Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.
Roedd 'priodas ysgub' ar un adeg yn arfer pur gyffredin, o leiaf mewn rhai rhannau o Gymru.
Casglodd ysgub frigog wedi ei chynnull yn dwt, cwbl nodweddiadol o'r awdur." DATHLU PENBLWYDD MEWN YSBYTY: Ie, yn naw deg oed, a'i fwynhau.
'Dere ma ac fe gei di ysgub ar dy din?' galwodd Vera gan blygu i godi'r bag o'r palmant.
Trodd un o'r bechgyn a gweiddi arni, 'Ble ma' dy ysgub di?' a chwarddodd ei gyfaill.
Ac eto, o gofio ymateb trigolion un pentref yn ddiweddar, mae'n ymddangos fod rhai pobl o hyd yn rhyw led-gysylltu'r ysgub â galluoedd goruwchnaturiol.
Gosodid yr ysgub gan amlaf ar draws y drws i'r ty a'r pâr ifanc wedyn yn neidio drosti heb ei chyffwrdd.
Archebodd ddwy dorth ar ffurf ysgub gan y pobydd a thwrci o ffarm y Fron.
Ninnau'n y fedel yn medi plant, medi egin a blagur a dail heb lydanedd, ystod a seldrem ac ysgub a stacan o egin ir a'n llwydrew'n y fedel yn medi gwanwyn y gwyn-fan-draw y plant sydd i ffermio'r dyfodol.
Priodwyd hwy mewn defod arbennig yn cynnwys neidio dros ysgub.
Yr ysgub oedd un o'r gwrthrychau cyntaf i'w cludo i gartref newydd ac yr oedd ei gosod ger rhiniog y drws yn gyfrwng i rwystro mynediad i unrhyw un a oedd yn debyg o fwrw melltith ar y teulu.
O gyfnod cynnar iawn ac mewn sawl gwlad credodd pobl fod yr ysgub yn foddion i ddiogelu'r cartref rhag y Diafol ac ysbrydion drwg o bob math.
Fel arfer, fodd bynnag, roedd croesi neu neidio dros ysgub (o bren bedw neu fanadl) yn gyfrwng, yn ôl y gred, i sicrhau priodas hapus.
Mewn rhai diwylliannau roedd neidio dros ysgub yn gallu bod yn beryglus.
Ceir ef yn y gair ysgubor "barn" sy'n deillio o ysgubawr hen ffurf luosog ysgub "sheaf".