Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgolheigaidd

ysgolheigaidd

Gyda'r anian ysgolheigaidd a oedd mor gryf ynddo, ymroes i'r gwaith mewn ffordd eithriadol gydwybodol.

Yn Lladin, felly, hyd yn oed yn ugeiniau a thridegau'r ail ganrif ar bymtheg, y dewisodd Dr John Davies lunio ei ddadansoddiadau ysgolheigaidd ef o eirfa a gramadeg yr iaith Gymraeg.

Un felly ydy Dylan Phillips, awdur y llyfr ysgolheigaidd a darllenadwy hwn ar hanes y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992.

Ond ar wahân i hynny, y mae dadl ysgolheigaidd gref tros lynu wrth y testun grweiddiol literatim.

Y mae'r Beibl hwn, 'Beibl Genefa' fel y'i gelwir i'w osod gyda'r gorau yn ei gyfnod ar bwys ei gywirdeb ysgolheigaidd a'i fynegiant gafaelgar.

Gwyddys bellach mai ymgymryd â'r cyfrifoldeb o ddwyn allan argraffiad diwygiedig o'r Beibl a wnaeth yr Esgob Parry, a chael gan ei gyfaill ysgolheigaidd a galluog, person Mallwyd, wneud y rhan fwyaf o'r gwaith.

Cyhoeddwyr llyfrau ysgolheigaidd Cymraeg a Saesneg.

Ar un ystyr yr oedd y ffasiwn llenyddol a llenyddol-ysgolheigaidd yn Lloegr yn tueddu i gadarnahu barn llenorion a beirniad Cymru fod i Ddafydd ap Gwilym safle unigryw yn y traddodiad llenyddol Cymraeg, ond ar yr un pryd yr oedd yn tueddu i gadarnhau'r argraff o chwilio'n ddigon manwl, ddod o hyd i effeithiau dylanwadau cyfandirol arno.

Hawdd yw dilorni agwedd ffug-ysgolheigaidd Rowlands, ei syniadau am 'conjectural history' neu'i eirdarddu carlamus, ond er hynny cystal cofio ei fod yn dilyn awdurdodau cydnabyddedig ei ddydd, megis Thomas Burnet y daeargwr, Aylett Sammes, awdur Britannia Antiqua Illustrata, a'r ieithegydd Samuel Bochart.

Blackwell's Bookshops, yn Rhydychen: Un o'r cyflenwyr llyfrau academaidd ac ysgolheigaidd mwyaf adnabyddus ym Mhrydain.

Yr oedd y tri dylanwad y cyfeiriwyd atynt - nerthoedd grymusaf yr oes - yn cyniwair yn drydanol trwy gylchoedd ysgolheigaidd a meddyliol Prifysgol Rhydychen tra oedd Davies yno.

Yn ail, gwna ymdrech dda i gysylltu'r drafodaeth ar Llwyd â'r gwaith ysgolheigaidd mewn meysydd eraill sy'n debygol o'n helpu i fantoli'n gywirach arbenigrwydd ei berson a'i gynnyrch.