Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgogiad

ysgogiad

Rhoddai ystyriaethau o'r fath ysgogiad i'r teulu hwn ac eraill cyffelyb iddo i ledu eu gorwelion cymdeithasol ac ennill cryn awdurdod iddynt eu hunain yng ngogledd Cymru.

Yna bydd y rhanbarth a gollodd gwyaf yn ennill camera fideo, felly mae hynny'n ysgogiad iddyn nhw!' Wel, mae sgwrsio gyda'r holl ferched, o Fôn i Fynwy, wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi.

Thema ganolog: Rhyfel, effaith y Rhyfel, parhad rhyfel dan gysgod y Bom ac wrth i'r Swyddfa Ryfel fygwth dwyn tir Cymru, y Rhyfel oer: yr Ail Ryfel Byd yn torri cyn i'r Eisteddfod gael cyfle i weithredu'r drefn newydd, a gorfod ailaddasu eto ar ôl y Rhyfel, nes cyrraedd y flwyddyn dyngedfennol bwysig honno, 1955, pan ddechreuwyd sôn am foddi pentref Cwm Cwelyn, yr ysgogiad mwyaf i genedlaetholdeb Cymreig y cyfnod diweddar.

Maldwyn Evans, golygydd Y Llan, ar ddechrau'r Rhyfel y byddai'r argyfwng a wynebodd y wlad yn gyfrwng i ddod â'r bobloedd i'w coed, yn ysgogiad iddynt droi, o ddifrif calon, at bethau dyfnaf bywyd.

O fedru cymuno ag Ynys Afallon, yr ysgogiad ysbrydol goruwchnaturiol hwn sydd tu hwnt i ddelwedd, y geill pob Bedwyr trist a distaw yn hyn o fyd wynebu'r drin.

Un esboniad ar y wedd hon ar y nofel (ar wahan i ysgogiad cychwynnol amodau cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a ofynnai am nofel yn ymdrin a thair cenhedlaeth) yw hoffter y Cymry o hal achau, yr ymhyfrydu mewn tylwyth mawr dyrys.

Ynddi hi, craidd y bersonoliaeth, y mae'r ysgogiad sy'n llywodraethu ein hymwneud â'r holl arweddau amrywiol ar y bydysawd.

Droeon yn ystod ei yrfa newidiodd ei liw diwinyddol er na chrwydrodd yn bell oddi wrth y Galfinyddiaeth efengylaidd honno a oedd yn brif ysgogiad ei waith.

Rhoi i'r rhai sydd ganddyn nhw'n barod fu prif ysgogiad y Toriaid dros y pymtheng mlynedd diwethaf gan wneud y tlawd yn dlotach ond rhoi i gyfran helaeth o'r dosbarth canol hyd yn oed arian i'w wastraffu.

Felly, y ddau ysgogiad sylfaenol mewn Dyneiddiaeth fodern oedd "Natur" a "Rhyddid" - Natur hunanesboniadol a Rhyddid personoliaeth yr ymchwilydd.

Bwriad y wefan yma yw cynnig cefnogaeth ac ysgogiad i bobl sy'n gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 4 mewn Rheoli.

Weithiau, y trefnydd ei hun fyddai'r ysgogiad yn yn y lle cyntaf, dro arall cyfarfyddid ar gais aelod o Adran Iaith neu Adran Addysg Prifysgol neu Bolitechnig.

Yr un math o ysgogiad sydd gan John Owen wrth sgrifennu am bobol ifanc y cymoedd heddiw.