Bwrw dwy awr neu well ar y copa, ac yna disgyn yn ochelgar dros y graig eilwaith, gan mai'r peth rhwyddaf yn y byd oedd colli golwg ar y llwybr i waered, heb sôn am ysigo sawdl neu dorri coes.
O ran hynny, yr oedd ganddo esgus da, ond yr oedd yn rhy falch i'w ddefnyddio, yr oedd y codwm a gawsai wedi ei ysigo yn dost, ac anafu, neu o leiaf amharu, pob migwrn ac asgwrn ohono.