Er y byddai'n bosibl, wedi i broject tair blynedd ddod i ben yn llwyddiannus, i'r Swyddfa Gymreig gytuno i ariannu project newydd yn yr un maes i'w gyflawni o fewn cyfnod penodol pellach, nid ystyrir fod profiad o gyflawni project blaenorol yn fwy manteisiol na phrofiad diweddar yn y dosbarth ac anarferol fyddai penodi swyddog project am ddau gyfnod yn olynol.
'Roedd y rhaglen gyntaf i gyflwyno'r pwnc, trwy gymharu cyfoeth a thlodi a thrwy gyflwyno y syniad o'r hyn sy'n normal - amgylchiadau a sefyllfaoedd y byddem ni yma yng Nghymru yn ystyried yn normal ond sy'n hollol wahanol i'r hyn a ystyrir yn normal yn y byd ar y cyfan yn nhermau incwm, tai, trafnidiaeth, hyd oes ac yn y blaen.
Darperir pecyn integredig i godi hyder athrawon yn eu defnydd o TGCh ar draws y cwricwlwm yn dilyn cynllun NOF Ystyrir yrhaglenni teledu a'r ddarpariaeth Arlein, CD ROM a phrint fel un pecyn a fydd wedi eu teilwra'n benodol i gwrdd ag anghenion athrawon yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid ystyrir y Gymraeg mwyach yn dramgwydd politicaidd.
Meddai Raymond Williams eto, wrth drafod y diwylliant dominyddol: Mae o fewn y gymdeithas, felly, wahanol ffurfiau ar yr hyn a ystyrir yn 'synnwyr cyffredin', ac o fewn democratiaeth, rhaid i'r wladwriaeth gael ei gweld i fod yn cynnwys y rhain, hyd yn oed os ydynt weithiau yn sefyll mewn gwrthwynebiad i'w gwerthoedd hi.
Peth arall a ystyrir yn sylfaenol yw, pe byddai un gwyddonydd yn gwneud un mesuriad mewn un labordy, ac un arall yn gwneud yr union fesuriad mewn labordy arall o dan yr union amgylchiadau, yna byddai'r ddau yn cael yr un atebiad.
Pan ystyrir dyfodol yr iaith, mae'n amlwg bod yn rhaid wrth gymdeithasau bychain, megis hon yn Llanaelhaearn, i gadw'n diwylliant a'n llenyddiaeth ni fel Cymry yn fyw.
(Os darllenir y llinellau hyn gan rywun, diamau yr ystyrir fi yn ffôl yn cofnodi pethau mor wirion.) Yr oeddwn yn gobeithio yr eisteddasai Dafydd yn hen gadair ddwyfraich Abel; ond ni wnaeth hynny, a chymerodd y gadair yr arferai efe eistedd arni pan oedd Abel yn fyw.
Ystyrir atal y dirywiad hwn, a'i wrthdroi lle bo hynny'n bosibl, yn flaenoriaeth.
Mater o ofid hefyd yw crebachiad yr iaith yn yr hyn a ystyrir yn gadarnleoedd ieithyddol.
O ran Taliadau Ail-ddarlledu a Defnydd Ychwanegol ystyrir y Rhaglen Gyfansawdd yn Rhaglen newydd.
iii) Theatr mewn addysg sydd yn cwmpasu sawl un o'r elfennau creadigol a ystyrir yn hanfodol i ddatblygiad addysg plentyn.
Os ydys am weld darparu deunyddiau addysgol yn y Gymraeg yn y tymor byr, ystyrir bod angen manteisio ar sgiliau arbenigol prin y canolfannau ar gyfer gwaith golygu, cyfieithu, dylunio, a chysodi a bod angen manteisio ar brofiad a sgiliau gweinyddu'r cyfarwyddwyr eu hunain, sydd wedi denu a meithrin y sgiliau hyn o fewn eu gweithlu ac wedi sefydlu perthynas weithredol nid yn unig gyda'r gweisg a'r cyhoeddwyr ond gyda'r awdurdodau a'r athrawon unigol.
Chwarter miliwn o boblogaeth yw'r rhif a ystyrir yn angenrheidiol gogyfer â chyngor sirol.
YMHLITH YR ANIFEILIAID: Raymond B.Davies yn pori ymhlith cyhoeddiadau yn ymwneud ag anifeiliaid: Amaethyddiaeth fu diwydiant pwysicaf Cymru erioed ac yn ystod canrifoedd o ffermio'r tir datblygodd ein hamaethwyr nifer o fridiau a ystyrir heddiw yn nodweddiadol Gymreig.
Yma yng Nghymru rhoddir anogaeth i ymgais dila ac arwynebol i ymateb i sefyllfa real y Gymru sydd ohoni, tra ystyrir ein hymdrechion ni i greu Diwylliant Gweledol Cymreig go-iawn yn amherthnasol...
Cyfaddefir nad yw silicon a charbon yn ddigon tebyg i'w gilydd a phan ystyrir elfennau eraill mae'r gymhariaeth yn llai dilys eto.
Yn achos y cyrff cyhoeddus hyn, ystyrir mai'r sefydliadau unigol (sef y penaethiaid a'r byrddau rheoli) yw'r "cyhoedd" sydd yn medru hawlio ymateb yn eu dewis iaith, ar ran y staff a'r myfyrwyr unigol neu'r disgyblion a'u rhieni.
Mae'n amlwg felly bod problem cynaladwyaeth economaidd yn bodoli yng nghefngwlad yn ogystal â phroblem o gynaladwyaeth amgylcheddol - ac yn wahanol i ganllawiau Rio - ystyrir y problemau yn gwbwl ar wahân yng Nghymru.
Ystyrir Lloegr a'r Alban - drwy 'ddamwain' brenhinllin unwyd dwy wladwriaeth a pheidiodd casineb.