Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ysgytwol

ysgytwol

Y gwir yw fod llenorion yr ansicrwydd anwadal fel Williams Parry a Pharry-Williams wedi llwyddo i greu llenyddiaeth eneiniedig ac ysgytwol heb ddilyn na Phantycelyn na Gide, a bu Saunders ei hun yn hael ei glod iddynt.

Ysgytwol yw eu cyhoeddi'n blaen fel hyn: erlynwyd dros 1,100 o unigolion mewn llysoedd barn yn Lloegr a Chymru am eu rhan mewn ymgyrchoedd; codwyd cyfanswm o £38,854 o ddirwyon a £26,283 o gostau llys a iawndal; a dedfrydwyd 170 o unigolion i gyfanswm o 41 mlynedd a deufis o garchar.

Yn yr Oriel, gellir eistedd mewn replica o Gapel Cildwrn a gwrando arno'n pregethu'n ysgytwol o'i bulpud.

'Wel,' meddent, 'pam na ddylai criw bach gael eu hiaith a'u diwylliant eu hunain; mae e'n digwydd ym mhobman yn yr India.' Doedden ni a'n hiaith ddim yn un o ffeithiau ysgytwol bywyd iddynt mae hynny yn sicr.

Mae unrhyw lyfr fel yma'n siwr o gael ei gymharu â champwaith Tolkien, Lord of the Rings - gan gofio effaith ysgytwol y chwedloniaeth honno arna' i - ac am y cymeriadau llawn a byw oedd yn poblogi Canol-y-Ddaear.

Neur oedd cystal â bod yno wrth wylio perfformiad ysgytwol, gwreiddiol Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru o Faust Goethe yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru.

Y tu cefn i'r straeon doniol, mae yna ochr arall ac, wrth fynd i ffilmio mewn gwersyll haf i blant mwya' addawol y wlad, y cefais i fy mhrofiad mwya' ysgytwol yn Libya.

A gweld yr ochr ddu i bethau a wnaeth ef mewn sylwadau ysgytwol wrth drafod y trysor gwerthfawr sy'n perthyn i ni Gymry Cymraeg a'r perygl o'i golli ef a'r iaith ei hun.

Maen nhw'n ysgytwol er gwaethaf safon y recordio.

Un o'r profiadau mwya' ysgytwol i mi oedd ymweliad â Cheung Euk, sef y `killing fields' enwocaf ar gyrion Phnom Penh.

Yr oedd y torriad hwnnw'n ysgytwol.

Yn ysgytwol nid yn unig o ran cyflwyniad ond hefyd o ran saerniaeth a chynnwys.

Mae'r neges syml ond ysgytwol yn dweud rhywbeth wrth y glust fodern.

Roedd cyrraedd India yn brofiad ysgytwol i Judith.

Un datganiad ysgytwol a wnaed gan filwr ifanc o Lerpwl oedd yr hoffai ochri gyda'r Cwrdiaid i roi `cweir' i fyddin Irac yn yr un modd ag yr hoffai ochri gyda'r `Protestaniaid' yng Ngogledd Iwerddon i roi cweir i'r `Pabyddion'.

Ar sail ei pherfformiad ysgytwol hi a Brenciu o Romania, mae'n bosib mai o Ddwyrain Ewrop y daw cantorion mwyaf cofiadwy cystadleuaeth eleni.