Y gwir amdani yw fod ymddygiad o'r fath yn gwbl groes i Reolau'r Ffordd Fawr, sy'n dweud yn eglur y dylai'r carafaniwr fod yn ystyriol o yrwyr eraill, gan adael digon o le o'i flaen i geir eraill dynnu i mewn, a hyd yn oed aros i adael i geir basio os oes angen.
Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.
Peth ystyriol, ymwybodol oedd y gobaith hwn i Elfed, nod amgen ei gyfnod.
Nid morgrugyn fel Monica yw hoff gymeriadau Saunders Lewis, ond arweinwyr sydd a'r awenau yn eu dwylo: mae cylch eu dylanwad yn gosod rheidrwydd arnynt i weithredu'n ystyriol.
Roedd swn Cerddorfa Opera Cymru yn odidog nos Sul ond neithiwr yr oedd Cerddorfa'r BBC fel pe'n fwy ystyriol o'r cantorion.
A'r iaith Gymraeg yn y blynyddoedd hyn yn ymladd am ei bywyd, mae pob Cymro ystyriol o'r farn fod angen gweithredu'n ddiymdroi i atal unrhyw ddirywiad pellach.