Pwysig iawn hefyd oedd cwlt y Forwyn Fair a'r saint, a ystyrid yn gyfryngwyr (ychwanegol at Grist) rhwng dyn a Duw.
Ystyrid yr iaith ymerodrol fel un a oedd yn rhagori ar yr ieithoedd lleiafrif.
O hynny y treiddiai rhinwedd sydd bob amser yn ychwanegu'n anrhydeddus at ysblander, ac nid ystyrid bod gwreiddiau da a theulu cymeradwy ynddynt eu hunain yn ddigon oni ffynnai'r priodoleddau rhinweddol parhaol yr un pryd.
O'r diwedd fe'm sicrhawyd gan y trapiwr nad aligator mohono na chrocodeil ychwaith: ei farn oedd mai iguana oedd, creadur a ystyrid yn fwyd danteithiol gan y brodorion.
(Yng nghyd- destun y Cymal hwn golyga "o natur rywiol amlwg" weithred, pe'i perfformiwyd yn gyhoeddus a ystyrid yn fasweddus).
Trwy briodas clymid achau a theuluoedd â'i gilydd; ystyrid bod gwreiddiau'r 'unbennes' gyfradd â'i gŵr a bod ei 'da arfer diweirfoes' gyffelyg i ymarweddiad ei gŵr.
Ystyrid sug y planhigyn yn feddyginiaeth bwerus ac arferid cymryd peth ohono yn y gwanwyn i buro'r gwaed.
Diweddodd Phil ei yrfa yn y gwaith tun fel rowlwr yn y Ffôr, ac ystyrid ef gan bawb yn weithiwr heb ei ail - a dyna farn rheolwr y gwaith hefyd.
Ystyrid ei bod, drwy ei g^wr Ernest Jones, cofiannydd Freud, yn gysylltiedig â'r budreddi a ddeilliai o Fienna.
A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.
Yn ôl y Parchedig James Morgan, Rheithor Talgarth, roedd beichiogrwydd cyn priodas yn gyffredin iawn, ac nid ystyrid hyn yn bechod.
Hyd troad y ganrif hon ystyrid Dydd Calan fel diwrnod pwysicaf y tymor yng Nghymru, ond yn ystod y ganrif hon fe'i disodlwyd gan y Nadolig.
Ystyrid bod dysgyblaeth o'r fath yn bwysig mewn perthynas â phriodi ac ystad priodas; pwysleisid trefn a disgyblaeth mewn dewis gŵr neu wraig, sef y broses o briodi a'r cyd-fyw, er sicrhau llwyddiant a ffyniant y teulu i'r dyfodol.
Mewn cyfnod pan na cheid heddlu ystyrid mai disgyblaeth yn y cartref oedd y dull mwyaf effeithiol ac ymarferol i sicrhau heddwch a threfn yn gyhoeddus a moesau da mewn bywyd personol.
Dengys yr Hen Destament hefyd fod gan bob cenedl ei duw, ac yr ystyrid cenedl fel eiddo ei duw.
Lewis y glynn i dat ai kant.' Mae pum mlwydd yn oedran amwys, wedi gadael babandod ac eto heb ddechrau datblygu'n oedolyn cyfrifol (ystyrid mai saith oedd yr oed pan fyddai plentyn yn dechrau meddwl ac ymddwyn fel oedolyn).
Ystyrid cyhoeddi'r Traethawd o hyn ymlaen gan awdurdodau'r Brifysgol fel symudiad pendant tuag at Eglwys Rufain, a daeth y mudiad fwyfwy dan amheuaeth, nid yn unig yn Rhydychen, ond hefyd yn y wlad yn gyffredinol.
Y gwreiddyn materol ffisiolegol a ystyrid bennaf yn eu hathroniaeth ac ohono ef y deilliai hanfod pob gras a rhinwedd.
Ni cheisiodd neb ei droi'n Fwslim; ystyrid ef yn rhyw fath o wirionyn, diniwed os nad sanctaidd, fel y cannoedd a oddefir yn y byd Islamaidd o ben bwygilydd.
Ystyrid yr ieithoedd brodorol yn rhy ddiffygiol mewn dysg a disgyblaeth i'w defnyddio ar gyfer gwneud trosiadau boddhaol ohono.
Yn gyffredinol ystyrid fod tri phwrpas i unrhyw astudiaeth o hanes - a) Rhoi gwybodaeth am ragluniaeth Duw.
Ystyrid y Synopsis yn un o lyfrau mathemateg pwysicaf ei gyfnod, a thrwyddo daeth William Jones i sylw dau o brif fathemategwyr Prydain ar y pryd, sef Edmund Halley (y gŵr a roes ei enw i gomed) a Syr Isaac Newton.