Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystafelloedd

ystafelloedd

Symudodd JE o Lundain i Gaernarfon, ac mewn ystafell tu cefn i Westy Pendref lle lletyai bu Swyddfa'r Blaid nes y symudodd yn ddiweddarach i ystafelloedd ehangach yn Heol y Castell.

Golyga y gall grwpiau Cymorth i Fenywod gynnwys yn y dyluniad nodweddion nad ydynt ar gael mewn tai i anghenion cyffredin, megis ystafell chwarae, mwy o ofod ystorio, mesurau diogelwch ychwanegol ac ystafelloedd gwely mwy ar gyfer teuluoedd gwely mwy ar gyfer teuluoedd cyfan.

Gyda'r newid yn y tywydd yn y dechrau mae pobl yn ein gwahodd i'w ystafelloedd felly rydym yn treulio mwy o amser yn ystafelloedd un neu ddau a llai gyda'r gweddill.

Gellir cynnal astudiaethau, cyfarfodydd gweddi a nosweithiau cymdeithasol yn yr ystafelloedd eraill.

Ychwaneg o ystafelloedd crand i'r Brenin a'i deulu?

Fe atseiniai drwy unigrwydd yr ystafelloedd megis llais coll.

"A byth ar ôl y noson honno, ysbryd Lowri Cadwaladr sy'n cerdded trwy ystafelloedd Plas Madyn.

Magodd blwc a rhedodd ar ei hôl, a'i chornelu lle na fedrai ddianc, ar dop y grisiau oedd yn arwain i lawr i'r ystafelloedd newid.

Ar ei ffordd i lawr i'r ystafelloedd ymolchi ar ddiwedd y dydd aeth am dro o gwmpas y Neuadd Ymgynnull i gael cip slei ar hysbysfyrddau'r tai.

Nid oedd hyn yn broblem ar y dechrau oherwydd roedd y tywydd yn sych ond yng nghanol y mis newidiodd y tywydd, felly roedd yn anodd gwario cymaint o amser yn VIC I, er ein bod yn cael ein gwahodd mewn i ystafelloedd pobl, roedd gweddill y plant yn meddwl ein bod wedi eu gadael nhw oherwydd nid oedd yn bosib iddyn nhw fynd i mewn i'r ystafell.

adeiladau ac ystafelloedd - y defnydd a wneir o'r adeiladau a'r ystafelloedd presennol, effeithiolrwydd rheolaeth unrhyw arian sydd ar gael ar gyfer eu gwella fel amgylchedd dysgu a pha mor briodol ydynt yn gyffredinol ar gyfer y cwricwlwm y mae'r ysgol am ei gynnig.

(a) i'r cais am ystafelloedd ychwanegol yn y Bala a Thywyn gael ei dderbyn, cyn belled ag y byddai cyfleusterau mynediad hwylus yn cael eu cytuno.

Ceir digon o frics coch ac ystafelloedd sgwâr mawrion.

I unrhywun wnaeth ddilyn yr hanes roedd oriau olaf negodi'r cytundeb yn un llawn drama gydag Unoliaethwyr a Gweriniaethwyr yn gadael ystafelloedd ac yn strancio gan fynnu bod eu safbwynt hwy yn cael ei ddiogelu gan y geiriad.

Ond pan lanwyd ei hysgyfaint fe aeth i gyd i fwydo'r sgrech a atseiniodd drwy ystafelloedd gwag y tŷ.

Atodiad helaeth i'r Palas, gyda Siambr Gyngor ac ystafelloedd ymwisgo, a phwll nofio a baddonau sauna ac felly ymlaen?

Fe groeswch y cyntedd i'r ystafelloedd yn gyflym a dirwystr.

Mae llawer o afiechyd wedi bod yn ddiweddar - symptomau ffliw ac mae'r tair ohonom wedi dioddef yn ogystal â llawer o'r plant yn VIC - dydyn ni ddim yn licio mynd i'r ystafelloedd a pheswch 'germs' drostyn nhw i gyd!

Lleolir yr arddangosfa yn y Neuadd ARos Uwch sydd ar y ffordd i'r ystafelloedd pwyllgorau ger Tŷ'r Cyffredin.

Chwys wyneb a llafur breichiau, a mêr esgyrn y nigger druan adeiladodd eich muriau, a weithiodd eich ystafelloedd, ac a osododd i fyny eich pinaclau; a'u dodrefnodd â dodrefn dymunol o goed y Walnut a'r Rosewood, y Curly Maple, y dderwen, a'r Spanish Mahogany.

Tra gwahanol i lysoedd brenhinoedd yr Oesoedd Canol ydoedd natur y llys Tuduraidd; tyfodd hwnnw yn aelwyd genedlaethol ac i fod yn gymhlethdod o ystafelloedd neu siambrau ysblennydd a'r brenin yn ganolbwynt yr olygfa odidog a'r mynych seremoniau.

Rheswm arall oedd yr arferiad gwrthun o dyrru pobl priod a sengl o'r ddau ryw yn yr un ystafelloedd gwely, ac yn aml iawn mewn gwelyau nesaf at ei gilydd heb un llen rhyngddynt.

Rydym ni erbyn hyn yn cael ein gwahodd i'r ystafelloedd am goffi, ond y duedd yw mynd i'r un ddwy ystafell bob tro, a dyna reswm arall pam bod angen ystafell arnom ni - fel y gallen nhw ddod atom ni am goffi, yn lle'n bod ni'n tarfu arnyn nhw drwy'r amser.

Anfonwyd y chwaraewyr yn ôl i'r ystafelloedd newid.

Mae milwyr Naferyn wedi meddiannu'r ystafelloedd - mae cryn ugain ohonynt yno, ac mae sawl un wedi sylwi ar y drws yn agor.

(Adeiladau ac ystafelloedd).

Mae'r ystafelloedd cyflwyno teledu digidol angenrheidiol wedi'u comisiynu a'u rhoi ar waith a threfniadau wedi eu gwneud i'r Ardal Dechnegol Ganolog ymdrin â'r gwasanaethau ychwanegol.

Dydyn nhw ddim i weld yn poeni, ond wedi'r cyfan yr ystafelloedd yma yw eu cartrefi nhw.

Yn awr carwn symud i Gaeredin, lle y cynhelid arddangosfa fawr o lyfrau addysgol yn Ystafelloedd Ymgynnull Eglwys yr Alban.

Mae arwyddion Saesneg i'w gweld ar bob tu a'i seiniau'n llifo drwy'r cyfryngau i bob cartref, yn wir i ystafelloedd preifat ein plant a'n hieuenctid drwy gyfrwng y dechnoleg gyfoes.