Ar ôl yr ymgyrch gyntaf honno ynglŷn â'r iaith, daeth o bob cythrwfl fel march rhyfel yr Ysgrythur, ond bod y mwg o'i ffroenau ef yn fwg baco ac yn fwg bygylaeth.
Ambell i waith, mewn cwrdd gweddi, byddai Anti yn darllen rhan o'r Ysgrythur ac yn ei egluro, gan ddal ei spectols o flaen ei llygaid gyda'i llaw.
Ewyllys Duw a reolai Ragluniaeth, a'r Ysgrythur oedd datguddiad yr Ewyllys honno.
Yn wir ni fyddent wedi breuddwydio am wneuthur hynny gan fod yr Eglwys yn dysgu nad oedd rhaid i neb allu darllen yr Ysgrythur er mwyn dod i afael y cadw.
Gwyddai'r bugail yn dda am y boen o weld praidd newynog yn chwilio am borthiant a heb ei gael; gwyddai hefyd na chaent eu porthi oni ellid darparu ar eu cyfer yr Ysgrythur yn eu hiaith eu hun.
Ymhob un ohonynt, dadansoddir y testun yn bwyllog, symudir o bwynt i bwynt yn rhesymegol, dosrennir y pwyntiau'n is- adrannau, nodir yr athrawiaethau sydd yn ymhlyg ym mhob rhan, a goleuir y datganiadau a wneir gan brofion, sef cymariaethau, trosiadau, cyferbyniadau, daduniadau, oll wedi'u tynnu naill ai o'r Ysgrythur ei hun, o lyfrau a ddarllenasai Rowland, neu o'r byd naturiol yr oedd ei ddarllenwyr yn gynefin ag eś Mae iddynt fframwaith o resymu clir.
Er mai derbyn gweledigaeth hanes yr Iddewon fel egwyddor universal a ddarfu'r Eglwys Fore, ymhen y rhawg dechreuodd rhai haneswyr gymhwyso'r gweld (a'r dweud) a geir yn yr Ysgrythur at hanes eu gwledydd eu hunain.
Gan mai'r un un oedd egwyddor a phatrwm ymwneud Duw a dynion drwy'r oesoedd, nid oedd raid i Raleigh na neb arall unfarn ag ef edrych ymhellach na'r Ysgrythur am esboniad arnynt.
Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.
Oblegid 'does wybod yn y byd pa gyfran o'r ysgrythur, pa ymadrodd ynddi yn wir, a fydd yn fiwsig yn eich clust ac a ddeffry res hir o gytseiniau ac o atseiniau mewn teimlad a meddwl na wyddoch i ble'r arweiniant chwi cyn y diwedd.
Bwriadasai lunio hanes y byd drwy'r oesoedd; ac er taw dim ond un gyfrol a gwblhaodd, ysgrifennodd ddigon i amlygu perthynas fythol ir dwy hen egwyddor, llywodraeth Rhagluniaeth ac awdurdod yr Ysgrythur.
Cynrychiolent y pynciau y rhoddwyd prawf ar fy ngallu i'w trafod yn yr arholiad - Hanes, Cymraeg a'r Ysgrythur.
Yr awgrym yw mai ychwanegiadau dynol yw'r 'geiriau dodi' hyn, fel yr oedd William Salesbury i'w galw, a bod angen gwahaniaethu'n fanwl rhyngddynt a gwir eiriau'r Ysgrythur.
Ceir darnau yn yr Ysgrythur lle y dywedir nad yw Duw yn dymuno aberthau ac offrymau; yn wir ei fod wedi hen syrffedu arnynt.
Buont hefyd yn gyfrwng i atgyfnerthu'r tueddiadau hynny a ogwyddodd Davies i gyfeiriad trosi'r Ysgrythur a threfn y gwasanaeth i'w iaith ei hun.
Iaith ysgrythur sydd mewn llawer datganiad ganddo, er enghraifft: "Y Duw-Greawdwr, y Tad tragwyddol a Thad ein Harglwydd Iesu Grist yw'r Duw y mae'n rhaid i ni ei addoli.
Erbyn cyrraedd colegau Prifysgol Cymru dyw pethau ddim wedi gwella ers y pumdegau a'r chwedegau, fe gewch chi wneud Cymraeg, Hanes, Ysgrythur a Daearyddiaeth os ydych chi'n lwcus, drwy gyfrwng y Gymraeg a dyna ni.
Fe'i gwelid yn gyson yn angladdau'r fro, ac ar adegau felly gofalai pob offeiriad a gweinidog ei wahodd i gymryd rhan yn y gwasanaeth, un ai gyda gweddi neu ddarlleniad o'r Ysgrythur.