Yn ol un o ysgrifau Williams Parry, yr oedd WJ Gruffydd yn cael ei gyfrif yn 'ddi-Dduw.' Gwyddom hefyd fod bardd 'Ymadawiad Arthur' yn cyfeirio at fywyd yn ddiweddarach fel 'un ias ferr rhwng dwy nos faith.' Ac os clustfeiniwn ar eiriau bardd 'Yr Haf',cawn yng ngodidowgrwydd - yr awdl honno ei dagrau hefyd - sef dagrau pethau, yr ymwybod ag angau, ac a thymp a thempo amser.
Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.
Casgliad o 13 o ysgrifau beirniadol.
Nid oedd newid sylfaenol yng nghyfeiriad meddwl Hugh Hughes yn ei ysgrifau maith yn y Seren Ogleddol, felly, ond yn sicr yr oedd ei bwyslais yn dechrau symud o'r ymosodiad cyffredinol ar berthynas yr Eglwys a'r wladwriaeth, tuag at un agwedd arbennig ohono.
COF CENEDL XVI - YSGRIFAU AR HANES CYMRU Gol.
Mae'r holl elfennau yr oedd Y Gohebydd yn sôn amdanyn nhw i'w gweld yn y casgliad yma o ysgrifau gan newyddiadurwyr a ffotograffwyr ond, fel crwbanod yn cario'u cartrefi ar eu cefnau, mae llawer o'r drafodaeth ynghylch Cymreictod, neu ddiffyg Cymreictod, y gwaith.
Ychydig o ddatblygiad syniadol oedd yn y llythyron gyhoeddodd Hugh Hughes yn ei erbyn yn y Seren Ogleddol o'u cymharu â'i ysgrifau yn Seren Gomer bum mlynedd yn gynharach, ond cafodd le yn ei bapur ei hun i'w hegluro'n llawn ac yn fanwl.
Y gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres o ysgrifau ar hanes Cymru.
Eithr ysgrifau ydynt a gyhoeddwyd eisoes rhwng cloriau caled, nad yw'n rhy anodd dod o hyd iddynt.
Mae'n syn i'r golygydd ddweud 'y gerdd bwysicaf yn y casgliad hwn yw 'Gweddi'r Terfyn' gan nad oes yma ysgrif ar y gerdd honno; gallesid cynnwys ysgrifau DZ Phillips a SL ei hun o'r Tyst.
Lluniodd draethawd eithriadol braff yn dwyn y pennawd '...' , ynghyd â chyfres o ysgrifau gwybodus a threiddgar ar fframwaith cymdeithasol ac economaidd yr oes yn y Morning Advertiser.
Am yr eildro yn ystod fy nghyfres ysgrifau rwyf am ddwyn sylw at fy awgrym blaenorol o beidio dilorni a dibrisio dail tê wedi gorffen eu pwrpas mewn tebot.
Mae enwau'r ysgrifwyr yn warant o werth yr ysgrifau, sydd gan amlaf yn canolbwyntio'n effeithiol ac yn drylwyr ar un gerdd, gan egluro'r cefndir a'r cyfeiriadau a geir ym mhob un.
Yr oedd hyn yn gyson â'r pwyslais a roddodd ar gymedroldeb yn ei ysgrifau am foeseg y byd hwn.
Darllenwch ei ryddiaith, naill ai ei ysgrifau beirniadol neu yn ddiweddarach ei Nodiadau Golygyddol yn Taliesin, a'r hyn a welwch yw eglurder meddwl a mynegiant gŵr gwastad, doeth.
Y mae'n sefyll yn llinach Radicaliaeth Cymreigyddion Llundain a gyrhaeddodd genhedlaeth Caledfryn a Samuel Roberts, Llanbrynmair, drwy'r Cymro ac ysgrifau Hughes yn Seren Gomer.
Ond fy mwriad yw nid codi crachod ond mynegi gwerthfawrogiad am gasgliad o ysgrifau sydd wedi ein gosod unwaith eto mewn dyled i'r Athro Glanmor Williams.
Y tebygrwydd yw fod llawer o'r ysgrifau golygyddol, dienw, yn y Seren yn gynnyrch cydweithrediad Hughes, J. T. Jones a Chaledfryn.
Drwy hynny, byddai dogfennau llys barn, sieciau, tyst-ysgrifau geni, priodi a marw, a phob math o bapurach cyfreithiol a swyddogol o'r un grym yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Yr oedd cyflwyno emynau ac emynwyr Cymraeg i'r Saeson yn genhadaeth ganddo: lluniodd, ymlith pethau eraill, gyfres o ysgrifau ar emynwyr Cymru i Sunday at Home, a'u cyhoeddi ynghyd wedyn dan y teitl Sweet Singers of Wales.
Ysgrifau ar dafodieithau gwahanol o fewn yr iaith Saesneg.
Wedi'r fath golledion arteithiol, gwaethygodd ei iechyd a soniai fwyfwy yn y pulpud ac yn ei ysgrifau am dymhestloedd geirwon, blin gystuddiau, chwerwder marwolaeth, y dywarchen olaf, lleithder y bedd, ac angau a thragwyddoldeb.
Tra mae'r myfyrwyr yn penderfynu sut a pham i newid er gwell fywydau'r dosbarth gweithiol (gyda chymorth ysgrifau Mao yn yr achos hwn), maent yn gwrthod yn lân â derbyn y dylent ystyried eu dyheadau eu hunain gyda'r un trylwyredd.
.' Hoffai Ieuan Gwynedd hefyd ei ddisgrifio ei hun fel mab y bwthyn neu wladwr mynyddig, a thelynegai yn ei ysgrifau a'i gerddi am fryniau gwyllt Gwalia, am lili%au a rhosynnau coch, am wenyn yn suo, am furmur y nant, ac am blant bochgoch yn chwarae'n hapus ar feysydd gwyrddlas.
Y mae'n bosibl fod cydolygyddion Hughes wedi'i rybuddio yn erbyn gwrthweithio cryfder ei achos drwy ymarfer iaith a ellid ei dehongli yn hunangyfiawn ac â naws sarhau-er-mwyn-sarhau iddi yn yr ysgrifau hyn.
Ysgrifau ar y Nofel - John Rowlands.
ac amryw ysgrifau yn Y Llenor.
Edwards yr aeth ati i lunio llu o ysgrifau hunan-gofiannol a llenyddol a brogarol.
Y mae gwŷr eto'n fyw a eill dystio am y goleuni a dywynnodd arnynt wrth droi at ei ysgrifau a'i lyfrau ef o fwrllwch caddugol ysgrifenwyr "arddullaidd" y cyfnod hwnnw.
Bu ganddo Gwrs Arbennig ar yr emyn am flynyddoedd, a lluniodd ysgrifau cyfoethog ar emynwyr, ar Williams, ar Benjamin Francis, ar rai o emynwyr Môn ac eraill.
Ysgrifau yn ystyried ieithwedd a chyd-destun gwaith y llenor.
Caerwyn Williams [Gol.] Ysgrifau Beirniadol I, tt.
Er enghraifft, rhoes y llyfr Y Pêr Ganiedydd (Gomer Roberts) gyfle iddo sylwi ar hen ysgrifau enwog Gwilym Marles ar yr un emynydd, a'r ddwy farn amdano.
Mae ei gynnyrch yn gyfartal hefyd o ran natur y gwaith a gyhoeddodd yn y ddwy iaith: ceir barddoniaeth, emynau, pregethau, ysgrifau, cofiannau, trafodaethau hanesyddol, gweithiau defosiynol, gwaith golygu, oll yn y Gymraeg a'r Saesneg.