Rhaid ystyried ystyr y gair 'cŵn', ac o gael gafaelyd ynddo gan yr ystyr honno y cododd y ddelwedd o 'ysgyrnygus gŵn' yn nychymyg R.
Cyn i mi wneud hynny arferwn dybio fod y bardd, wrth syllu ar donnau'r môr yn torri ar graig, a hynny o bellter teg, yn sydyn wedi eu 'gweld' fel cŵn ymosodol; hynny yw, fod y ddelwedd o gŵn ysgyrnygus wedi ffrwydro i'w feddwl yn y fan a'r lle, yn syfrdanol o uniongyrchol felly.