Ond wedi cyrraedd pen y bryn, disgynnai'r trên yn ôl deddf disgyrchiant, gyda'r unrhyw yrrwr yn cadw'i law ar y brêc A myfi a ystyriais ynof fy hun pa fodd y defnyddiai'r trên ddau rym i'w yrru, trydan a disgyrchiant, bob un ohonynt yn ei gyfeiriad ei hun.