Gan mai Ystorya Trystan yw'r unig destun naratif sydd gennym am Drystan ac Esyllt, a gan fod posibilrwydd fod yr englynion yn rhai hynafol, bu'n demtasiwn i rai chwilio ynddi am debygrwydd i'r chwedlau Ffrangeg, gan gasglu fod Golwg Hafddydd, er enghraifft, yn cyfateb i Brengain, morwyn Esyllt yn y traddodiad Ffrangeg (er gwaethaf yr enw gwahanol), a bod taith y cariadon i Goed Celydon yn cyfateb i hanes Tristan ac Iseut yn ffoi i Fforest Morrois.
Yn y bôn, mae'n syndod cyn lleied o debygrwydd sydd rhwng Ystorya Trystan a'r rhamantau Ffrangeg, o ran y stori ei hun ac o ran naws.
Un o broblemau mwyaf dyrys llenyddiaeth Gymraeg cyn y cyfnod modern yw dyddiad Ystorya Trystan.
Os oedd Ystorya Trystan, neu'n arbennig y darnau rhyddiaith, wedi cyrraedd ei ffurf bresennol yn gymharol ddiweddar, pan oedd y traddodiadau Ffrangeg wedi cael digon o gyfle i ymledu, gallwn dybio fod elfennau estron wedi eu gwrthod yn fwriadol.
Ar wahân i Ystorya Trystan, sydd yn bryfoclyd o fyr ac yn anodd ei ddyddio, y cwbl sydd gennym yw'r cyfeiriadau yn y Trioedd a chan y beirdd, cyfeiriadau sydd, oherwydd eu cyd-destun, yn anorfod yn gwta iawn, er eu bod yn awgrymu fod stori fanylach y tu ôl iddynt, stori a fyddai'n gyfarwydd i'r bardd a'i gynulleidfa.
Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.
Wrth ddarllen Ystorya Trystan yr argraff a gawn yw fod yma ddeunydd brodorol, wedi ei gyflwyno mewn mewn cywair ac arddull hollol Gymreig.
Ystorya Trystan yw'r peth tebycaf sydd gennym i chwedl go iawn am Drystan, ond anghyflawn iawn yw'r naratif fel y mae wedi ein cyrraedd, fel y dengys crynodeb ohono: Aeth Trystan ap Tallwch ac Esyllt gwraig March ap Meirchiawn yn alltudion i Goed Celydon, yng nghwmni morwyn Esyllt, Golwg Hafddydd, a gwas ifanc o'r enw y Bach Bychan.
Ond rhaid cofio mai dau episod ar y mwyaf sydd yn Ystorya Trystan, ac nid yw'r naill na'r llall yn ymdebygu ryw lawer i'r hyn a geir mewn unrhyw destun Ffrangeg.