Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ystum

ystum

Rhyw ystum i gyfeiriad moderniaeth yw'r rhain oll, yn ymdeimlo a'r angen am dorri allan a chreu rhywbeth newydd, ac eto'n anabl i wneud hynny.

O weld yr hwsmon mewn ystum gweddi ar ganol llawr y gegin cafodd Pyrs gryn sioc a llithrodd y gist bren drwy'i hafflau a drybowndio i'r llawr.

Roedd y darlun yn un o swyddog mewn ystum ffurfiol yn gwisgo lifrai llawn o tua chyfnod Rhyfel Mecsico.

Gwyliodd bob ystum o'i eiddo gyda llygaid barcud, ond ni ddywedodd air o'i ben.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Sylwais ar Breiddyn yn eistedd yn y rhes flaen, a'i fraich dde dros gefn y gadair nesaf ato, mewn ystum gwrandawr o'r tu allan, fel petai.

Rhaid, drwy gyffyrddiad y bysedd ar y lein, ddychmygu taith y plu ar y blaen llinyn, a thrwyddynt gyfieithu pob cyffyrddiad ac ystum o'u heiddo yn ddarlun o'r hyn sy'n digwydd yn y pwll.

Gallai ddychmygu ystum aesthetig Vera Puw-Jones, y tiwtor, wrth anwesu'r brigyn yn hwyrach heno, a'i chlywed yn ei chanmol am ddewis y bwa perffeithiaf ei ffurf ar holl lethrau'r Frenni.

Gwelent oddi wrth ei ystum ei fod yn mynd i lawr grisiau neu ryw fath o ysgol ac ni fu'n hir cyn diflannu'n llwyr.

Sylwodd yr hen ŵr ar yr ystum a gwenodd yn egwan.

Mae'r ystum ei hyn yn symbolaidd, a dweud y lleiaf, a byddai'n anodd dod o hyd i swydd lai gogoneddus.

Nid yw'r Gymraeg yn iaith waharddedig ac y mae pob llywodraeth Brydeinig o leia'n rhoi rhyw ystum o gefnogaeth iddi.

Ond byddai John Evans yn tramwyo'r maes mor ddisylw â chwa o wynt, gan droi cþys yn erbyn cþys reolaidd, a rhywbeth didoledig yn ei ystum fel fel pe na allai gadw ei freudwydioon yn yr un cae ag ef ei hun.

Nid sioe i ddieithriad ond ystum naturiol, ddwys.

Gwyddwn oddi wrth ei ystum mai dyna ei air olaf; yr oedd bellach yn awyddus i'm gadael.