Yn hytrach na synio am Siôn fel un sydd wedi ymadael â'r byd hwn yn derfynol (fel yr awgrymir gan yr ystrydeb 'yr ymadawedig'), mae'r gerdd yn ei ddarlunio fel petai'n dal i fodoli.
Ystrydeb erbyn hyn fyddai mynd i ormod o fanylder am ei gyrfa gynnar yn Boots a'i chyfnodau meithion yn ddi-waith yn ystod y chwedegau - degawd a dreuliodd fel actores ddi-nod a gwraig tū.
Ystrydeb, mae'n debyg, fyddai dweud ei fod yn gymeriad unigryw, ond dyna oedd.
Daeth yn rhyw fath o ystrydeb cyn diwedd y ganrif ddiwethaf i hawlio mai'r tri phregethwr mwyaf a fagodd Cymru oedd John Elias, Williams o'r Wern a Christmas Evans, gyda'r Wesleyaid yn prysuro i ychwanegu naill ai Thomas Aubrey neu John Evans, Eglwys-bach.