Ar gyfer nodweddion o'r fath mae angen dulliau ystadegol i ddadansoddi faint o amrywiaeth sydd i'w weld mewn nodwedd, a faint o'r amrywiaeth yma sy'n deillio o'r amgylchedd a faint sy'n cael ei reoli gan enynnau'r anifail.
Rhoddwyd cyfweliadau personol i oruchwylwyr ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin a rhan o sir Benfro, ond wrth gwrs, nid oes sicrwydd bod yr wybodaeth ystadegol a roddwyd yn fanwl gywir, gan ei bod yn aml heb gadarnhad dogfennol.
Trafodir dynion fwyfwy fel rhithiau ystadegol, hynny yw, yn fodau haniaethol, gan fiwrocratiaid pell, a chaiff eu cymdeithas, yn lleol a chenedlaethol, ei sarnu'n filain.
Ac eto rydym yn byw yng nghanol y chwyldro cyfrifiadurol sy'n rhoi inni wybodaeth ystadegol a dadansoddol ryfeddol.
Fel cyrsiau eraill y Coleg bydd y cyrsiau diploma hefyd yn rhan o'r cynlluniau arfarnu rheolaidd a drefnir gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd pan roddir ystyriaeth i ddangosyddion ystadegol (ceisiadau, derbyniadau, canlyniadau, gwastraff etc.), adborth myfyrwyr, adroddiadau arholwyr allanol, staffio ac adnoddau.
Atebir y cwestiwn hwn trwy ddweud mai proses ystadegol yw esblygiad, sy'n dibynnu ar hap a siawns, ar gael cydweithrediad rhwng digwyddiadau annhebygol, ac ar yr angenrheidrwydd i'r rhain ddigwydd mewn trefn neilltuol.