Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgolhaig

ysgolhaig

Y mae ôl bysedd ei ffydd ar waith y bardd fel ar waith y gwyddonydd a'r ysgolhaig mwyaf cytbwys.

Er hynny mae'n ddiddorol tros ben gweld sut y mae ysgolhaig a dreuliodd oes lafurus yn y maes yn gweld y darlun.

ê'r llygoden a Chadog a'r ysgolhaig i ystafell danddaearol yn llawn gwenith ac felly fe derfynir y newyn.

Ysgolhaig yn y traddodiad dyneiddiol ydoedd, yn gweld hanes fel maes cyfunol.

Cymorth beirniadaeth E Lewis Evans, y mae M Wynn Thomas yn edmygus iawn ohono, ysgolhaig a gweinidog Annibynnol a ddeallodd yn gynnar ba mor astrus oedd ei arwr; a chymorth beirniadaeth Hugh Bevan ar ei ôl, yr hwn yn Morgan Llwyd y Llenor a astudiodd yr awdur fesul llyfr yn ogystal ag yn gyffredinol.

Trwy'r cylchgrawn hwn yn bennaf y dylanwadodd Gruffydd ar fywyd llenyddol a chymdeithasol ei gyfnod a llwyddodd i sicrhau cyfraniadau oddi wrth bob ysgolhaig, llenor a bardd o bwys.

Ac yn olaf, gwyddai'r ysgolhaig yn dda ddigon faint o yndrech feddyliol a llenyddol y buasai'n rhaid wrthi er mwyn sicrhau trosiad teilwng.

Yr oedd yn fwy o ysgolhaig nag o offeiriad Cydnabyddir ef yn un o'r tri ysgolhaig pur a gynhyrchwyd gan y Dadeni Dysg yng Nghymru y cyfnod hwnnw.

Y mae un mater arall y dylid ei nodi ynglŷn ag agwedd Alun Llywelyn- Williams at swydd y prydydd: y mae hi'n gwbl wahanol i swydd yr ysgolhaig.

Cydnabyddir y Dr John Davies yn ysgolhaig Cymraeg mwyaf ei oes ac ar wahân i'w waith yn diwygio Beibl William Morgan ysgrifennodd lyfrau dysgedig a chyfieithiadau, a chasglodd lawer o lawysgrifau pwysig.

Fel ysgolhaig yn trafod pynciau hanesyddol yr ysgrifennodd Llynnoedd Llonydd.

Gwybod sy'n bwysig i'r ysgolhaig, adnabod i'r bardd.

Mae Geraint Jenkins yn hysbys ddigon fel ysgolhaig sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i hanesyddiaeth Gymreig.

Ef o'i fyfyrgell yn rheithordy Mallwyd, oedd ysgolhaig mwyaf cyfnod olaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo.

Nid Iolo oedd yr unig ysgolhaig yn y cyfnod hwnnw gyda dychymyg rhamantus oherwydd roedd hi'n ffasiynol i ddisgrifio ffosiliau megis y wystrysen Gryphaea fel 'ewin bawd y Diafol'.

Ysgolhaig, llenor, golygydd, eisteddfodwr, darlithydd, darlledwr, a Chymro tra chariadus.

Amrywiai'r ysgolion hyn yn ddirfawr o rai gweddol dda i rai a gynhelid mewn ystafell fechan dywyll gan hen wraig a wyddai efallai air neu ddau o Saesneg, ac o'r herwydd yn cael ei chyfrif yn ysgolhaig.

Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o'r ysgolhaig y bu ei gyfraniad yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.

NId ysgolhaig a bardd yn unig oedd John Morris-Jones, ond athro hyd fêr ei esgyrn, a threuliodd ei flynyddoedd aeddfetaf yn dysgu i genedl y Cymry, trwy'r Eisteddfod a'r wasg, sut i farddoni.

Peate noda fod wal ddiadlam rhwng y bardd a'r ysgolhaig:

Fel y dywedodd un ysgolhaig, wrth ddisgrifio hanes y Saesneg, 'Translations poured from the press....

Fel ysgolhaig ni allai beidio â theimlo oddi wrth yr her i esbonio eu natur eithriadol, a phan ystyriwn ei gefndir meddyliol ef a'i gyfnod, nid syn ydyw ei gael yn taro ar yr esboniad arbennig a gynigiodd.

Ond fel ysgolhaig a hynafiaethydd, gwelai werth yn yr iaith er ei mwyn ei hun hefyd, a rhoddodd gefnogaeth frwd i'r offeiriaid hynny a geisiai hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant.

Ym Manawydan fe ddywed yr ysgolhaig ei fod wedi dod 'o Loygyr o ganu', a gellid meddwl bod yr offeiriad a'r esgob yn dod o'r un cyfeiriad.

Yn êl y Vita Cadoci, fe ddychwel Cadog o Iwerddon ac ê i Frycheiniog i astudio dan gyfarwyddyd ysgolhaig adnabyddus.

Wedi i'r golygydd sôn am gyhoeddiadau Huw Jones o Langwm, eir ymlaen i drafod ei faledi, unwaith eto, mewn modd sy'n ddealladwy ac apelgar i'r ysgolhaig ac i'r darllenydd cyffredin.

Yn ei fyned ef, fe gollodd Cymru ysgolhaig a beirniad a llenor.

Prynodd lyfrau a llawysgrifau'r ysgolhaig Cymraeg Moses Williams ar ol marw'r gŵr hwnnw, a threfnodd i Richard Morris - un o Forisiaid Mon - wneud rhestr ohonynt a'u gosod mewn trefn.

A hithau'n ysgolhaig eang ei gwybodaeth, diau y gall y gyfrol hon fod yn fan cychwyn trafodaeth ddwys mewn colegau ac ymhlith ysgolheigion - o'u safbwynt hwy bydd yn ychwanegiad buddiol at - ac yn grynhoad gwerthfawr o'r drafodaeth a fu hyd yn hyn.

Fe'n rhybuddiwyd gan Saunders Lewis flynyddoedd yn ôl y dylid disgwyl gan lenor neu ysgolhaig amgenach pethau na'r rhai y gall pawb arall eu rhoi i ni.

Nid turio i'r Mabinogi a Chymraeg Canol a wnaeth, a chwilio am batrymau fel ysgolhaig, ond ysgrifennu o gyflawnder ei enaid fel Cymro o Lanuwchllyn.

Yr oedd yn ysgolhaig gwych ac yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol ac ieithoedd diweddarach.

Dyna'r lle y gwelir ar ei anterth gyfuniad o'r elfennau gwahanol yng ngwaith Davies fel esgob, sef, y gwladweinydd, y bugail, a'r ysgolhaig.

Syniad Edward Williams (Iolo Morganwg), saer maen, bardd ac ysgolhaig o Drefflemin, Bro Morgannwg, oedd sefydlu'r mudiad, a hynny er mwyn adfer y traddodiad barddol i'w hen ogoniant.