Mae gennyf syniad na fuasai rhisgl coed sy'n cynnwys ystor y defnydd gludiog sydd mewn coed conwydd, yn addas heb symud yr ystor yn gyntaf.
'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.