Ymhob pentre' mae gweddwon sy wedi colli'u plant yn awr yn gorfod ysgwyddo'r baich o adeiladu'r economi heb lawer o ddynion i'w helpu.
Yr oedd trigolion Prydain, hefyd, yn amharod i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y pechod a ddug y fath alanastra ar y byd.
Nid mudiad na chyflwr ydoedd yn gymaint â phroses o ymagor ac ysgwyddo cyfrifoldeb.
Y mae'n bwysig i bob un sydd yn gweithio dros ffyniant iaith a chymdeithas gael eu gweld yn ysgwyddo baich yr anghenus yn y gymdeithas honno.
Pam yr oedd yn rhaid i'r hen euogrwydd hwnnw ddod trosti eto'n byliau'r dyddiau hyn wrth feddwl mor wahanol yr edrychai'r lle heddiw i'r tyddyn hir, unllawr, a gofiai'n groten - y "tyddyn Cymreig?" Doedd dim rheswm yn y byd iddi hi orfod ysgwyddo'r plwc cydwybod yn gyfangwbl ei hun.
ond, os gohirir mwy o gemau bydd yn rhaid ysgwyddo'r baich yn hwyrach yn y tymor.
Eto, yn gwbl ddirwgnach mae athrawon cydwybodol yn parhau i ysgwyddo y dyletswydd hwn a hynny gan amlaf heb air o ddiolch - ond gan wybod y byddant dan feirniadaeth lem pe byddai rhywbeth yn mynd o'i le.