Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystadegau

ystadegau

Ceir ystadegau yn adroddiad y Comisiwn Datgysylltiad (fel y gelwid ef yn ddigon hwylus) ar gyfer y gwrandwyr ond rhybuddir ni na allwn ddibynnu arnynt.

Darllenid cofnodion y Cyngor gyda'u hatodiadau helaeth o adroddiadau ac ystadegau gan bobl ymhobman ym myd gwleidyddiaeth.

Asgwrn cefn hanes cymdeithasol da yw ystadegau, ac fe'u defnyddir yma i bwrpas da i oleuo llawer o agweddau ar hanes y Gymdeithas.

Ni roddir ystadegau ar wahân am y ddau ryw, ond mae'n amlwg mai dim ond cyfnod cymharol fyr a dreuliai'r merched yn yr ysgol.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ar hyn o bryd yn cynnal 'ffug gyfrifiad' yng Ngheredigion a Gwynedd fel ymarfer ar gyfer y Cyfrifiad go iawn gynhelir yn y flwyddyn 2001.

Croesewir y cynnydd yn y nawdd a ddaw o du'r llywodraeth, ond y mae ystadegau yn dangos fod yr anghenion ymhell o'u diwallu.

Hawdd cuddio y tu ôl i ystadegau.

Ystadegau: Mae'r Adain yn rheoli dros gorff arwyddocaol o wybodaeth sy'n ymwneud ag ansawdd bywyd yng Ngwynedd mewn perthynas â'r amgylchedd.

Wedi dweud hynny nid yw ynof fod yn ddibris o werth ystadegau i ddyfnhau ein deall o realiti sefyllfa.

Nodwyd yn Adran 3 rai ystadegau sy'n dangos lleihad parhaus yn yr ardaloedd lle mae 70% neu fwy o'r trigolion yn gallu siarad Cymraeg.

Dengys ystadegau hefyd hyd a lled aberth rhai o aelodau'r Gymdeithas dos y trideg blynedd er 1962.

Nid yw'r ystadegau'n cynnwys y rhai a fu rywbryd yn ystod eu hoes ynddynt ond a oeddent wedi cefnu.

Dywedodd Sue Hopwood fod yr ystadegau yn parhau i gynyddu, ond i fis Rhagfyr fod yn un gweddol dawel.

Yr oedd gwrandawyr yn aml iawn yn crwydro o gapel i gapel ac o enwad i enwad yn ôl eu mympwy a gallent yn hawdd ymddangos yn ystadegau amryw eglwysi.

Mae astudiaeth o ystadegau cenedlaethol yn symleiddio'r dulliau o amaethu sy'n bodoli mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.

Dengys ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gymreig y tir y mae'n bosibl ei ennill wrth gynyddu nifer y disgyblion a gaiff y cyfle i dderbyn eu haddysg yn y Gymraeg.

Gwyddai Ieuan Gwynedd fod nifer o offeiriaid eglwysig yn cribo i lawes Lingen, Symons a Johnson, ac er ei fod yn fawr ei ofid yn sgil marwolaeth ei wraig a'i fab, aeth ati i gasglu ystadegau ynglŷn ag enwadau crefyddol yr ardaloedd glofaol.

Gosododd allan ystadegau profadwy yn dangos beth oedd y cyflogau wythnosol i weithwyr â sgiliau neu heb sgiliau ganddynt, gan geisio llunio cymhariaeth costau byw, i brofi bod rhieni'n ennill digon i dalu am addysg plant.

Rhaid imi gychwyn a gorffen sgrifennu'r ddarlith hon cyn cyhoeddi ystadegau'r cyfrifiad a fu y llynedd ar y Cymry Cymraeg yng Nghymru.

Mae casglu a distyllu ystadegau yn hoglwth o ddiwydiant.

Mae'r ystadegau am yr Adroddiadau, a'r rhai sydd ynddynt, yn deyrnged i ddiwydrwydd a thrylwyredd y Fictoriaid mewn byd lle nad oedd hyd yn oed ffuglen wyddonias wedi rhag-weld y prosesydd geiriau.

Dengys yr ystadegau isod sefyllfa diweithdra gwrywod a benywod mewn ardaloedd teithio i waith o fewn y pedair ardal weithredu.

Mae'r Gymdeithas wedi ysgrifennu at y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol hefyd yn gofyn iddynt sicrhau y bydd ffurflenni cyfrifiad cwbl ddwyieithog yn mynd i bob ty yn 2001 fel na fydd raid gofyn am un yn y naill iaith na'r llall.

Ond gan nad oedd ystadegau yn bethau mor bwysig yr adeg honno ein tuedd oedd dweud nad ydi pasio arholiad ddim yn bopeth.

Oherwydd yr oedi anochel mewn casglu a chrynhoi ystadegau, gall wythnosau onid misoedd fynd heibio cyn i'r llywodraeth sylweddoli bod pethau'n dechrau mynd o chwith, a bod angen iddi ymyrryd â chwrs yr economi.

Nid wyf am raffu ystadegau yn y cyflwyniad hwn ond rhaid pwysleisio gymaint trymach yw gofynion Americanwr neu Ewropead am adnoddau'r byd na rhai brodorion y Trydydd Byd.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf cafwyd un allan o bob tri o bobol yn euog o rhyw drosedd neu'i gilydd erbyn eu bod yn ddeg ar hugain oed.

Maen bosib fod hyn yn digwydd oherwydd bod y rhan fwyaf o esbonwyr ystadegau yn ddynion.

Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wedi anfon llythyr chwyrn at y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn Llundain a'r Swyddog Cyfrifiad Lleol yn Nhregaron i gwyno oherwydd fod yr ymarfer hwn yn rhagfarnu yn erbyn Cymry Cymraeg.

Thema'r gwasanaeth oedd 'Bywyd cyn Marwolaeth' ac roedd gan Mr Hughes ystadegau syfrdanol i ddangos sut mae'r Trydydd Byd yn cael ei ddefnyddio gan wledydd y Gorllewin i wneud elw afresymol o fawr iddynt hwy eu hunain.

Dengys ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd fod patrwm i'r gefnogaeth.

Hiwmor realistig a geir fan hyn: Tref yn ei hanniddigrwydd yn cynnal sioe oleuadau un-dyn yn y Rex i gyfeiliant miwsig band bywiog; June yn dychwelyd o Birmingham heb lwyddo i gael y joban er-ail-wampio-ystadegau-di-waith-y- llywodraeth oherwydd methu ag enwi deg lefel 'O' pan holwyd hi am ei chymwysterau honedig!

DVLA yn agor yn Abertawe, a'r Swyddfa Ystadegau Ganolog yn agor yng Nghasnewydd.