri ar unwaith.
Ni chlywodd y traed ysgafn y tu ôl iddi nes i lais bychan dorri ar draws ei bwrlwm a gofyn iddi'n wylaidd: 'Ble mae Mam, Miss Beti?' Stopiodd yn y fan a rhyw hanner gweld bachgen bach penfelyn tlws yn sbio'n ymddiriedol i fyny ati.
Yna, tuag wythnos cyn plannu'r tomatos, gellir taenu gwrtaith cyffredinol, yn ôl dwy owns i'r llathen sgwâr, ar yr wyneb a'i gribinio'n ysgafn i'r pridd.
Denir y gloynnod gan eu lliw a'u harogl ysgafn a gwthiant eu tafodau hirion yn ddwfn i'r neithdar yn yr ysbardun hirgul.
Cerdd Ysgafn yn Saesneg 4 llinell i ddysgwyr.
Wrth blygu fe wnes i gyffwrdd yn ysgafn yn ei ysgwydd â'm llaw, er efallai yn anfwriadol.
Wrth gyrraedd y Plas mae yna sgwrs rhwng y perchennog a'r ddwy ymwelydd sy'n rhoi ymdriniaeth ysgafn o'r dryswch mae'r ddwy dafodiaith yn gallu ei greu.
Ac yn awr dyma fe'n gorwedd ar ganol yr heol, ei ben yn ysgafn gan ryw syrthni rhyfedd.
Cerddi eraill: Gwyndaf, gyda cherdd vers libre cynganeddol, y tro cyntaf i gerdd o'r fath gyrraedd cystadleuaeth y Gadair, Caradog Prichard a Brinley Richards, gydag awdl ddychan ysgafn.
Byddai'n siŵr o'm hatgoffa iddo gael ei eni (yn ail o deulu o ddeg) a rhwyd ysgafn (caul) am ei ben.
Tori mawr ydy o, a finna erbyn hyn wedi troi at yr Islamiaid, a'r diwrnod o'r blaen, pan ddois i i'w wynab o, roedd fy matin gweddi gen i yn un rholyn o dan fy nghesail, a dyma fo'n dechra fy nghymryd i'n ysgafn ar ei union, a gofyn pa bryd yr oedd y Proffwyd wedi bod acw ddwaetha i de.
Taenodd ei bysedd dros ei rudd a chusanodd ef yn ysgafn, ysgafn ar ei wefus.
Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol.
'Does gennym ni ddim dewis,' meddai'r brwyn ysgafn o dan y dorlan.
Mae ei ffrog gotwm ysgafn yn esmwyth i'r cyffyrddiad, ac mae 'na gymaint o hapusrwydd ynof.
Ond cyn mentro i'r byd actio roedd yn un o sêr mwya' disglair y byd adloniant ysgafn yng Ngorllewin Morgannwg ac yn arfer canu gyda neb llai na Bonnie Tyler a aeth ymlaen i gael hits enfawr gyda 'Lost in France' a 'Total Eclipse of The Heart'.
Dim ond pebyll ysgafn sydd gennyn nhw, ac mae rhai ohonyn nhw heb bebyll o gwbl.
Sut lwyddodd pethau mor frau, mor ysgafn â brwyn i oresgyn y storm tra bo derwen mor gadarn wedi'i chwympo ganddi?
'Roedd o'n teimlo fod rhai pobl yn cymryd y proffesiwn yn rhy ysgafn, ddim yn dysgu'r gwaith, a.y.y.b.
Brwyn glas, ysgafn nad ydyn nhw'n dda i ddim i neb.
'Mae e'n ffodus iawn bo fe'n weddol ysgafn a gobeitho gallwn ni gadw'i bwyse fe lawr i farchogaeth ar y fflat,' meddai Hywel.
Rhaid oedd dechrau gyda chwistrelliad ysgafn o arsnig (Itchigo--dogn rhif un) yn gymysg â bismwth, ac yna gryfhau'r ddogn yn raddol iawn fel y deuai'r corff i gynefino â'r gwenwyn.
mae'r cwmni wedi cynhyrchu sioeau cerddoriaeth o fri, opera, rhaglenni dogfen ac adloniant ysgafn yma yng Nhgymru a thu hwnt yn cynnwys America, Hong Kong, Scandinafia a rhan helaeth o gyfandir Ewrop.
Ni waeth beth oedd camgymeriadau Hector ar ei wyliau bu'n ddigon doeth i deithio'n ysgafn, gyda'r canlyniad iddo ymwadu a thacsi, a cherdded yn heini o'r orsaf, a'i fag yn ei law, i'r gwesty.
Teimlodd Llio ei chalon yn peidio 'a churo, ei bysedd a'i thraed yn ddiffrwyth a hithau'n ysgafn ei chorff ac yn teimlo ei bod yn codi uwchlaw y gwely.
Curodd Marie yn ysgafn ar ddrws a oedd yn yr un cyflwr â gweddill yr adeilad.
Cwrw oedd canolbwynt dau gomedi sefyllfa, gyda Trouble Brewing, golwg ysgafn ar y busnes bragu a Pub Globo, a aeth gam ymhellach.
Gofynnwyd i Dafydd Iwan, sydd nid yn unig yn un o gantorion ysgafn mwyaf blaenlalaw Cymru ond hefyd wedi bod yn flaenllaw yn y frwydr genedlaethol, ganu yn y cyngerdd yn y Bae ond ni allai dderbyn oherwydd iddo gytuno i ganu mewn noson Gymraeg yng Nghaerfyrddin.
Wel, hanes cyfoethog, atyniadau diddorol a diwylliant bywiog sydd wedi cynhurchu rhai o sêr action, canu clasurol ac adloniant ysgafn enwoca' Cymru.
Nofel ysgafn, wreiddiol i blant 8-12 oed.
Niwl ysgafn yn mynd a dod, eto'n llwyddo i greu distawrwydd.
Chwarddodd yn ysgafn.
Dichon mai ym mhlith y rhain y dylid gosod y rhai trymion, y rhai nad yw llyfr otograff iddynt ddim i'w gymryd yn ysgafn.
Rhifyn ola'r gyfres gwis ysgafn oedd hon.
Sbardunwyd math newydd o gystadleuaeth gan Y Gwir yr Holl Wir, sef sioe gwis gyfreithiol ryfeddol o ysgafn, a oedd yn llwybr newydd i BBC Radio Cymru.
Yn sydyn, roedd Meic yn dal bwyell ddisglair ddeufiniog a tharian ysgafn gron yn ei ddwylo.
Cannoedd o wahanol adrannau o'r Lluoedd Arfog, rhai yn teithio gyda 'full pack', eraill yn troedio'n ysgafn, dynion a merched a channoedd hefyd o sifiliaid.
Awn i'r gwely mor gynnar ag y gallwn, rywdro rhwng wyth a naw, ac yna tuag un yn y bore, cyn iddo fynd i glwydo ei hun, deuai plismon y pentref a churo'n ysgafn ar ffenestr y gweithdy i'm deffro.
Wrth i'r bêl euraid fu'n arwain Caradog daro yn ei herbyn yn ysgafn tasgodd gwreichion ohoni.
Gwyndaf, gyda cherdd vers libre cynganeddol, y tro cyntaf i gerdd o'r fath gyrraedd cystadleuaeth y Gadair, Caradog Prichard a Brinley Richards, gydag awdl ddychan ysgafn.
Dylid hofio'n ysgafn ond yn gyson er mwyn cadw'r pridd sydd rhwng y rhesi'n glir o chwyn.
Rhinwedd y tyddynnwr anhysbys o safbwynt llysieuwr yw na wellodd y tir ac oherwydd hyn mae'r caeau'n frith o flodau gwylltion yn y gwanwyn a'r haf; gwyn y llygad eglur, melyn y gribell felen, coch ysgafn y bengaled a choch tywyll y teim ynghyd â nifer o degeiriannau fel y tegeirian brych Dactylorhiza maculata y tegeirian brych cyffredin D.
Syrthiodd i gwsg ysgafn.
Roedd yn naturiol, felly, i ni fod yn uchelgeisiol yn ein hymateb i'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1998: nid adroddiadau a dadleuon yn unig, ond hefyd rhaglenni dogfen, celfyddydol ac adloniant ysgafn.
Mae Doli Stryd y Glep 'fel swigen sebon o bibell bridd', a'r gwynt yn cipio 'plu ysgafn ei siarad'.
Roedd yr holl ddychan ysgafn yn gwneud i rywun 'normal' fel y fi wingo yn fy nghadair.
Ac yn y pen arall, y ferfa ysgafn, handi, yn baent ac yn sglein i gyd ac yn symud ar le glas heb ddim ond sūn yr echel yn troi yn ei saim.
I rywrai eraill o bosib gellid bod yn ysgafn ddihidans ynglŷn a'r fath beth am nad oedd yna ddim difrifoldeb ynghylch y bywyd ysbrydol iddynt hwy, beth bynnag.
Cwta flwyddyn sy' ers pan ma' nhad druan wedi'n gadal ni a thydy i slipars o ddim blewyn gwaeth na newydd." Wedi cael un esgid yn rhydd rhwbiodd ei droed yn ysgafn â'i llaw.
Nid yw'n swil o gynnwys cyfeiriadau ysgafn a fyddai o gryn ddiddordeb i ambell ddarllenydd.
Gyda llaw, mae digonedd o ddillad ysgafn ar y gwely, neu am y corff, yn fwy effeithiol na thrwch o ddillad trwm.
Ochenediodd hithau, cyn rhoi ei llaw yn ysgafn ar ei thalcen i'w thawelu, ac ni symudodd nes iddi lithro'n eri hôl i gysgu'n esmwyth a dibryder.
Yna dychwelodd y bwtler gan wthio troli de trwy'r jyngl, cymysgodd frandi a soda i mi, lapiodd y bwced rew gopr gyda napcyn tamp, ac aeth ymaith ar ysgafn droed rhwng y tegeiriannau.
Er bod ei lais yn ysgafn a'i anadl braidd yn fyr, fe glywodd pawb bob un gair yn glir.
Yn un peth, fe ddechreuodd wherthin llai, ond plentyn 'i mam oedd hi wedi bod eriod, achos roedd 'i thad wedi marw cyn iddi hi ddechre'r ysgol, ac ma'n rhaid 'i bod hi'n gwbod bo'i mam yn colli tir wythnose cyn iddi farw, yn enwedig gan iddi hi gal ergyd ysgafn ar 'i chalon yr union wythnos y daeth Madog i'r pentre.
Y cwbl a geir mewn gwirionedd ydi piano a bît ysgafn, a hon o bosib ydi'r gân fwyaf canol y ffordd i Gwacamoli ei chyfansoddi erioed.