Gallai'r Iesu yn hawdd fod yn meddwl am y cyfeiriadau hyn yn yr ysgrythurau ar y pryd, neu am oracl enwog Eseciel yn erbyn bugeiliaid Israel: 'Fel hyn y dywed Yr Arglwydd
Ac o achos hyn a rhesymau eraill, yr ydym mewn llawer lle wedi cadw'r ymadroddion Hebraeg, er y gallant daro braidd yn chwithig yng nghlustiau y rheini nad ydynt wedi ymarfer yn dda â hwy ac ymddigrifo hefyd yn ymadroddion persain yr Ysgrythurau Sanctaidd.
Yn ystod yr amser a dreuliodd yn Rhydychen y daeth gyntaf o dan ddylanwad y Dadeni Dysg, a dyma'r pryd y dysgodd Roeg a Hebraeg, ieithoedd a fyddai'n waelodol bwysig isso wrth geisio trosi'r Ysgrythurau.
Ond daliodd cynulleidfaoedd bychain ohonynt i addoli a darllen yr Ysgrythurau yn y dirgel mewn llecynnau diarffordd yn Ffrainc a'r Eidal i lawr at adeg y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
a chyhoeddi'n groyw awdurdod yr Ysgrythurau.
Cyfeithiad yw'r gwaith hwn o 'epistolau ac efengylau' y Llyfr Gweddi Gyffredin, hynny yw o'r gwahanol ddarnau o'r Ysgrythurau a ddarllenir yng ngwasanaeth y Cymun Bendigaid yn Eglwys Loegr.
Ac fel y diwygiwyd fersiwn Olivetan o dro i dro gan Calfin a Beza, fe rymuswyd y pwyslais hwn ar gadw union eiriad yr Ysgrythurau gwreiddiol nes dod yn un o nodweddion amlycaf y fersiynau a gysylltir â Genefa
Ei bryder ef a phawb arall mewn awdurdod yn yr Eglwys o glywed fod rhai o'r ffyddloniaid yn darllen yr Ysgrythurau oedd mai arwain at heresiau ac anuniongrededd a fyddai darllen a myfyrio'n breifat ar y Beibl heb gyfarwyddyd diwinyddion cymwys a phrofiadol.
Byddai'r astudiaeth hon yn cadarnhau barn Morgan fod fersiwn cyfiaith o'r Ysgrythurau lawn mor bosibl yn y Gymraeg ag mewn unrhyw iaith arall.
Yn ôl esiampl yr Ysgrythurau eu hunain, rhaid rhoi'r flaenoriaeth i briod-ddull yr iaith y cyfieithir ohoni wrth gyfieithu'r Ysgrythurau.
Hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol, felly, ychydig iawn o gefnogaeth a rôi'r awdurdodau i leygwyr a ddymunai bori yn yr Ysgrythurau.
Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.
Y mae'r traddodiad Ffrangeg o gyfieithu'r Ysgrythurau braidd yn wahanol.
Rhoddir i William Morgan le amlwg yn hanes Cymru fel cyfieithydd yr Ysgrythurau, ac oblegid i hynny'n bennaf y cyfrifir bod ei yrfa'n bwysig yn hanes y genedl.
Ymhellach, 'roedd Salesbury yn argyhoeddedig fod yn rhaid i fersiwn teilwng o'r Ysgrythurau wrth 'amgenach eiriau ...
Fel yr awgrymwyd eisoes fe fyddai ei gwrs diwinyddol yng Nghaergrawnt wedi gwneud Morgan yn bur hyddysg yn hanes y cyfieithu ysgrythurol a amlinellwyd uchod, ac fe roddai'r ddysg hon iddo safon i allu cloriannu'n ystyrlon yr hyn oedd eisoes wedi ei gyflawni mewn perthynas â chael yr Ysgrythurau yn Gymraeg.
Y mae'n ddi-os i Morgan weld yn y cyfieithiad hwn gychwyn rhagorol i'r dasg o gael fersiwn Cymraeg o'r Ysgrythurau seiliedig ar yr ieithoedd gwreiddiol.