Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgogi

ysgogi

Er mwyn ysgogi'r dysgu mewn ffordd briodol, rhaid i'r athrawes wybod am

Ac y mae dylanwad mudiadau protest a chymdeithasau amddiffyn o'r tu mewn a'r tu allan yn ysgogi ymwybyddiaeth amgenach na'r gwerthoedd yr oedd 'cyfoeth ffermwyr Llŷn' yn ei gynrychioli.

Lluniwyd 'Datganiad Egwyddorion' er mwyn ysgogi trafodaeth a symud ymlaen tuag at greu Cyngor Cymraeg ei gyfrwng yn Sir Gâr.

William Howard Russell o The Times oedd hwnnw, y gŵr a fu'n byw gyda'r fyddin yn ystod Rhyfel y Crimea ac a fu'n ddigon beirniadol o'r trefniadau i ysgogi cwymp llywodraeth a denu Florence Nightingale allan i helpu.

Nid rhyw fath o sadistiaeth obsciwrantaidd oedd yn ysgogi'r hen frodyr ond ymwybod digon realistig a'r posibilrwydd y gellid camgymryd disgleirdeb meddwl am dduwioldeb calon.

Mae Antur Waunfawr wedi sefydlu eu hunain fel cwmni arloesol sydd nid yn unig yn hyfforddi ac intigreiddio pobl gyda anhawsterau dysgu, ond hefyd yn chwarae rhan allweddol i ysgogi y gymuned leol i adfywio'r gymuned ac adfer eu hamgylchedd yn unol â gofynion Agenda 21.

I'r sawl sydd yn gallu cyfuno sylwadaeth fywiog a diwylliant eang ac sydd yn cael ei ysgogi gan gariad at ei fro, y mae ei filltir sgwar yn destun diddordeb di-ben-draw.

Rhaid aros am hanesydd i gloriannu'n wrthrychol yr ysgogi a'r atalfa.

Er mwyn gwerthfawrogi beth oedd yn ysgogi'r brwydrau, rhaid cadw rhai pethau mewn cof.

'I Edward Wyn,' atebais yn syth, fel pe bai rhyw fymryn o furmur hen adlais yn fy ysgogi.

Penderfynwyd hefyd mai trwy weithgaredd neu gwestiwn a fyddai'n ysgogi adfyfyrio ac ambell sylw'n dilyn hynny wedyn y byddid yn cyflwyno.

Tra bo BJ wedi cydio yn fy nychymyg, peri imi chwerthin yn uchel a fy ysgogi i droi'r tudalennau, ni allaf ddweud yr un peth am CJ.

Mae'r mudiad yn ysgogi a cheisio hybu datblygiadau fel peiriannau bio-gas, ffynhonnau dŵr-glan, ac ati, mewn modd sydd am eu gwneud yn effeithiol yn y pentrefi diarffordd.

all yr hyn sy'n ysgogi chwerthin heddiw eich gadael chi'n gwbwl oer yfory?

Fo oedd yn fy ysgogi i roi cynnig arni.' Ac yn wahanol i sawl plentyn arall oedd yn gorfod adrodd adnod mewn gwasanaeth neu gymryd rhan yn yr Ysgol Sul, roedd y Judith ifanc yn falch o'r cyfle.

Trïa ysgogi dy bartner oherwydd dy fod ti wedi llithro mewn i rych.

Ni chofiaf weld y geiriau dadleuol uchod yn eu cyd-destun gwreiddiol, ond, os nad wyf yn camgymryd, yr hyn yr oedd gan Dr T Gwynn Jones yn ei feddwl oedd fod pwnc yr iaith yn un mor llosg nes ysgogi rhai Cymry i feddwl ac i weithredu'n gam, hynny yw, yn anghyson â'r egwyddorion hynny sy'n sylfaen i ffyniant cymdeithas wâr.

Creu sefyllfaoedd o fewn ysgol/adran, cynnig syniadau a fyddo'n ysgogi athrawon i dreialu dulliau ac ystyriaethau newydd ac a allai arwain at yr athro fel ymchwilydd, felly, yw un o nodau'r Pecyn.

A dyna hefyd yr argyhoeddiad sydd wedi ysgogi pob mudiad cenhadol Cristionogol.

Yr oedd sylwadau Gruffydd yn ddigon i ysgogi ymateb.

Parhaodd BBC Cymru i ddarparu llu o raglenni i'w dangos ar S4C wedi'u hanelu at ddifyrru ac ysgogi'r gynulleidfa ehangaf posibl.

(Gweler y Rhagarweiniad am y manylion.) Rhan o'ch rol chi fel cydgysylltwr yw ysgogi arbrofi, annog a chefnogi menter mewn dysgu.

Yr oedd cynnwys y gerdd yn rhwym o ysgogi teimladau cymysg.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.