Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgyfarnogod

ysgyfarnogod

Gydag ysgyfarnogod fel gyda phob anifail gwyllt arall 'trechaf treisied, gwannaf gwaedded' yw eu hanes ac mae'n ddiddorol sylwi mor bwysig yw deddf etifeddeg yn eu bywydau.-Trosglwyddir i'r genhedlaeth newydd ymddygiadau ac arferion eu cyndadau.

Yn wahanol i'r cwningod, nid yw ysgyfarnogod yn greaduriaid cymdeithasol sy'n byw gyda'i gilydd mewn daearau.

Yn yr Alban ceir brid arbennig o ysgyfarnogod sy'n llai o faint na'r ysgyfarnogod a geir yng Nghymru.

Eryrod, cathod gwylltion a llwynogod yw eu gelynion naturiol hwy yn yr Alban ac os bydd y gelynion hyn yn fygythiad gwirioneddol mewn cylch arbennig, ymfuda'r ysgyfarnogod i ddiogelwch rhyw gylch arall.

Er mai browngoch yw lliw ysgyfarnogod gan amlaf, y mae rhai gwynion i'w cael yn achlysurol, ond eithriadau yw'r rheini.

Sylweddolodd mai ysgyfarnogod oedd yn peri'r golled a gosodwyd maglau yn y gwrych terfyn.