Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgwydd

ysgwydd

Wedi i'r trên fynd am ychydig filltiroedd, yn sydyn, teimlais bwysau ar fy ysgwydd dde; roedd un o hogiau'r eroplens, yr un â'r cetyn, ar fy ysgwydd dde ac heb gymaint ag '...' wedi gwneud clustog ohoni.

Onibai i Wil Twmpath gael ei hudo i Wlad N'Og ar ei ffordd o ffair sglodion Capel Tarsis gyda llathen o wynwyn dros ei ysgwydd - bargen o stondin gynnyrch Mrs Harris y Gweinidog - mae'n amheus a fyddai pethau wedi digwydd fel y gwnaethont.

Daeth ataf a rhoi ei law ar fy ysgwydd yn ei ddull cu a thadol (a bu ei gyffyrddiad grasol yn help nid bychan i mi ddeall ystyr seicolegol 'tadolaeth Duw', reit siwr).

Cododd un ohonynt ei arf at ei ysgwydd ac anelu at y plant.

Mae Cadeirydd neu' Gadeiryddes yn ysgwydd dyletswyddau pwysig ac le ddyli nid yn umg gyflawni y rhain deg ond hefyd iddynt gael gweld yn cael eu cyflawni yn deg.

Trodd y gwarchodwr ei ben yn syth a chododd ei wn i'w ysgwydd gan roi rhybudd dros y radio yn ei helmed i'r gwarchodwyr eraill.

Winciodd a tharo'i bac ar ei ysgwydd, gan ddweud wrthi am fynd i'r tū i weld a oedd y ffôn yn gweithio : âi yntau i'w fan i roi caniad iddi.

Gweithredai'r cymdeithasau Cymreigyddol fel man cyfarfod i wahanol ffrydiau'r deffroad cenedlaethol, ac ynddynt gellid gweld archddiacon Anglicanaidd ysgwydd wrth ysgwydd ag argraffydd o Fedyddiwr a saer o Undodwr yn yr ymdrech i goleddu'r Gymraeg a'i diwylliant.

Yna'r gŵr yn rhoi ei ben heibio i'r drws, ac yn galw i'r tŷ, "Na, 'dydi hi ddim yn bwrw, 'd â i ddim â sach heddiw." Yna'n taflu hen gôt dros ei war a'i chau â phin sach ac yn troi'r bin at ei ysgwydd.

Ni ddylai merch gyffwrdd ysgwydd dyn wrth iddo eistedd i lawr i chwarae, yn wir mae'n arwydd o anlwc os digwydd iddo gyfarfod â merch ar y ffordd i'r casino - anlwcus i bawb ond James Bond!

Fel y syllai Dan arno, cododd ei ben oddi ar ei ysgwydd ac agorodd un llygad gwyliadwrus.

Gwingodd wrth i'w ysgwydd brotestio'n fileinig.

I Gymru, mae'n brawf pendant y gall ei thraddodiad dawns sefyll ysgwydd yn ysgwydd â thraddodiad unrhyw wlad dan haul.

Oherwydd diffygion y gorffennol dywed fod yr angen yn bod yn awr i greu trwy edrych dros yr ysgwydd fel petai lenyddiaeth fawr am lowyr Cymru.

Cododd hi ar ei ysgwydd heb drafferth ac yna ei thaflu i dy ôl y fen.

Taflodd gipolwg dros ei ysgwydd a gweld metel yn fflachio yn y golau egwan.

Yn sydyn gwelodd y Capten un o'r swyddogion eraill yn brysio ymaith gyda gwely ar ei ysgwydd a rhedodd ar ei ôl.

, gan gyfeirio at Wil, a phawb yn chwerthin a chyfrannu mymryn o ffraethineb at y sgwrs, a Dic yn rhoi hergwd i ysgwydd Wil, a hwnnw'n gwenu heb falio dim.

Wrth blygu fe wnes i gyffwrdd yn ysgafn yn ei ysgwydd â'm llaw, er efallai yn anfwriadol.

Syllodd y milwyr ar ei lygaid hanner agored ac ar y fwyall a gariai ar ei ysgwydd.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

'Felly toedd Vatilan ddim isio dy ladd di, nagoedd, Gemp,' meddai Nel yn sgipio tuag ato fo ac yn rhoi ei braich am ei ysgwydd esgyrnog.

"Mae yna ddarn o bysgodyn ym mhen draw'r cawell." Gafaelodd Wyn yn ysgwydd Einion a dywedodd wrth y lleill am fod yn ddistaw.

Dro arall, âi at hen gyfaill a rhoi ei law'n hollol naturiol ar ei ysgwydd.

Teimlodd y nerfusrwydd yn ei adael fel dŵr yn llifo oddi arno, ond rhoddodd Bilo ei law ar ei ysgwydd a'i wthio'n ôl yn ddigon diseremoni i'w sedd.

Pan straffagliais allan o'r dŵr fel chwiadan wlyb a drewdod y mwd yn fy ffroenau, yn y pellter, newydd ymddangos o'r coed, sleifiau Talfan a'i griw, a'i wn yn hongian dros ei ysgwydd.

rhegodd yn uchel wrth i lafn o boen saethu drwy'i ysgwydd.

Cofiaf deimlo llaw gadarn ar fy ysgwydd un bore yn y labordy a'i lais yntau'n dweud: "You are a very industrious little boy aren't you?

Gorweddai ei ben ar ei ysgwydd chwith, a gwaeddai ei dryblith o wallt claerwyn am grib.

Anafodd Young ei ysgwydd tra'n chwarae yn erbyn Yr Alban.

Datgymalodd y clo rhyngwladol, Ian Gough, ei ysgwydd yn ystod y gêm.

Bydd y capten Richard Smith yn darganfod yn ystod y dyddiau nesaf a fydd yr anaf i'w ysgwydd yn ei gadw fe mâs am fwy nag un gêm.

Ond efallai, meddyliodd, wrth deimlo'r gwaed yn llifo o'i ysgwydd ac i lawr ei fraich, y byddai'n anodd defnyddio manual ar y funud ta beth .

Yn ystod y gawod dechreuodd y chwaraewr oedd wedi ei anafu deimlo'n wan a chael poen yn ei ysgwydd chwith.

'Yr hen fformiwla gyfleus eto, wela i.' Gwenodd ac edrychodd dros ei ysgwydd heibio i'r drws.

Mae Shane Howarth wedi dod dros yr anaf i'w ysgwydd a bydd yn nhîm Casnewydd ddydd Sul.

Ciledrychodd Ffredi ar ei ysgwydd lle gorweddai pen ei ffrind a'i lygaid i gyd ar gau.

'Dal o, Mwsi,' gwaeddodd y gŵr bychan, tew, a theimlodd Siân law drom yn syrthio ar ei ysgwydd ac yn ei gwasgu.

Rhof un o sgels ei ysgwydd dan y meicrosgôp bore yfory.

Edrych dros fy ysgwydd chwith i gyfeiriad y coed o'r lle daeth y glec.

'Paid ag agor dy ben,' rhybuddiodd Ifan gan afael yn dynn yn ysgwydd ei ffrind.

Peth arall a gofiaf oedd Sioe Fwystfilod mawr unwaith pan oeddwn yn ifanc iawn a 'nhad yn fy nghario ar ei ysgwydd.

Edrychais dros fy ysgwydd ar y criw yn eu dillad melyn dal dŵr.

Teimlodd law yn gafael yn ei ysgwydd a sgrechiodd.

Penliniais yn ei ymyl, a gosodais fy llaw ar ei ysgwydd.

"W^n i ddim am faint o amser ddaru mi orwedd," meddai, "ond wedi i mi ddod ataf fy hun, teimlais geg Rex yn gafael yn fy ysgwydd." "Ceisio eich llusgo adref yr oedd o," atebodd Louis.

Swatiai Dic wrth ben y bwrdd hir, weithiau â'i fraich am ysgwydd Wil.

Cododd ar ei draed mewn protest a dweud bod ganddo'r traed cynhesa' o fewn y cread, ond rhoddodd Laura Elin law gadarn ar ei ysgwydd a'i wthio yn ôl i'w sedd.

Daeth y gwn i lawr o ysgwydd y milwr ac yna cerddodd y ddau yn nes i wrando.